Ras Ffordd Elusen 10k
Ras Ffordd Elusen 10k
AM YR AIL flwyddyn yn olynol, mae’r Cambrian News yn noddi ras boblogaidd, flynyddol, elusen 10k Aberystwyth, i sicrhau ei pharhad.
Mae'r ras wedi bod yn rhedeg am y 12 mlynedd diwethaf ac mae'n denu cannoedd o redwyr.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ail-enwi yn Ras Ffordd Elusen 10k Aberystwyth y Cambrian News a bydd yn digwydd eleni ar ddydd Sul, 11 Rhagfyr 2011.
Mae Clwb Athletau Aberystwyth yn helpu’r Cambrian News i drefnu'r ras 10k, ynghyd â’r trefnydd blaenorol y Cyng Carl Williams.
Felly, mae pobl yn cael eu hannog i gael eu hesgidiau rhedeg arno a helpu i’w gwneud yn flwyddyn torri record ar gyfer y ras elusen.
Mae’r Cambrian News yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn codi miloedd o bunnoedd i elusennau.
Ac am y tro cyntaf eleni, mae pobl yn cael eu hannog i redeg mewn gwisg ffansi, gyda gwobrau ar gyfer yr unigolyn gorau a'r tîm gorau.
Bydd y rhedwyr difrifol i fyny ar y llinell gyntaf, gyda’r ymgeiswyr gwisg ffansi i ddilyn.
Bydd y rhedwyr codi arian ar gyfer yr elusen a enwir o'u dewis.
Hefyd fydd y Cambrian News ei hunain yn cynnwys dîm yn y ras, a arweinir gan y golygydd rheoli Bev Thomas.
Meddai Mrs Thomas: "Pan glywsom fod y ras 10k mewn angen am drefnwyr newydd, roeddem yn hapus i’w gymryd ymlaen er sicrhad goroesiad y digwyddiad. Mae hyn wedi dod yn ddigwyddiad elusennol pwysig a phoblogaidd yn y dref.
"Ond ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb arbenigedd Carl a heb gymorth hanfodol gan Glwb Athletau Aberystwyth.
"Rydym yn gobeithio y bydd llawer o redwyr yn codi arian ar gyfer elusennau sy'n agos at eu calonnau.
"Mae'n anodd credu y bydd yn 13eg ras flynyddol eleni. Ond mae angen llawer o bobl i ymuno a’i gwneud yr un mwyaf llwyddiannus erioed. "
Ffurflenni cais ar gael ar ffurf pdf isod.
Gallwch hefyd gael ffurflenni gan Carl Williams yn 25 Prospect Street, Aberystwyth, SY23 1JJ, neu anfonwch e-bost ato ar carlwill@ceredigion.gov.uk . Bydd ffurflen yn cael ei gynnwys yn y Cambrian News.
Mae'r ras yn cychwyn hanner ffordd i fyny Rhodfa Plas Crug am 1.30yp. Y ffi mynediad ymlaen llaw yw £14 (£12 ar gyfer athletwyr ynghlwm a’r AC). Tâl mynediad ar y diwrnod fydd £15 am bob rhedwr.
Oedran ieuengaf mynediad i’r ras yw 15. Bydd Cofrestru ar y diwrnod yng Nghanolfan Hamdden Plascrug o 10.30yb ymlaen, ond mae rhedwyr yn cael eu hannog i gofrestru o flaen llaw. Mae'r ras yn cael ei chynnal o dan y rheolau Athletau'r DU, Cwrs Tref Gwastad (mesur AC). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau drwy'r post yw dydd Llun, 5 Rhagfyr 2011.
Bydd gwobrau ar gyfer, ymysg eraill, y gwryw cyflymaf, benyw gyflymaf, meistri gwrywaidd cyflymaf (35 a throsodd), meistri benywaidd cyflymaf (30 a throsodd), a thîm busnes cyflymaf (noddwyd gan Bwyty Dolphin - gyda chyfri cyfartaledd o’r pedwar rhedwr cyntaf).
Bydd y rhedwyr gwisg ffansi yn cael eu beirniadu cyn dechrau'r ras, ond ni fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi tan ar ôl y ras.
Bydd pawb sy'n cymryd rhan gael, bag o bethau da drwy garedigrwydd y Cambrian News.






