http://www.y-cymro.comY Cymro Cymeradwyo bron £14 miliwn i wella adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo £13.89 miliwn ar gyfer gwella gwasanaethau gofal brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Bydd y cyllid sylweddol hwn yn talu am wella’r seilwaith yn Ysbyty Gwynedd, er mwyn ei wneud yn haws i’r ysbyty ymdopi pan fydd y galw’n cynyddu’n sylweddol o bryd i’w gilydd.

Bydd hefyd yn gwella’r amgylchedd i’r cleifion, y staff a’r ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd y cyllid hwn ar gyfer y cyfnod 2017-18 a 2019-20, a disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Mawrth 2017.

Bydd y buddsoddiad yn darparu’r canlynol:

Un pwynt mynediad ar gyfer yr adran

Tair ystafell brysbennu;

Ardal dadebru gyda phedair cilfan, a chilfan ynysu ar wahân sydd â mynediad allanol;

Wyth ciwbicl a dwy ystafell driniaeth;

Wyth cadair ar gyfer mân anafiadau

Uned asesu gan gynnwys ystafell aros ar gyfer perthnasau;

Cyfleusterau pediatreg, gan gynnwys tair ystafell asesu ac ystafelloedd aros penodol ar eu cyfer

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Dw i’n hynod o falch ein bod wedi gallu cyhoeddi’r cyllid cyfalaf hwn ar gyfer Ysbyty Gwynedd. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau gofal brys yn y Gogledd-orllewin.

“Yr hyn sy’n gyffrous am y datblygiad newydd yw’r bwriad i greu un pwynt mynediad ar gyfer gofal meddygol, lle bydd cleifion y mae angen gofal brys arnyn nhw yn dod i mewn i’r gwasanaeth drwy un drws er mwyn iddyn nhw gael y gofal mwyaf priodol yn seiliedig ar eu hanghenion clinigol.

"Bydd hynny’n caniatáu iddyn nhw gael eu trin a’u rhyddhau neu eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol eraill yn yr ysbyty, neu leoliad cymunedol, cyn gynted â phosibl.

“Unwaith yn rhagor dyma Lywodraeth Cymru yn buddsoddi yn nyfodol ein GIG yng Nghymru.”

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r £13.89m y mae ei angen i wella’r Adran Frys yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae’r adran yn rhy fach ar hyn o bryd, ac nid yw’n hollol addas ar gyfer bodloni gofynion ymarfer clinigol modern.

"Bydd y prosiect y pwysig hwn yn darparu safle hollol fodern ar gyfer y 52,000 o gleifion sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob blwyddyn, a bydd yn ein helpu i weddnewid ein gwasanaethau gofal meddygol a gofal brys.

“Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr ardal hon yn rhoi hwb i’n staff ymroddedig sy’n gweithio mor galed, a bydd yn ein helpu i recriwtio staff newydd."
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5064/ 2017-02-27T00:00:00-00:00 Chwifio’r faner dros Gymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Yn y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi, bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno Cymru i’r byd ac yn dangos yr hyn sydd gan y wlad i’w gynnig.

Y bore ’ma, yn Llundain, mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn lansio wythnos ‘Cymru yn Llundain’.

Bydd yn traddodi araith, ym mhencadlys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn Parliament Square, i hyrwyddo Cymru fel lle allweddol i fuddsoddi ynddo.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cynnal derbyniad Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ Lancaster i gwrdd â llysgenhadon a busnesau a leolir yn Llundain sydd â diddordeb yng Nghymru.

Ddydd Mawrth, bydd y Prif Weinidog yn teithio i Washington ac Efrog Newydd i gyfarfod â chwmnïau sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru. Bydd hefyd yn trafod cysylltiadau masnach a busnes gyda chynrychiolwyr gwleidyddol.

Yn ystod yr ymweliad ag Efrog Newydd, bydd y Prif Weinidog yn cynnal derbyniad i nodi lansiad ymgyrch dwristiaeth ryngwladol newydd gwerth £5 miliwn.

Bydd ymgyrch Blwyddyn Chwedlau 2017 yn dangos bod Cymru’n wlad gyfoethog mewn hanes, adrodd straeon a chreadigrwydd.

Yn y cyfamser, bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel, lle bydd yn cynnal y derbyniad gyda’r hwyr blynyddol ym Mhreswylfa Prydain.

Bydd Mark Drakeford hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd â chynrychiolwyr sefydliadau Ewropeaidd a Chynrychiolydd Parhaol y DU i’r UE, Syr Tim Barrow, er mwyn trafod blaenoriaethau Cymru wrth i Brydain baratoi i adael yr UE.

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn teithio i’r Emiraethau Arabaidd Unedig yr wythnos hon i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod llewyrchus Cymru.

Yn ystod ei hymweliad, bydd Lesley Griffiths yn ymuno â phump ar hugain o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn Gulfood, sef digwyddiad masnach bwyd mwyaf y byd,  i glywed am gynlluniau ar gyfer y World Expo nesaf a gynhelir yn Nubai yn 2020.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Mae Dydd Gŵyl Dewi 2017 yn nodi newid sylweddol o ran ein huchelgais i hyrwyddo Cymru i’r byd yn fwy nag erioed.

“Yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr, mae angen inni weithio hyd yn oed yn fwy caled i godi proffil a pherfformiad rhyngwladol Cymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld y lefel uchaf erioed o fewnfuddsoddiad i Gymru; y nifer uchaf erioed o dwristiaid - gan gynnwys cynnydd o 12% yn ystod y deuddeg mis diwethaf  - ac mae ein nwyddau bellach yn cael eu hallforio ar draws y byd. Felly, rydyn ni’n barod am yr her.

“Yr wythnos hon bydd y Cabinet a minnau’n dathlu diwrnod ein nawddsant drwy hyrwyddo Cymru o gwmpas y byd a dathlu popeth sydd gennym i’w gynnig.

"Byddwn yn defnyddio pob cyfle i arddangos ein diwylliant, ein hanes a’n hiaith unigryw, a dangos bod Cymru yn wlad wych i ymweld â hi ac i wneud busnes ynddi hi.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5065/ 2017-02-27T00:00:00-00:00 Golau gwyrdd i fodel llwyddiannus y goleuadau glas
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo bod y model newydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys yn cael ei roi ar waith yn ddi-oed, yn sgil ei dreialu’n llwyddiannus.

Daw’r penderfyniad ar ôl i werthusiad annibynnol, a gomisiynwyd gan y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, roi darlun cadarnhaol o’r model.

Mae’r model ymateb clinigol hwn, a gyhoeddwyd yn haf 2015, yn symud i ffwrdd oddi wrth dargedau hanesyddol sy’n seiliedig ar amser mewn perthynas â phob galwad heblaw am y rhai lle mae bywyd yn y fantol, sef y galwadau ‘coch’.

Mae’n canolbwyntio fwy ar y canlyniadau i’r cleifion, gan flaenoriaethu’r rheini sydd â’r angen mwyaf am ymateb brys.

Y targed yw ymateb i 65% o’r galwadau coch mwyaf brys o fewn wyth munud. Mae’r targed hwn o 65% wedi cael ei gyflawni bob mis ers i’r peilot gychwyn ym mis Hydref 2015. Mae perfformiad wedi parhau i wella, ac ym mhob un o’r naw mis diwethaf, mae dros 75% o alwadau coch wedi cael ymateb brys o fewn wyth munud.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Ers rhoi peilot y model ymateb clinigol newydd ar waith, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwella ei berfformiad yn sylweddol.

“Mae’r gwerthusiad annibynnol yn cadarnhau ein penderfyniad i gymryd y cam eofn o roi’r model newydd ar waith yn sgil llwyddiant y peilot.

"Wrth gynnal y gwerthusiad, gwelwyd bod y gwasanaeth ambiwlans a phartneriaid allanol i gyd yn cydnabod yn glir mai’r peth iawn a phriodol fyddai defnyddio’r model newydd hwn, sy’n newyddion gwych i ni.

“Dw i hefyd yn croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cadarnhau y bu gwelliant sylweddol mewn perfformiad o ran amser ymateb i’r rheini sydd â’r angen mwyaf am gymorth clinigol brys. Mae’r ystadegau ambiwlans diweddaraf yn cadarnhau hynny, a llai na phum munud oedd yr amser ymateb arferol i alwadau lle mae bywyd yn y fantol ym mhob un o’r chwe mis diwethaf.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y rheini sy’n ymdrin â’r galwadau, y clinigwyr, y gwirfoddolwyr a’r aelodau eraill o staff am eu holl waith caled yn sicrhau llwyddiant y model.

“Mae’n dda gweld bod y peilot wedi ennyn diddordeb dros y byd, ac mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael ei wahodd i roi cyngor i nifer o wasanaethau ambiwlans yn Lloegr ac yn yr Alban, yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd yng Nghanada, Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau, a Chile. Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban yn cynnal peilot cenedlaethol i dreialu model sy’n debyg iawn i’n model ni.

“Mae’n hanfodol ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i barhau i arwain y ffordd yn rhyngwladol yn y maes pwysig hwn, er lles pobl Cymru.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5066/ 2017-02-27T00:00:00-00:00 Cyfle i 18 o bobl ifanc weithio gyda’r Urdd
Cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru yr wythnos hon eu bod yn chwilio am 18 o bobl ifanc i ymuno gyda hwy fel prentisiaid yn mis Medi.

Gwnaed y cyhoeddiad yng nghwmni y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd yn yr wythnos yn arwain at Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol (6 – 10 Mawrth).

Dros y dair blynedd diwethaf, mae’r Urdd wedi cynnig cyflogaeth i 40 o bobl ifanc trwy eu cynllun prentisiaeth, gyda phump wedi aros am ail flwyddyn am y tro cyntaf yn 2016 i weithio tuag at NVQ Lefel 3.

Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn bennaf gyda’r adran chwaraeon a’r adran awyr agored, gyda chyfleoedd ledled Cymru.

Mae Lauren Richards yn 19 oed ac wedi dechrau gweithio gyda’r Urdd yn ardal Pen-y-bont yn mis Medi 2016,

Llynedd roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn astudio tuag at ei Lefel A.

Dywedodd: “Roeddwn yn  cael trafferth meddwl beth i wneud ar ôl fy Lefel A – mi wnes i gais i fynd i’r Brifysgol i astudio chwaraeon ond gan fy mod i yn gweithio ers pan oeddwn i yn 16 oed, mi wnes i benderfynu yn y diwedd y byddai’n well gen i fyd yn syth i fyd gwaith i ennill profiad bywyd a chyflog tra’n dysgu.”

Roedd Lauren yn arfer gwirfoddoli yn lleol gyda’r Urdd – yn arwain sesiynau dawns yn ystod dyddiau chwaraeon yr Urdd a gwneud sesiynau dawns achlysurol.

Ers cychwyn ei phrentisiaeth, mae hi wedi sefydlu nifer o glybiau cymunedol ar draws y sir.

Dywedodd: “Dwi wir yn mwynhau gweithio gyda’r Urdd.

"Y peth gorau yw fy mod yn cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o bobl – o wersi syml i blant bach 3 oed i sesiynau mwy dwys i ddisgyblion 12 – 16 oed yn fy nghyn ysgol, Ysgol Llangynwyd.

“Os nad oeddwn i’n brentis gyda’r Urdd, mae’n debyg y byddwn yn y Brifysgol yn astudio rhyw fath o gwrs chwaraeon, yn llawn dyled!

"Rwy’n gobeithio y caf aros gyda’r Urdd y flwyddyn nesaf yn gweithio tuag at fy mhrentisiaeth Lefel 3.”

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae prentisiaethau yn hanfodol ar gyfer cael economi lwyddiannus a Chymru gryfach ac wedi ei brofi yn lwybr cynaliadwy i gyflogaeth a ffyniant.

“Mae’r sgiliau mae’r prentisiaid yn eu dysgu o fudd i’r cyflogwr a’r unigolyn ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau fel y gallwn ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc dderbyn prentisiaeth.

“Yn gynharach yn y mis, fe wnes i gyhoeddi ein polisi prentisiaeth newydd fydd yn canolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau o lefel uwch gan hybu mwy o gyfleoedd i unigolion dderbyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog felly mae’n galonogol iawn fod yr Urdd yn gobeithio penodi 18 o bobl ifanc eto fel prentisiaid yn mis Medi 2017.”

Ychwanegodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd: “Ein prif nod yn yr Urdd yw rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy gynnig y prentisiaethau yma, rydym yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio mewn diwydiant sydd o ddiddordeb iddynt, trwy gyfrwng y Gymraeg, tra’n ennill cymwysterau a phrofiad bywyd.”

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Gynllun Prentisiaeth yr Urdd cysylltwch gyda Rhodri Jones ar rhodrijones@urdd.org / 02920 635 688.

Llun 1:  Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn cyfarfod cyfarwyddwr chwaraeon yr Urdd, Gary Lewis, trysorydd yr Urdd, Rheon Tomos, prif weithredwr yr Urdd, Sioned Hughes a dwy brentis yr Urdd, Rhodd Alaw a Lauren Richards

Llun 2:  Lauren Richards yn un o’i chlybiau ym Mhen-y-bont
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5069/ 2017-02-27T00:00:00-00:00 Esgob Bangor yn ymuno â galwadau i atal allgludiad Shiromini Satkunarajah
Mae Esgob Bangor, y Gwir Barchedig Andy John, wedi ymuno â galwadau i atal allgludiad Shiromini Satkunarajah i Sri Lanka a'i bod yn cael caniatâd i gwblhau ei chwrs gradd.

Dywedodd Esgob Andy: "Mae'n warth bod myfyrwraig gydwybodol, 21 mlwydd oed, yn mynd i golli tair mlynedd o waith caled o achos tri mis.

"Os oes rhaid iddi ddychwelyd i Sri Lanka, meddyliwch faint yn fwy medrith gyflawni gyda gradd ardderchog mewn peirianneg, nid yn unig iddi hi a'i theulu, ond fel model rôl ar gyfer menywod ifanc eraill yn y wlad honno

"Fel hyn bydd ganddi ddim i ddangos am ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.

"Rwyf dal heb fy narbwyllo bod allgludo yn drugarog, deg neu gyfiawn.

"Rwyf yn galw ar y Swyddfa Gartref i atal y broses er mwyn i'r achos hwn gael ei archwilio yn fanwl."

Arestiwyd Shiromini a'i Mam ym Mangor yr wythnos ddiwethaf a chludwyd wedyn at Ganolfan Allgludio Mewnfudwyr Yarl's Wood.

Maent i fod i gael eu cludo ar awyren yn ôl i Sri Lanka nos yfory (28.2.2017). Mae cyfreithwyr yn gweithio ar eu hachos, ond mae amser yn brin.

Mae dros 26,000 o bobl wedi 'llofnodi' deiseb Shiromini ar change.org

https://www.change.org/p/amber-rudd-mp-stop-shiromini-getting-deported-she-is-three-months-away-from-completing-a-degree

Llun: Shiromini Satkunarajah
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5070/ 2017-02-27T00:00:00-00:00 Prifysgol Aberystwyth – dim amod iaith i’r Canghellor nesaf
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych i benodi Canghellor newydd o 2018 ymlaen – ond mae ymgyrchwyr yn anhapus na fydd rhaid i’r ymgeisydd lwyddiannus fedru’r Gymraeg.

Mae’r Canghellor presennol, Syr Emyr Jones-Parry, wedi bod yn ddiplomat i’r DU cyn bod yn Llywydd ac wedyn yn Ganghellor i Brifysgol Aberystwyth yn 2008, ond mae ei ail dymor yn dod i ben yn 2018.

Tra bu’n Ganghellor, beirniadwyd Syr Emyr am ei safbwynt ar Neuadd Pantycelyn a materion eraill.

Does dim gofynion sgiliau na chymwysterau yn y disgrifiad swydd dwy ddudalen, a ryddhawyd ar Ddydd Llun 20 Chwefror eleni gan ddilyn penderfyniad ar Ddydd Gwener 17 Chwefror eleni. Mae’r dyddiad cau ar 3 Mawrth eleni.

Dywedodd Hedydd Elias, aelod o’r grŵp Ffrindiau Pantycelyn: “Gyda'r holl materion Cymreig a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd yn y brifysgol, credaf ei fod yn hollol warthus nad oes gofyn i'r canghellor nesaf fedru'r Gymraeg, ac mae’n syndod mawr nad yw’r brifysgol wedi cynnwys hyn yn y swydd ddisgrifiad.

"Yn ogystal â medru siarad y Gymraeg, mae angen i’r Canghellor nesaf fod yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ei g/waith bob dydd, a hefyd barchu’r gymuned Gymraeg.

"Rydym yn gobeithio mai un o flaenoriaethau’r Canghellor nesaf fydd cadw at yr addewid i ailagor Neuadd Pantycelyn erbyn mis Medi 2019.”

Dywedodd Manon Elin, aelod arall o’r grŵp: “Mae hefyd gennym bryder am y diffyg ymgynghori ynghylch hyn. Mae hon yn swydd uchel iawn o fewn y Brifysgol, ond dyw’r brifysgol ddim wedi ymgynghori gyda myfyrwyr o gwbl ar hyn.

"Dydy hyn ddim yn seiliau da iawn am arweinyddiaeth a fydd yn para am o leiaf pum mlynedd.”

Mae’r anghydfod yn dilyn ymgyrchoedd i gael rhuglder yn y Gymraeg fel amod ar gyfer swydd yr Is-Ganghellor, ac yn yr achos hwnnw, gosododd y Brifysgol amod i ddysgu’r iaith hyd at lefel D cyn ddechrau yn y swydd.

Ymateb y brifysgol

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth: "Oherwydd natur a dyletswyddau’r swydd, mae’n gwbl naturiol bod y Brifysgol yn disgwyl y bydd y Canghellor nesaf yn medru’r Gymraeg.

"Mae pedwar aelod o blith y panel dethol o chwech yn medru’r Gymraeg, ac mae pob un o’r chwech aelod yn gefnogol i’r diwylliant a’r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Dyma’r tro cyntaf i’r Brifysgol benodi Canghellor ers ei sefydlu yn 1872 ac rydym yn gwahodd enwebiadau erbyn 3 Mawrth 2017.

"Yn wahanol i swydd Cadeirydd y Cyngor, bydd y Canghellor yn canolbwyntio’n bennaf ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol gan gynnwys graddio."

Llun: Y Canghellor presennol, Syr Emyr Jones-Parry
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5057/ 2017-02-24T00:00:00-00:00 Gwnewch rhywbeth difyr gyda llyfr i ddathlu pen-blwydd Diwrnod y Llyfr yn 20 oed
Mae 2017 yn nodi ugain mlynedd o ddathliadau Diwrnod y Llyfr yn y Deyrnas Unedig, ac eleni fe’i cynhelir ar ddydd Iau, 2 Mawrth.

Bydd amryw o ddathliadau a digwyddiadau ledled Cymru ar y dyddiad hwnnw yn nodi’r achlysur pwysig – y dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Dengys ymchwil fod darllen er mwyn pleser a mwynhad yn cael mwy o ddylanwad ar lwyddiant addysgol plant na statws cymdeithasol?economaidd eu teulu (OECD, 2002), felly mae annog pobl i gael blas ar lyfrau ac i ddathlu’r mwynhad sydd ynghlwm â darllen yn bwysicach nag erioed.

Dathlu Straeon. Caru Darllen – dyna yw prif neges Diwrnod y Llyfr.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr newydd Cyngor Llyfrau Cymru: "Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Llyfr yng Nghymru ac yn teimlo ei fod yn ddigwyddiad pwysig sydd yn cael ei ddathlu mewn ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau ac ar y cyfryngau.

"Mae’n gyfle arbennig i bwysleisio’r dewis gwych o ddeunydd darllen sydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt."

Ychwanegodd Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen y Cyngor, ei fod yn ddiwrnod delfrydol i gael seibiant yng nghwmni’ch hoff lyfr ac i ymuno â dathliad lleol: "Mae’n anodd credu bod Diwrnod y Llyfr yn ugain oed eleni.

"Am esgus gwych i fwrw golwg yn ôl dros y cyfoeth o lyfrau a straeon sydd wedi eu cyhoeddi a’u mwynhau yn ystod y cyfnod hwn! Wrth ddathlu a rhannu straeon gallwn ysbrydoli ac annog eraill i wneud yr un peth."

Eleni, bydd Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo yn y Barri, yng nghwmni tua 700 o blant rhwng 8 a 13 mlwydd oed. Bydd y sioe yn cynnwys chwech o awduron a darlunwyr blaenllaw, sef Steven Butler, Abi Elphinstone, Jim Smith, Cathy Cassidy, Martin Brown ac Eloise Williams.

Yn ogystal â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru hefyd yn derbyn nawdd gan y llyfrwerthwyr Waterstones. Bydd gan y cwmni siop lyfrau dros dro yn y Memo lle y cynhelir sesiwn arwyddo gyda’r awduron.

"Mae Waterstones yn falch o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar Ddiwrnod y Llyfr, ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor yn chwarae rhan hanfodol yn y sector lenyddol, ac mae ein partneriaeth barhaus ar Ddiwrnod y Llyfr yn brawf o hynny," meddai Steve Gane ar ran Waterstones.

I’r rheiny fydd yn ymuno â’r dathliadau ar?lein, bydd y sialens boblogaidd #hunlyfr yn cael ei chynnal eto eleni ac yn cael ei hyrwyddo ar Ddiwrnod y Llyfr, a chynigir gwobrau am y lluniau gorau. Mae yna hefyd gwis ar gael i’w lawrlwytho, sydd yn seiliedig ar lyfrau a gyhoeddwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf. Am fwy o wybodaeth a syniadau ewch i http://readingwales.org.uk/cy/diwrnod?y?llyfr/

"Ein bwriad yn syml," meddai Angharad, "yw annog plant, disgyblion ysgol, rhieni a phobl ledled Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu’n dal llyfr, ac i lwytho’r llun ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnodau #hunlyfr #diwrnodyllyfr20. Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd â llyfrau o bob math."

Eleni, bydd cynulleidfa darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr yn treulio noson ddifyr tu hwnt yng nghwmni ysbrydoledig Peter Florence, cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli. Testun ei sgwrs fydd ‘Dychmygwch y Byd: Hanes am lyfrau a gwyliau’. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gydnabod cyfraniad ariannol hael Mererid ac Angharad Puw Davies tuag at y ddarlith, a hynny er cof am eu rhieni, Roger a Catrin Puw Davies, a gyfrannodd gymaint i’r byd llyfrau yng Nghymru.

Cynhelir y ddarlith yn y Pierhead, Bae Caerdydd, nos Iau, 2 Mawrth. Darperir lluniaeth ysgafn am 6.00 pm a bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30 pm. Darlith i wahoddedigion yn unig yw hon, wedi ei noddi gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, fydd yn ei mynychu. Cysylltwch â Menai Williams (menai.williams@llyfrau.cymru 01970 624151) am wybodaeth bellach.
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5058/ 2017-02-24T00:00:00-00:00 Ymestyn cyllid y Gwasanaeth Di-waith tan 2020
Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wedi cyhoeddi y bydd cyllid ar gyfer rhaglen y Gwasanaeth Di-waith yn cael ei ymestyn hyd at fis Awst 2020.

Mae'r Gwasanaeth Di-waith, a lansiwyd ym mis Medi 2016, yn helpu pobl sy'n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl drwy gynnig cyngor cyflogaeth a chefnogaeth gan bobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg yn y gorffennol.

Mae'r cynllun yn cefnogi pobl rhwng 16-24 oed sy'n gwella o'r problemau hyn ac sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.

Mae hefyd yn helpu pobl sy'n 25 oed neu'n hŷn sy'n yr un sefyllfa ac yn ddi-waith ers cyfnod hir.

Caiff y rhaglen ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.

Mae'n cael ei chynnal ledled Cymru, ac ar ben helpu pobl i wella a datblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd, mae hefyd yn cynnig cymorth pontio o hyd at dri mis i'r rhai sy'n cael gwaith ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen.

Bydd ymestyn y cyllid yn sicrhau bod y ddau grŵp yn parhau i gael cymorth hyd at 2020.

Bwriedir rhoi cyfanswm o £17.3m tuag at y rhaglen, sy'n cynnwys £11.5m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd Rebecca Evans: "Mae'n bleser cyhoeddi'r estyniad hwn i'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon sydd â'r nod o gefnogi hyd at 14,000 o bobl i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith ac aros mewn swydd.

"Bydd yn rhoi cyfleoedd newydd ac yn gwella canlyniadau unigolion sy'n ddi-waith, yn aml y rheini sydd bellaf o fod yn rhan o’r farchnad waith, fel eu bod yn gallu cael y cymorth y maen nhw ei angen i ddatblygu eu sgiliau a chael swydd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford: "Mae bod mewn swydd yn gallu helpu pobl sy'n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.

"Drwy gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth, mae'r prosiect hwn yn cefnogi miloedd o unigolion ledled Cymru i ymuno â'r farchnad waith ac i aros yn rhan ohoni.

"Rwy'n falch bod arian gan yr Undeb Ewropeaidd wedi ein galluogi i ymestyn y rhaglen hon. Mae’n golygu y bydd llawer mwy o bobl yn gallu elwa ar ddyfodol iach."

Llun: Rebecca Evans

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5060/ 2017-02-24T00:00:00-00:00 Myfyriwr dosbarth cyntaf ym Mangor yn wynebu alltudiaeth wythnosau cyn ei arholiadau
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams wedi beirniadu’r Swyddfa Gartref am ddangos difaterwch creulon i dynged un o’i etholwyr sy’n wynebu cael ei halltudio i Sri Lanka, tri mis cyn cwblhau ei gradd mewn Peirianneg Trydanol ym Mhrifysgol Bangor, lle mae disgwyl iddi gael gradd dosbarth cyntaf.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cais am loches gan Shiromini Satgunaraja a’i mam a wnaeth ffoi Sri Lanka yn 2009  pan oedd ei theulu yn cael eu heffeithio gan y rhyfel cartref yn y wlad.

Deuddeg oed oedd hi ar y pryd.

Ers  cyrraedd y DU, mae Shiromini wedi gorfod delio â marwolaeth ei thad ynghyd â gofalu am ei mam sy’n sâl; i gyd tra'n astudio tuag at ei gradd ym Mangor.

Er gwaethaf sefydlu cysylltiadau cymdeithasol cryf â'r DU a gyda bwriad o ddilyn gyrfa mewn peirianneg, mae Shiromini yn wynebu alltudiaeth yr wythnos nesaf (Dydd Mawrth 28 Chwefror) ac yn cael ei chadw ar hyn o bryd yng Nghanolfan Gadw Yarlswood yn Swydd Bedford.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae Sri Lanka yn parhau i fod yn le peryglus iawn a tydi Shiromini heb gael unrhyw gysylltiad gwirioneddol gyda'r wlad ers iddi fod yn blentyn.

“Mae ei halltudiaeth ar fin digwydd; nid yn unig yw hyn yn anghyfiawn ac yn annheg, ond bydd yn amddifadu Cymru ac yn wir economi'r DU o’r cyfraniad y bydd yn ei wneud yn ei maes.

“Byddai’n gaffaeliad i'r wlad hon ar adeg pan efallai y byddwn yn wynebu prinder difrifol o arbenigwyr medrus ac addysgedig.

“Gyda dim ond tri mis ar ôl ar ei chwrs academaidd, mae'n ymddangos yn gam gwag iawn i gwtogi ei hastudiaeth ym Mangor, dadwreiddio ei theulu a disgwyl iddi barhau fel yr arfer yn ôl yn Sri Lanka lle, fel y deallaf, nid oes unrhyw gwrs tebyg a fyddai’n galluogi iddi raddio.

“Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr dyngarol a dim synnwyr o gwbl o ran anghenion busnes ein gwlad.”

Ychwanegodd Pennaeth Peirianeg Trydanol Prifysgol Bangor, Iestyn Pierce: “Mae ffigurau Shiromini Satgunaraja ymhlith y rhai gorau o fyfyrwyr yr Ysgol Beirianneg Electronig, ar ôl sicrhau graddau uchel iawn yn ei arholiadau mis Ionawr.

“Dros y blynyddoedd yr rwyf wedi adnabod Shiromini mae wedi profi i fod yn eithriadol o alluog a diwyd, ac wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i'r Ysgol a'r Brifysgol, gan gynnwys cadeirio cangen leol o Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electroneg.

“Mae hi wedi ei chofrestru ar gwrs gradd MEng pedair blynedd, gyda dim ond ychydig wythnosau yn weddill ar ei thrydedd flwyddyn o astudio, a gyda'r opsiwn o raddio yr haf hwn gyda gradd BEng.

"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn cyflawni anrhydedd dosbarth cyntaf.

"Os caniateir iddi raddio byddai Shiromini yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr o'r gweithlu mewn pwnc sydd â phrinder graddedigion ledled y byd.

"Yn ddi-os, os caniateir i barhau â'i hastudiaethau, gall hi gyfrannu at gymdeithas mewn meysydd fel ynni carbon-isel, cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol."

Llun: Shiromini Satgunaraja
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5062/ 2017-02-24T00:00:00-00:00 Arian yr UE yn helpu i ymestyn rhaglen ôl-radd mewn gwasanaethau ariannol yng Nghymru
Mae rhaglen ôl-radd sy'n helpu i ddatblygu a chadw gweithwyr ac arweinwyr y dyfodol yn y sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru yn cael ei hymestyn am ddwy flynedd arall o ganlyniad i hwb ariannol o £1miliwn gan yr UE.

Bydd y cyllid yn ymestyn Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru hyd at 2019 gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu gyrfaoedd ar y cyd â rhai o brif gwmnïau gwasanaethau ariannol Cymru fel Admiral, Atradius, GM Financial a Principality.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau gwaith i raddedigion ym meysydd tanysgrifennu, rheoli buddsoddiadau, datblygu cynnyrch a chyfrifo, tra hefyd yn cwblhau gradd Meistr mewn Rheolaeth Gwasanaethau Ariannol sydd wedi'i hariannu'n llawn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Dyma raglen wych sy'n cryfhau un o'n prif ddiwydiannau gan gadw pobl ifanc uchelgeisiol yng Nghymru a denu unigolion dawnus i'n sector ariannol ar yr un pryd.

"Rwy'n blês iawn bod £1 miliwn arall o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cefnogi'r estyniad hwn ac yn helpu i ariannu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus yma yng Nghymru.

"Dyma achos arall sy'n dangos mor bwysig yw arian yr Undeb Ewropeaidd i Gymru, gan ategu ein cais i gael cyllid yn ei le o goffrau'r Deyrnas Unedig ar ôl 2020 i roi hwb i economi Cymru."

Caiff yr estyniad i'r rhaglen ei ariannu hefyd gan fuddsoddiad gwerth £1.4m gan y cwmnïau o'r diwydiant yng Nghymru a fydd yn cymryd rhan ynddi.

Dywedodd Sandra Busby, Rheolwr Gyfarwyddwr Fforwm Gwasanaethau Cyllid Cymru sy'n arwain y Rhaglen: "Mae Cymru'n cystadlu gyda gweddill y byd am yr unigolion mwyaf addawol ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

"Yn hyn o beth, mae Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru wedi bod yn arf bwysig wrth gadw a denu graddedigion i Gymru, gan roi blas iddyn nhw o sut y gallan nhw greu gyrfa lewyrchus iddyn nhw eu hunain yn y maes.

"Mae graddedigion o Gymru, ac yn wir o bob cwr o'r byd, yn cymryd rhan yn y rhaglen gan elwa ar y profiad sy'n dod o weithio yn y prif sefydliadau tra hefyd yn astudio tuag at radd Meistr MSc mewn Rheolaeth Gwasanaethau Ariannol.

"Byddan nhw wedyn yn mynd yn eu blaenau i gael swyddi parhaol yn y sector yma yng Nghymru.

"Mae hyn yn dystiolaeth sy'n profi bod y cynllun yn gweithio.

"Mae’r penderfyniad hwn i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall diolch i gyllid pellach gan yr Undeb Ewropeaidd yn gam cadarn a blaengar i economi Cymru."

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5048/ 2017-02-23T00:00:00-00:00 Trelar Ifor Williams Trailers yn helpu dau o Ddenmarc i ennill un o ralïau caletaf y byd
Mae gwneuthurwyr trelars mwyaf Ewrop wedi helpu dau anturiwr dewr o Ddenmarc i sgrialu i fuddugoliaeth yn un o ralïau caletaf y byd.

Jacob Glad ochr yn ochr â’i ffrind a’i gyd-yrrwr Philip Hansen oedd enillwyr cyffredinol y digwyddiad trawsgyfandirol enwog yn eu cerbyd pob tir pwerus, gan gwmpasu 2,000 o filltiroedd ar y tir caletaf ar y blaned o Sbaen i Senegal mewn record newydd o ychydig dros 58 awr.

Roedd hynny er gwaethaf gorfod delio â thân trydanol difrifol yng nghanol Diffeithwch y Sahara a wnaeth fygwth roi terfyn i’w gobeithion o hyd yn oed orffen y rali.

Yn gefnogaeth i’r tîm trwy bob milltir arw oedd trelar fan bocs Ifor Williams Trailers wedi ei lwytho â’r holl offer wrth gefn a chyflenwadau argyfwng hollbwysig.

Roedd y trelar tir garw BV 106, wedi ei bacio â rhannau sbâr, offer a bwyd ar gyfer y ddau fentrus a’u tîm cefnogi o bedwar, yn ddewis amlwg i Jacob 45 oed, sy’n Brif Swyddog Gweithredol Glad Trading, dosbarthwr swyddogol Ifor Williams Trailers yn Nenmarc ers 2010.

“Mi wnes i ddewis y trelar am ei fod yn gadarn ac yn ddibynadwy - y math o ddibynadwyedd y mae Ifor Williams yn enwog amdano - ac mae hynny’n hanfodol bwysig mewn rali mor anodd,” meddai.

Hwn oedd y pedwerydd tro i Jacob a Philip, sydd hefyd yn 45 oed ac sydd wrth ei fodd â ralïau eithafol, gymryd rhan yn y Rali Trawsgyfandirol.

Yn nigwyddiad 2013 mi wnaethon nhw sbarduno eu hunain i’r trydydd safle yn y dosbarth Car, gan ddod yn ail yn Rali 2014 ac ennill y gystadleuaeth yn 2015. Gwelodd eu hymgais ddiweddaraf nhw’n ychwanegu buddugoliaeth yn yr un dosbarth at eu coron gyffredinol.

Mi wnaeth dros 70 o gerbydau 4x4 a baratowyd yn arbennig ar ddwy a phedair olwyn gymryd rhan yn nigwyddiad 2017 gan danio eu ffordd o Almeria yn ne Sbaen ar 23 Ionawr, a chyrraedd Lac Rose, Dakar yn Senegal ar Chwefror 5.

Mae’r digwyddiad oddi ar y ffordd blynyddol wedi ei ddyfeisio yn arbennig fel taith antur ar gyfer modurwyr brwd.

Mae llwybr y rali yn mynd drwy rai o’r tirweddau mwyaf ysblennydd ym Moroco, Mauritania a Senegal, ac yn amrywio o dwyni tywod diddiwedd y Sahara i eangderau diffaith yr anialdiroedd arfordirol, llwybrau creigiog Mynyddoedd yr Atlas, a’r safana isel.

Yn ystod pob cymal o’r rali, roedd y cystadleuwyr yn rasio yn erbyn y cloc ar gwrs oddi ar y ffordd gan ddefnyddio derbynwyr GPS i lywio ac ennill credydau drwy gyrraedd pwyntiau rheoli.

Roedd Jacob yn gafael yn llyw bwystfil gyriant pedair olwyn nerthol y QT Wildcat, sydd â ffrâm a siasi wedi eu haddasu, ac a gafodd ei adeiladu gan gwmni Bowler yn y Deyrnas Unedig.

Yng nghrombil y bwystfil y mae injan betrol Land Rover V8 4.4 litr – a oedd unwaith eto yn ddewis naturiol i Glad Trading, cwmni a ddechreuwyd gan Peer, tad Jacob, dros 40 mlynedd yn ôl ac sy’n dal wedi ei lleoli yn Kalundborg ar ynys Seland, ac sydd hefyd yn un o ganolfannau gwasanaeth swyddogol ar gyfer cwmni Land Rover yn Nenmarc.

Dywedodd Jacob: “Mae gan y Wildcat QT injan sychedig iawn ac mae’n rhaid cael tanc petrol 375 litr sy’n golygu nad oes llawer o le y tu mewn i bob un o’n darnau sbâr a’r cyflenwadau eraill a dyna pam wnaethon ni fynd â threlar Ifor Williams gyda ni hefyd.

"Roedd y trelar yn cael ei dynnu gan Land Rover Discovery 4, sef ein cerbyd wrth gefn, a oedd yn cludo ein tîm cefnogi o bedwar gan gynnwys mecanic a’n dyn camera swyddogol.

“Mae’r trelar yn newydd sbon ac fe’i anfonwyd draw atom o ffatri Gogledd Cymru yng nghanol mis Rhagfyr.

“Ni wnaethon ni dreulio cyfanswm o 60 awr yn gosod addasiadau ar gyfer y rali, gan gynnwys gosod olwyn sbâr, goleuadau tu mewn a’r tu allan yn ogystal â batri a generadur ar gyfer pŵer ychwanegol.

"Mae’r rhain i gyd yn ffitio i mewn yn hwylus gan fod yna cryn dipyn o le yn y trelar, sydd dros saith metr sgwâr o ran gofod."

Dywedodd Jacob: “Mi wnaethon ni osod traciwr GPS hefyd er mwyn i ni allu dod o hyd iddo eto petai rhaid i ni ei adael ar ôl yn y diffeithwch am ba bynnag rheswm ond diolch byth, nid oedd rhaid i ni wneud hynny."

Ychwanegodd: “Aeth y rali gyfan yn dda iawn i ni ac ni ddaeth unrhyw anafiadau nac afiechydon i ran unrhyw aelod o’r tîm.

“Weithiau rydych chi’n mynd yn sâl drwy fwyta’r pethau anghywir ond aethom â’n holl bwyd sych ein hunain gyda ni yn y trelar.

“Perfformiodd y Wildcat yn dda iawn a’r unig broblem wirioneddol a gawsom oedd tân trydanol wrth i ni yrru trwy Anialwch y Sahara ym Mauritania.

"Er ein bod ni wedi gallu ei ddiffodd yn gyflym iawn, toddodd lawer o’r gwifrau a oedd yn agos iawn at y tanc tanwydd.

“Er gwaethaf ein bod yng nghanol y diffeithwch, i wnaethon ni ddod o hyd i bentref bach lle’r oedd rhywun yn gallu ei drwsio cyn i ni fynd ar ein ffordd unwaith eto.”

Dywedodd Jacob ynghyd ag amrywiaeth enfawr o dir, bu rhaid i’r tîm ddelio â rhai newidiadau eithafol yn y tywydd.

Pan ddechreuon nhw ym Moroco, roedd y tymheredd mor isel â minws pedwar gradd ar un cyfnod ym Mynyddoedd yr Atlas a bu rhaid iddynt yrru trwy 20cm o eira.

“Aethom drwy storm dywod yn y Sahara lle na allem weld pum metr o’n blaenau ac yn nes ymlaen yn Senegal, roedd y tymheredd yn ystod y dydd yn 30-35C a oedd yn gwneud y modur yn boeth iawn a’n gorfodi ni i haneru ein cyflymder am ychydig,

“Mi wnaethon ni newid ein dillad o ddillad isaf sgïo i siorts a chrysau T ar hyd y ffordd.

“Ar ddiwedd hyn i gyd, roeddem wrth ein boddau o fod yn fuddugwyr cyffredinol ac enillwyr y dosbarth Car ac roedd hi’n wych cyrraedd Dakar lle’r oedd modd i ni aros mewn gwesty pedair seren a mwynhau gwelyau glân a thoiledau glân am y tro cyntaf mewn pythefnos.

“Rydw i wrth fy modd  â’r ffordd y gwnaeth trelar Ifor Williams berfformio ac ymdopi gyda phob math o dir garw.

“Rydym wedi ei gludo nôl i Ddenmarc erbyn hyn ac oherwydd yr holl waith rydym wedi ei wneud i’w addasu ar gyfer y rali, hoffem ei ddefnyddio eto.

“Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn ni’n rhoi cynnig ar y gystadleuaeth Trawsgyfandirol eto ac efallai y byddwn yn dechrau chwilio am her arall gyda rali hir arall.

“Mae pobl wedi gofyn pam wnaethon ni ddal ati i wneud y gystadleuaeth Trawsgyfandirol mor bell i ffwrdd o wareiddiad gyda dim ond cawodydd oer a thoiledau gwael iawn ond mae’n antur wych a gallwch ddychmygu pa fath o luniau sy’n aros yn eich cof.”

Dywedodd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers: “Mae Glad Trading yn ddosbarthwr uchel ei barch, felly roeddem yn falch iawn o glywed bod Jacob wedi dewis trelar BV106-6 i chwarae rhan mor hanfodol yn y rali yma.

“Fel mae’n gwybod o’i brofiad ei hun fel un o ddosbarthwyr Ifor Williams ers blynyddoedd lawer, fod y trelar yma yn un o’n modelau mwyaf poblogaidd sy’n cyfuno bod yn hawdd i’w drin â gwneuthuriad cadarn – ac yn amlwg roedd galw mawr am hynny wrth iddo deithio ar hyd peth o’r tir mwyaf garw ar wyneb y ddaear.

“Rydym wrth ein boddau fod y trelar wedi bod yn gymaint o fantais iddo a helpu ei dîm i fuddugoliaeth yn y digwyddiad hynod hwn.

“Roedd pawb nôl fan hyn yng Ngogledd Cymru y tu ôl i Dîm Glad bob cam o’r ffordd ond roeddem yn gwbl hyderus na fyddai’r trelar yn eu gadael nhw i lawr.”
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5049/ 2017-02-23T00:00:00-00:00 Yr Arglwydd Wigley yn mynnu mwy na geiriau teg i Gymru ar fater Brexit
Mae arglwydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi annog Llywodraeth y DG i brofi eu gonestrwydd trwy gefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fesur Erthygl 50 yn seiliedig ar Bapur Gwyn Plaid Cymru-Llywodraeth Cymru ar y cyd, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’.

Trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno safbwynt clir, unedig a chryf yn y papur gwyn trawsbleidiol, gyda budd economaidd Cymru, ei swyddi a’i bywoliaeth yn ganolog iddo.

Mae arglwydd Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’w ystyried yn ystod Cyfnod Pwyllgor y Mesur, sydd yn galw am “fynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd” llinell goch bwysicaf y papur gwyn.

Wrth siarad yn ystod Ail Ddarlleniad Mesur Erthygl 50, dywedodd Dafydd Wigley: “Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud ymrwymiadau diamod dro ar ôl tro y buasent yn gwrando ar y gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio eu cynlluniau Brexit.

"Hyd yma, nid ydym wedi gweld fawr ddim tystiolaeth o weld yr ymrwymiadau hyn yn dwyn ffrwyth.

“Mae ar Gymru angen mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl.

"Dyna sail y papur gwyn gwych a gynhyrchwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

“O safbwynt Cymreig, mae dwy ran o dair o’n hallforion gweithgynhyrchu yn mynd i wledydd yr UE.

"Gallai cwmnïau fel Ford, Airbus, Siemens a Toyota ddioddef ergydion trymion oherwydd rhwystrau tariff.

"Mae dau gant o gwmnïau Americanaidd a 50 o gwmnïau o Siapan wedi eu lleoli yng Nghymru er mwyn gwerthu i farchnadoedd yr UE.

"Bydd yr elfen strategol honno o bolisi diwydiannol yng Nghymru yn cael ei thanseilio gan Brexit caled.

“Mae ein sector amaethyddol yn wynebu heriau cyffelyb.

"Mae dros 90% o allforion cig eidion a chig oen a defaid yn mynd i farchnadoedd yr UE.

Byddai unrhyw rwystrau tariff yn ergyd farwol i’r Gymru wledig.

“Dan y teitl ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, mae ein papur gwyn yn galw am ‘gyfranogi yn llawn yn y Farchnad Sengl’.

"Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn gwelliannau i’r perwyl hwnnw.

"“Rhaid i Weinidogion Brexit yn awr roi gweithredoedd yn lle eu geiriau.”

Llun: Yr Arglwydd Wigley

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5050/ 2017-02-23T00:00:00-00:00 £800,000 i’r Geiriadur Eingl-Normaneg
Mae iaith Gwilym Goncwerwr wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil cyhoeddi grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i’r Geiriadur Eingl-Normaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ffurf o Ffrangeg ddaeth i Brydain yn dilyn cwymp y Brenin Eingl-Sacsonaidd Harold yn 1066 yw Eingl-Normaneg a’r iaith yn cael ei defnyddio'n helaeth ym Mhrydain tan ddiwedd y bymthegfed ganrif - yr Oesoedd Canol hwyr.

Mae ei dylanwad dal yn gryf heddiw gyda mwy na 50% o eiriau Saesneg cyfarwydd yn deillio o Eingl-Normaneg.

Ymhlith y geiriau Saesneg sy’n tarddu o Eingl-Normaneg ac sy’n cael eu defnyddio ym maes coginio cyfoes mae 'soup', 'lettuce', 'pheasant', 'pastry', 'ginger', 'sauce', 'chestnut' a 'mustard'.

Yn ei hanterth fe'i defnyddiwyd yn eang fel iaith llenyddiaeth, masnach, y gyfraith, addysg a gweinyddiaeth a hynny ymhell cyn i Saesneg Canol ymddangos yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.

Cyfieithwyd dogfennau megis y Magna Carta a chyfreithiau Gwilym Goncwerwr o’r Lladin i'r Eingl-Normaneg, a byddai’r bardd John Gower, a oedd yn byw yn yr un cyfnod â Chaucer, yn ysgrifennu mewn Saesneg, Lladin ac Eingl-Normaneg.

Nawr mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn grant ariannol pellach o ychydig dros £800,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).

Mae'r grant am gyfnod o bedair blynedd o fis Mawrth 2017 tan fis Chwefror 2021 ac mae'n dilyn dyfarniadau tebyg gan yr AHRC yn 2008 a 2012.

Cafodd golygiad cyntaf y Geiriadur Eingl-Normaneg ei gyhoeddi mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1977 a 1992.

Yna, yn 2001 sefydlwyd fersiwn ar-lein ac fe'i datblygwyd gyda chymorth yr AHRC o dan arweiniad y diweddar Athro David Trotter.

Erbyn hyn mae’r Geiriadur wedi cyrraedd y llythyren Q, a bydd adran llythyren P yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis hwn.

Bydd y grant diweddaraf hwn yn galluogi'r tîm i ysgrifennu cofnodion newydd ar gyfer y llythrennau R ac S trwy ddadansoddi’r eirfa mewn gweithiau Eingl-Normaneg, sydd yn fwy na 1,000 mewn nifer ar hyn o bryd, yn ogystal â deunydd newydd o olygiadau ac ymchwil newydd sy’n parhau i gael eu hychwanegu.

Bydd hefyd yn hwyluso trosglwyddiad y geiriadur i fod yn eiriadur hanesyddol, drwy ychwanegu cronoleg at yr holl gofnodion sy'n dangos eu swyddogaeth yn natblygiad hanesyddol Ffrangeg a Saesneg yn yr Oesoedd Canol.

Dywedodd Dr Geert De Wilde, Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg: "Mae astudio Eingl-Normaneg yn hanfodol ar gyfer dealltwriaeth o ddiwylliant a chymdeithas ganoloesol ym Mhrydain ac yn rhan hanfodol o hanes yr iaith Saesneg.

"Rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddiad yr AHRC i barhau i gefnogi tîm presennol y Geiriadur Eingl-Normaneg, a thrwy hynny astudiaeth o ieithyddiaeth ganoloesol a hanes iaith ym Mhrydain.

"Lle bynnag yr ydych yn edrych - croniclau hanesyddol, traethodau meddygol, cofnodion cyfreithiol - mae rôl ganolog yr Eingl-Normaneg ym mywyd Prydain y Canol Oesoedd yn amlwg, ac mae datblygiad y geiriadur wedi bod yn allweddol wrth sefydlu'r iaith fel un o brif dafodieithoedd Ffrangeg canoloesol yn gyffredinol.”

Dywedodd Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd ar y Geiriadur Eingl-Normaneg (GEN): "Bydd y dyfarniad hwn yn caniatáu i'r tîm drawsnewid y GEN yn eiriadur cwbl hanesyddol a rhoi dyddiad i bob gair ac ystyr yn y geiriadur

"Bydd hyn yn arwain at ddarlun cliriach o'r defnydd o'r iaith ym Mhrydain y Canol Oesoedd yn ogystal â thaflu goleuni dros y berthynas gymhleth rhwng Saesneg, Ffrangeg a Lladin yn ystod y cyfnod hwn.

"Yn ogystal, byddwn yn estyn allan i archifau ledled Cymru er mwyn cael syniad ehangach o'r dogfennau Eingl-Normaneg sydd wedi goroesi yng Nghymru, gyda'r bwriad o ddeall yn well sut y byddai’r iaith yn cael ei defnyddio gan y bobl oedd yn byw yng Nghymru."

Yn 2011 dyfarnwyd gwobr y Prix Honoré Chavée i’r Geiriadur gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres yn Ffrainc, ac mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda geiriaduron Ffrangeg canoloesol yn Nancy, Ffrainc a Heidelberg yn yr Almaen, yn ogystal â'r Oxford English Dictionary.

Bydd y grant AHRC diweddaraf hefyd yn galluogi'r tîm i hyrwyddo gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r Eingl-Normaneg ymhlith y cyhoedd yn ehangach, nid yn unig drwy gyhoeddiadau a chynadleddau academaidd, ond hefyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol, blog ar yr Eingl-Normaneg a chyflwyniadau wedi'u targedu at archifwyr, amgueddfeydd a chymdeithasau hanes lleol.

Mae’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar gael ar-lein ynghyd â blog sy'n rhoi sylwebaeth ar darddiad geiriau – ac mae’r rhifyn diweddaraf a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2017 yn trafod geiriau Cymraeg yn yr Eingl-Normaneg. Mae hefyd yn bosibl dilyn datblygiadau diweddaraf y prosiect ar Facebook a Twitter @ANDictionary.

Llun: Tîm y Geiriadur Eingl-Normaneg: (chwith i’r dde) Dr Geert De Wilde, Prif-Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect, Dr Megan Tiddeman, Cynorthwyydd Golygyddol Ol-Ddoethurol, a Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5054/ 2017-02-23T00:00:00-00:00 Disney yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd
Bydd pump o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Disneyland Paris yn ystod penwythnos Cymreig i ddathlu Gŵyl Ddewi rhwng 3 – 5 Mawrth.

Y pump fydd yn teithio i Baris eleni fydd Beca Hogg o’r Wyddgrug (7 oed), Rhys Lloyd Thomas o Lanrwst (8 oed), Alaw Evans o Bontyberem (16 oed), Siwan Mason o Lanfairpwll (16 oed) a Daniel Jones o Gaerdydd (16 oed). Yn ymuno gyda hwy allan yno bydd Côr Aelwyd Waun Ddyfal, Caerdydd.

Eleni am y tro cyntaf, bydd Disney yn cynnig gweithdy sioeau cerdd arbennig gydag arbenigwyr yn y maes fore Gwener, 3ydd o Fawrth.

Mae’r gweithdai yn rhan o gynllun Performing Arts OnStage Disney sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc berfformio, cystadlu a mynychu gweithdai o’r safon uchaf.

Dyma fydd yr wythfed blwyddyn i gystadleuwyr yr Urdd gael teithio i Baris i berfformio yn y penwythnos Cymreig.

Dywedodd cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion: “Rydym yn hynod o falch o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei sefydlu gyda Disneyland Paris.

"Mae hwn yn gyfle gwych i’r criw ifanc gyflwyno ein diwylliant unigryw Gymreig i gynulleidfa o bob cwr o’r byd, ac i gael gweithdy sioeau cerdd gydag arbenigwyr o’r Maes – profiad na wnânt fyth ei anghofio.”

Ychwanegodd Peter Welch Is-Lywydd Masnachol Disney Destinations International: “Rydym eleni yn falch o gynnig profiadau newydd i enillwyr yr Urdd yn ystod ein dathliadau Gŵyl Ddewi trwy ein rhaglen Perfoming Arts OnStage Disney.

“Fel Cymro fy hunan, mae’r Ŵyl Gymreig yn ddigwyddiad yr ydym yn falch iawn ohono gan ei fod yn arddangos diwylliant Cymreig i’n gwesteion rhyngwladol.

"Rydyn hefyd yn ffodus iawn o’n perthynas gyda’r Urdd sy’n gallu cynnig perfformwyr o’r safon uchaf i ni.

"A chan fod y tân gwyllt uwchben Palas y Dywysoges Drwm ei Chwsg hefyd ar thema gŵyl Ddewi, mae wir yn benwythnos gwych i ymweld â Disneyland Paris.”

Llun:  Daniel, Alaw a Beca gyda chynrychiolydd o Dineyland Paris
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5055/ 2017-02-23T00:00:00-00:00 Côr chwedlonol yn cyflwyno Cyngerdd Gŵyl Ddewi ym mhrif ddinas corawl y byd
Bydd canolfan glodforir fel prif ddinas canu corawl y byd yn cyflwyno Cyngerdd Gŵyl Ddewi syfrdanol yn amlygu côr byd-enwog Côr Meibion y Rhos.

Cynhelir y cyngerdd yn theatr y Stiwt, adeiladwyd yn Rhosllannnerchrugog ger Wrecsam yn y 1920au diolch i ymdrechion glew glöwyr pentref mwyaf Cymru.

Y Stiwt yw cartref y côr chwedlonol ddathlodd ei benblwydd yn 125 llynnedd. Mae’r côr yn hŷn hyd yn oed na’r Ganolfan oedd yn 90 oed yn 2016.

Daeth y Stiwt yn eicon celfyddydol ers ei achub rhag ei ddymchwel yn 1999 diolch i’r farn boblogaidd.

Daeth y theatr i fod yn gartref i dri o’r chwech côr o’r radd uchaf sy’n hannu o’r pentref, gan gynnwys Côr Meibion y Rhos fydd yn serennu yn y cyngerdd i ddathlu ddydd Nawdd Sant Cymru ar nos Wener Mawrth 3ydd.

Dywedodd Geraint Phillips, ysgrifennydd y Côr: “Bydd côr enwog y Sireniaid hefyd yn rhannu’r llwyfan ynghyd â nifer o sêr Côr Ieuenctid Sir Wrecsam.

“Rydym wedi trefnu cyngerdd i ddathlu Gwyl Ddewi ers sawl blwyddyn bellach a chan mai yma rydym yn ymarfer yn wythnosol rydym yn ei gynnal yn y Stiwt sy’n ganolfan atmosfferaidd.

“Wrth gwrs, nid ni yw’r unig gôr i ymgartrefu yn y Stiwt. Mae chwech côr yn y cyffiniau gan gynnwys tri chôr meibion, dau gôr cymysg ac un côr marched.

"Mae hanner y corau yn ymarfer yn y Stiwt ac felly gellir hawlio mai dyma ganolfan canu corawl y byd!

“Mae traddodiad cryf o ganu corawl yn y Rhos, diolch i dreftadaeth glofaol a chapeli’r ardal.”

Cychwynwyd y côr yn 1891, ac mae hanes yn adnabyddus i ychydig o’r aelodau ei bod yn arferiad gan y glowyr i ganu ar diwedd shift wrth esgyn yn y gaets. Roedd y sain cyfoethog i’w glywed yn codi o berfeddion y ddaear a gwae unrhyw un feiddio agor y giat cyn iddynt orffen.

Mae’r agosrwydd yna wedi creu côr arswydus mewn cystadleuthau ac ychwanegodd Geraint: “Mae’r côr bellach wedi ennill canmoliaeth  cenedlaethol a byd eang.

"Enillwyd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru sawl gwaith ac hefyd yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

"Maent wedi ennill cystadleuaeth Côr Radio’r BBC ddwy waith ac wedi llwyddo yng Ngwyl Gorawl Cymreig HTV a’r wobr aur am y côr gorau yng ngwyl Gerdd Glamer, Swisdir wedi iddynt guro 112 côr arall.

"Rydym yn edrych ymlaen at gyngerdd Gŵyl Ddewi yn y Stiwt gan mai dyma’r cyngerdd mwyaf lleol rydym yn ei gynnal.

"Yn ôl yr arfer bydd naws Gymreig gadarn  i’r rhaglen dan faton ein harweinydd James Llywelyn Jones.

Dywedodd Gareth Lloyd, aelod o Fwrdd y Stiwt: “Mae’r traddodiad cerddorol yma yn y Rhos yn rhyfeddol a dwi’n amau oes unrhyw le arall yn y byd sydd a chymaint o dalent.

"Y cartref ysbrydol yw’r Stiwt adeiladwyd gan y glowyr yn n union fel y traddodiad corawl. Mae wedi goresgyn diwedd y diwidiant glofaol ac yn gryfed ac erioed.

"Y rhwymun cymunedol hwn sy’n cynnal y Stiwt ac rydym yn ran hanfodol o’r gymuned gyda rhaglen gyffroes ac amrywiol a gweithgaredddau wythnosol.“

Maent yn amrywio o ddawns I gadw’n heini ac ystod o raglenni addysgol I oedolion ynghyd â chlwb ffilmiau a gweithgareddau a fferformiadau yn amrywio o ddrama Ii wreslo.

Yn ymddangos fel gwesteion y Côr fydd côr enwog y Seieniaid ffurfiwyd yn 1990 gan yr arweinydd nodedig Jean Stanley Jones, sy’n enog am eu sain unigryw ac am hybu cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Maent yn enillwyr Prydeinig a rhyngwladol ac wedi ennill mewn cystadlaethau corawl yn Budapest, Cork, Riva del, Elgar Festival, Worcester, a Chôr y Corau Newcastle-upon-Tyne, Freckleton a Peterborough.

Yn 2011 sgubwyd pawb a phopeth o’u blaen yng Ngŵyl Goral Gogledd Iwerddon gan ennill pedair gwobr gyntaf a’r wobr arobryn a Côr y Corau.

Gartref cawsont lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ac maent wedi ennill cystadleuaeth Corau Cymysg Llangollen ddwy waith a hwy oedd y côr cyntaf o Gymru i ennill Tlws Côr y Byd. Mae’r Seireniaid wedi canu  yn y DU ac yn Ewrop gyda Lesley Garrett, Sir Bryn Terfel, Rebecca Evans, Dennis O’Neill, Catrin Finch a Philip Madoc.

Mae’r Stiwt yn gartref I theatr 490 sedd gyda bwa proseniwm tri man hyblyg ar gyfer gweithgareddau amrywiol.  Agorwyd ar 25ain Medi 1926 ac fe’I ail-agorwyd  yn dilyn ei ail wampio yn 1999.  Llynedd dathlwyd penblwydd y theatr yn 90 oed. Mae’r Stiwt yn elusen cofrestredig wedi ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Gelfyddydol y Stiwt.

Bydd  y Cyngerdd Gwyl Ddewi yn cychwyn am 7 o‘r gloch. Mae tocynnau ar werth am £10, myfyrwyr £5 I rchebu tocynnau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch à’r Stiwt ar 01978 841300 neu ewch i http://www.stiwt.com

Llun: Gareth Lloyd
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5045/ 2017-02-22T00:00:00-00:00 Sianel newydd i'r Alban, briwsion i Gymru - angen datganoli darlledu
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion y bydd gan yr Alban sianel deledu newydd a ddarperir gan y BBC.

Ddechrau'r flwyddyn, galwodd y mudiad am ddatganoli darlledu i Gymru gan ddadlau y byddai modd sefydlu rhagor o sianeli teledu a gorsafoedd radio Gymraeg wedi i'r cyfrifoldeb symud i'r Cynulliad.

Dywedodd Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  "Mae yna sianel newydd i'r Alban, a dim ond briwsion i ni yng Nghymru.

"Mae'r BBC yn ceisio traflyncu S4C ac wedi cynorthwyo'r Llywodraeth Geidwadol i dorri ein hunig sianel deledu Gymraeg.

"Chawn ni ddim tegwch i'r Gymraeg na Chymru os yw darlledu yn parhau i gael ei reoli gan Lundain, mae'n bryd datganoli darlledu.

"Yn dilyn y newyddion yma, mae'n debyg y bydd mwy a mwy o bobl yn ymuno â'n hymgyrch i wrthod talu'r ffi drwydded."

Llun: Heledd Gwyndaf
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5046/ 2017-02-22T00:00:00-00:00 Entrepreneur o Tsieina yn agor dwy siop newydd yng Nghymru
Mae entrepreneur o Tsieina sydd y tu ôl i’r cwmni Flooring REPUBLIC, i agor dwy siop arall yng Nghymru eleni ac yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu canolfan weithgynhyrchu a hyfforddi yng Nghymru o bosibl.

Mae’r newyddion a gyhoeddwyd heddiw yn Tsieina yn dilyn cyfarfod yn Shanghai rhwng Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates a Bobby Zhou, Prif Swyddog Gweithredol Anbo Holdings, busnes cyfanwerthu a manwerthu sy’n arbenigo mewn lloriau pren soled ac artiffisial.

Yn y DU mae’r cwmni’n gweithredu o dan y brand manwerthu Flooring REPUBLIC sydd â chwech o siopau yn ne Cymru eisoes ac sy’n cyflogi ugain o bobl.

Bydd y siop newydd ym Mhen-y-Bont a’r llall o bosib yng ngogledd Cymru.

Meddai Ken Skates, sy’n arwain y daith fasnach i Tsieina i gryfhau ymhellach y cysylltiadau masnach ac allforio rhwng y ddwy wlad: “Mae Anbo, a sefydlwyd yn y DU ddeng mlynedd yn ôl gan yr entrepreneur Bobby Zhou, yn llwyddiant mawr.

"Ers y dechrau, mae’r busnes wedi ffynnu ac wedi gweld cynnydd o 15% ar gyfartaledd mewn trosiant, a rhagwelir y bydd trosiant o £16 miliwn eleni.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos ag Anbo Holdings yn Tsieina ac yng Nghymru ac mae’r cymorth hwn wedi helpu’r busnes i ehangu a chynyddu ei ôl troed yng Nghymru.

"Roeddwn yn arbennig o falch o glywed bod eu siopau yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yn y DU, o ganlyniad i waith caled a brwdfrydedd ei staff.

“Mae’r newyddion, a gafodd ei gadarnhau heddiw, bod dwy siop newydd arall i agor yng Nghymru yn newyddion rhagorol, tra bo’r trafodaethau ar y gweill ar y posibilrwydd y bydd Flooring REPUBLIC yn agor canolfan weithgynhyrchu a hyfforddi newydd yng Nghymru.”

Meddai Bobby Zhou: “Mae ein siopau yng Nghymru ymysg y rhai mwyaf llwyddiannus ledled y wlad, ac rydym wedi gwerthu llawer mwy na’r disgwyl yng Nghymru.

“Gwnaethom benderfyniad i ehangu yng Nghymru oherwydd y seilwaith gwych, staff gweithgar a’r croeso cynnes.

"Mae’r byd busnes yma wedi creu argraff arnom, pa mor rhwydd yw gwneud pethau, ac yn fwy na dim fod ein pobl yma yng Nghymru yn gweithio’n galed ac yn deall ein hawydd i ofalu am y cwsmer – sy’n ganolog i frand Flooring Republic.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu llawer drwy ddod o hyd i safleoedd addas ac wedi rhoi cyngor ar ardaloedd i ehangu.

"Un o’n prif feysydd datblygu yw cyflwyno cynllun prentisiaeth sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5047/ 2017-02-22T00:00:00-00:00 Gwaith i ddechrau ar Ganolfan Forol Porthcawl
Bydd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn cyhoeddi heddiw bod datblygiad amlwg ym Mhorthcawl wedi cymeryd cam arall ymlaen wedi derbyn cadarnhâd o £2.1 miliwn o gyllid yr UE.

Mae Canolfan Forol Porthcawl, sy’n werth £5.5 miliwn yn rhan o’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid sy’n anelu at greu 11 o gyrchfannau eraill y mae’n rhaid ymweld â hwy ledled Cymru.

Hefyd, gydag arian y Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, ag arian y sector preifat a’r trydydd sector, mae’r Ganolfan Forol yn gam cyntaf ar gyfer rhaglen Buddsoddi ym  Mhorthcawl sy’n anelu at drawsnewid Porthcawl yn gyrchfan bwysig o safon uchel yng Nghymru fydd yn denu ymwelwyr newydd i’r ardal.

Mae gan y datblygiad y potensial i greu 55 o swyddi yn ogystal â chefnogi swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddapraru cyfleoedd am swyddi i bobl leol.

Meddai’r Gweinidog: “Yr arfordir yw Pwynt Gwerthu Unigryw y sir, a dyma pam y mae mwyafrif yr ymwelwyr yn dod i’r ardal.  Ond i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, mae angen inni ddaprau mwy o gyfleusterau a gwasanaethau arbennig i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Bydd Canolfan Forol Porthcawl yn cyflawni’r nod hwn drwy ddarparu atyniad cyffrous ac arloesol i deuluoedd drwy’r flwyddyn ar lan y môr.

“Ein nod trwy’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw canolbwyntio ein hymdrechion a’n buddsoddiadau ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth fel ein bod yn cael effaith wirioneddol ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol ryngwladol hon.

“Mae Canolfan Ddarganfod a Gwyddoniaeth yr Arfordir Seaquest yn brosiect cyffrous iawn fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn gwyddoniaeth ac ystyried gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth.

"Llongyfarchiadau i bawb fu’n rhan o ddatblygu’r prosiect at y pwynt hwn ac rwy’n dymuno’r gorau ichi.”

Wrth groesawu’r penderyfniad, dywedodd Mike Clarke, cadeirydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl:  “Mae’n amhosibl i ddisgrifio’n llawn pa mor gyffrous a balch y mae tîm  Porthcawl Harbourside CIC o dderbyn y caniatâd i fynd ymlaen â’r prosiect hwn.

"Dyma ddangos hyder mawr yn ein tîm ac yng nghymuned Porthcawl.

"Rydym yn credu bod hwn y prosiect twristiaeth mwyaf yn y DU o bosib i gael ei arwain gan y gymuned, ac rydym bellach yn gallu cynnig tendr ar gyfer yr adeiladu a dechrau ar y prosiect.”

Bydd y gwaith adeiladu ar y Ganolfan Forol yn dechrau yn nghanol 2017.

Dros y bum mlynedd nesaf, bydd y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaid yn gweld dros £85 miliwn o o arian yr UE, Llywodraeth Cymru ac arian Preifat ac Elusennol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau twristiaeth ledled Cymru.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5039/ 2017-02-21T00:00:00-00:00 Mapio ein lleoedd arbennig yng Nghymru
Gall pobl yn awr ‘gerdded’ rhai o lwybrau eiconig Cymru o gysur eu cadair freichiau wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gydweithio â Google i ychwanegu ein safleoedd arbennig i Google Street View.

Mae’r rhain yn rhoi golygfa banoramig 360o, fel y gall unrhyw un sydd â mynediad i’r we ‘gerdded’ y llwybrau’n rhithiol drwy ddefnyddio Street View ar Google Maps.

Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad CNC i helpu mwy o bobl i fod yn actif ac i fwynhau’r awyr agored.

Dywedodd Max Stokes, Swyddog Cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym ni’n gofalu ar ôl nifer fawr o safleoedd ar draws Cymru lle gall pobl fynd i redeg, i gerdded ac i feicio mynydd.

“Mae lansio’r mapiau digidol gyda Google yn golygu y gallwn ni’n awr arddangos y lleoedd arbennig hyn ar lwyfan byd-eang.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd y profiad ‘warden rhithwir’ yn annog mwy o bobl i fynd allan ac i fwynhau’r awyr agored.”

Mae’r mapiau’n cynnwys teithiau ar hyd llwybrau bordiau Cors Caron, trwy Warchodfa Natur  Dyfi Ynyslas ac o amgylch ardal o raeadrau hardd ym Mannau Brycheiniog.

Ac fe gafodd hyn oll ei gwblhau gan staff CNC a wirfoddolodd i gymryd rhan.

Dywedodd Max Stokes ymhellach: “Bu dros 60 aelod o staff yn cerdded dros 40 llwybr unigol gyda’r Street View Trekker.

“Gwisgwyd y camera fel pecyn ar eu cefnau fel ein bod yn gallu cipio llwybrau y gellir ond cael mynediad atynt ar droed.

“Eu brwdfrydedd nhw oedd yn allweddol i lwyddiant y prosiect.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect, a rhestr lawn o’r safleoedd sydd wedi’u mapio, ar flog Max ar wefan CNC.

Gellir dod o hyd i’r mapiau digidol ar Google Maps.
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5040/ 2017-02-21T00:00:00-00:00 Galw am strategaeth i greu cysylltiadau â’r diaspora Cymreig
MAE grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir i gysylltu â’r diaspora Cymreig.

Mae grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol yn dymuno gweld camau pellach i gysylltu Cymru â chymunedau ac unigolion dramor sydd naill ai â gwreiddiau yng Nghymru neu gysylltiadau â Chymru, er mwyn creu rhwydwaith byd-eang i hyrwyddo Cymru ar lefel economaidd a diwylliannol.

Yn ôl cadeirydd y grŵp, Rhun ap Iorwerth AC: “Fel cenedl, nid ydym wedi bod yn ddigon strategol nac yn ddigon penderfynol i fanteisio ar y diaspora Cymreig.

“Yn ogystal â chreu cysylltiadau â’r rheini sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru, fe ddylem fod yn gwneud mwy i fanteisio ar ewyllys da amrywiaeth eang o bobl dramor, fel cyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru a busnesau sydd wedi gweithio â chwmnïau o Gymru, neu’r rheini sy’n ymddiddori yn niwylliant Cymru.

“Byddaf yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i holi sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu datblygu strategaeth i Gymru er mwyn creu cysylltiadau rhyngwladol.”

Trafododd y grŵp y gwaith rhagweithiol y mae llywodraethau Iwerddon a’r Alban yn ei wneud i greu cysylltiadau â’u diaspora hwythau ledled y byd.

Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru, sy’n darparu cefnogaeth i’r grŵp trawsbleidiol: “Gall Cymru ddefnyddio’i harbenigedd a’i chysylltiadau sydd wedi’u creu drwy addysg, y celfyddydau a chwaraeon i feithrin ei phŵer meddal ledled y byd, a gall ei diaspora chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.”

Ffurfiwyd grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol er mwyn helpu i ddatblygu syniadau ar hyrwyddo Cymru a chysylltiadau rhyngwladol y Cynulliad.

Cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y grŵp ar 14 Chwefror.

Llun: Rhun ap Iorwerth AC
http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/5041/ 2017-02-21T00:00:00-00:00