Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Medi 2012

Ymgyrchwyr iaith i rannu profiadau rhyngwladol yn Aberystwyth

Bydd ymgyrchwyr iaith o ar draws y byd yn dod at ei gilydd yn Aberystwyth ddydd Gwener, Medi 7,  fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe fydd siaradwyr o Golombia, Gwlad y Basg, Twrci a Chatalonia yn ogystal â Chymru yn trin a thrafod ymgyrchoedd iaith mewn cynhadledd arbennig a gynhelir ar yr un penwythnos â chyfarfod cyffredinol y Gymdeithas.

Ymysg y siaradwyr y bydd Dr Sian Edwards o Brifysgol Abertawe, yr awdur ac ymgyrchydd Ned Thomas, Bejan Matur awdur Gwrdaidd o Dwrci, Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg a Maria Areny o Gatalonia.

Cynhelir cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y penwythnos hefyd, a bydd aelodau’r mudiad yn trafod cynnig a fyddai, ymysg pethau eraill, yn datganoli grym i ranbarthau lleol ac yn newid y drefn aelodaeth bresennol.

Yn siarad cyn y digwyddiadau rhyngwladol, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Mae’r digwyddiadau dros y penwythnos hwn yn rhai cyffrous tu hwnt. Gobeithiwn y gall yr ymgyrchwyr o amryw o wledydd rannu syniadau a phrofiadau er lles y Gymraeg a’r ieithoedd eraill.

"Ers ein sefydlu gan lond llaw o bobl mae’r Gymdeithas wedi cael effaith ddi-gwestiwn ar lywodraeth San Steffan a Chaerdydd - o ennill S4C i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg. Yn sicr, ni fyddai gan y Gymraeg statws swyddogol a ni fyddem wedi gweld creu Coleg Cymraeg heb ymdrechion y Gymdeithas.

"Er i ni agel sawl buddugoliaeth mae ‘na gymaint i wneud o hyd - ar lefel gymunedol yn ogystal â sicrhau hawliau sylfaenol fel a amlygwyd yn ddiweddar gan brofiadau Jamie Bevan yn y carchar.”

“Rwy’n disgwyl trafodaeth frwd ynglŷn â’n strwythur yn y Cyfarfod Cyffredinol. Fel mudiad, rydym wastad yn awyddus i wella ein ffyrdd o weithio a bydd yr aelodaeth yn penderfynu sut mae hynny’n digwydd dros y penwythnos.”

Dywedodd yr ASE Jill Evans un o’r siaradwyr yn y gynhadledd heddiw: “Mae ieithoedd yn rhan o’n diwylliant a’n hunaniaeth. Mae dysgu ieithoedd newydd yn ein galluogi ni i weld y byd mewn ffordd wahanol. Mae parchu hawliau pobl eraill, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain, yn sylfaenol i’n democratiaeth.

"Ac eto, fel pobl eraill o amgylch y byd, rydym wedi gorfod brwydroam gydnabyddiaeth a chydraddoldeb i’r Iaith Gymraeg.

"Cymerwyd camau mawrion ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddechrau ymgyrchu yn 1962, ond mae’r ymgyrch honno ymhell o fod wedi gorffen. Gall fy nghyfeillion o Ynys Melita, Iwerddon, Lwcsembwrg ac Estonia siarad eu hieithoedd eu hunain yn y pwyllgorau ac yn siambrau Senedd Ewrop, ond os wna i siarad yn y Gymraeg, rhaid i fi ddarparu fy nghyfieithiad fy hun.

"Dim ond statws hanner swyddogol sydd gan y Gymraeg yn yr UE er ei bod yn iaith swyddogol yng Nghymru.”

Llun: Jill Evans

Rhannu |

Digwyddiadau

Atodiad Cartref

Atodiad Cartref