http://www.y-cymro.comY CymroMôr a mynydd yn ysbrydoliaeth i Goron Eisteddfod yr Urdd Eryri

Crefftwr profiadol, John Price o Fachynlleth, sydd wedi cynllunio coron Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, a hon fydd y goron gyntaf iddo ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Gan ddwyn dylanwad o dirwedd mynyddig Eryri a’r traddodiad glan môr, mae’n addas iawn mai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n cyflwyno’r goron i’r Urdd eleni.

“Dyma’r tro cyntaf erioed i mi greu coron i Eisteddfod yr Urdd,” eglura John Price sy’n wreiddiol o Ynys Môn ond sy’n byw ers blynyddoedd lawer ym Machynlleth gyda’i wraig ac sy’n dad i bedwar o blant. Ond er mai dyma’r tro cyntaf iddo weithio ar goron i’r Urdd, mae John yn hen law ar y gwaith.

“Dwi wedi creu ymhell dros gant o goronau dros y blynyddoedd, i amryw o steddfodau, gan gynnwys Eisteddfod Llandegfan, Eisteddfod Môn, Eisteddfod Powys a’r Genedlaethol. Hobi llwyr ydi hi i mi, ond dwi’n cael pleser mawr yn y gweithdy. Mae hi’n wefr cael cynllunio coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd, a dwi’n mawr obeithio y bydd enillydd i fynd o dan y goron ymhen ychydig wythnosau yng Nglynllifon!” meddai.

Disgrifia John y goron fel coron draddodiadol o fand arian, gyda chwpled arbennig wedi ei ysgythru i’r band o dan driban yr Urdd sydd wedi ei enamelo yn lliwiau’r Urdd, coch, gwyn a gwyrdd. Noddwyr y goron, y Parc Cenedlaethol, drefnodd gystadleuaeth i annog beirdd ifanc i osod eu marc ar y goron eleni. I’r brig, daeth Gruffydd Antur, 20 oed o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth ac mae’r cwpled yn cymryd ei ddyledus le yng nghanol y goron: ‘Pery awen y llenor; Pan na fydd mynydd na môr.’

“Bob ochr i fathodyn yr Urdd, mae mynyddoedd Eryri, y gair “Eryri” a “2012” wedi’u hysgythru arnynt i nodi lleoliad yr Eisteddfod eleni ac o dan y mynyddoedd mae llynnoedd Eryri. Ond mae'r siapiau yma hefyd yn cynrychioli hwylio ar donnau’r môr a’r llamhidyddion yn nofio yn y dŵr. Bob ochr i’r cwpled mae mesen, deilen y dderwen a dau flodyn. ‘O’r fesen fach y tyf y dderwen fawr’. Beth sydd o flaen yr awdur ifanc buddugol, ys gwn i be’ fydd ganddo fo neu hi i’w gynnig i ni i’r dyfodol? Mae lili’r wyddfa, blodyn unigryw Eryri a chennin Pedr i gynrychioli delwedd y Parc Cenedlaethol fel noddwyr hefyd i’w gweld ar y goron. I orffen y cwbl, mae’r cap o ddefnydd porffor yn cyfleu lliwiau godidog chwareli llechi’r ardal a grug y mynydd,” eglura John.

Bydd y goron, o arian pur, yn cael ei chyflwyno i’r enillydd am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Egin.’ Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Catrin Dafydd a Meg Elis.

Yn ôl Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae hi’n anrhydedd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gael noddi’r goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - Eryri 2012. Mae mynyddoedd a môr yn rhan annatod o nodweddion Eryri a dyma yw thema dyluniad y goron, sydd wedi cael ei chreu mor gelfydd trwy grefft a goruchwyliaeth John Price. Rydym hefyd yn hynod o falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth gyda’r Urdd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i lansio Ysgoloriaeth Geraint George, er cof am un a weithiodd yn ddiflino i annog cyfleoedd a mwynhad i Gymry Cymraeg ifanc ym maes yr amgylchedd.”

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i John Price am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gystadleuaeth y goron eleni. Mae cydweithio agos wedi bod rhyngddynt wrth ddylunio a datblygu’r goron, ac mae’r gwaith gorffenedig yn werth ei weld. Bydd pawb yn gobeithio y bydd teilyngdod yn ystod yr wythnos a chyfle i un enillydd fynd adref â choron arbennig o hardd yn ei feddiant.”

Ond bydd gwneuthurwr y goron, John Price, yn absennol o’r ŵyl ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod eleni. Ag yntau wedi ymddeol fel athro gwaith metel/CDT ers sawl blwyddyn, bydd yn mynd efo criw o ferched ar daith arbennig iawn. Mae criw o ferched, aelodau o Ferched y Wawr, o dan arweiniad Einir Wyn o Ben Llŷn, yn teithio ar feics o Abertawe yr holl ffordd i faes Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon er mwyn codi arian tuag at ymchwil cancr yr wy gelloedd. A’r gŵr fydd yn gyrru’r cerbyd ac yn cefnogi’r criw gyda’i fag tŵls yn y cefn? Gwneuthurwr y goron eleni!

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012. Am docynnau mynediad neu ar gyfer y cyngherddau, ewch i wefan yr Urdd, www.urdd.org/eisteddfod neu galwch 0845 257 1639.

Llun: Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 gyda’r crefftwr a greodd y goron John Price o Fachynlleth, Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rhoddwyr y wobr yn Eryri a Sharon Fôn-Roberts o’r HSBC, noddwyr y gystadleuaeth

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1097/
2012-05-18T00:00:00+1:00Cofeb deilwng i wŷr ‘y pethe a’r pridd’ wrth gyflwyno Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri

Dathlu bywyd dau ŵr arbennig yw bwriad teulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012, a choffáu cariad y teulu cyfan tuag at ddiwylliant Cymru a’i hieuenctid. Cyflwynir Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar y testun ‘Cylchoedd’ er cof am dad a mab arbennig, sef Meirion Parry a Ceredig Parry, Fron Olau, Rhoslan. Bydd dydd Iau'r Eisteddfod, 7 Mehefin, yn ddiwrnod chwerw felys i’r teulu, gwraig a mam y ddau, Edith Parry, ei merch, y ddarlledwraig, Bethan Jones Parry ac i Eleri, gweddw Ceredig, a'i fab, Gwynant Rhys .

“Mi fyddai’r ddau wrth eu boddau eu bod nhw’n cael eu coffáu â’r Eisteddfod yn Eryri,” eglura Bethan Jones Parry sy’n byw bellach gyda’i theulu ym Mhencaenewydd ger Pwllheli. “Dyn y pethe oedd dad, a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio’r fferm deuluol, ond roedd y ddau yn Gymry i’r carn.

"Mi fuo Dad yn weithgar efo’r Urdd am flynyddoedd maith, yn ystod ei gyfnod yn athro ysgol ac yna’n brifathro am nifer fawr o flynyddoedd. Bu ei gyfnod fel Prifathro yn Ysgol Chwilog ac yna Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog yn gyfle iddo feithrin pobl ifanc ym mywyd a gwaith Adrannau ac Uwchadrannau’r Urdd a bu’n arwain nifer o Eisteddfodau Cylch a Sir am flynyddoedd hefyd. Roeddem fel teulu yn ei gweld hi’n gyfle gwerth chweil yn Eisteddfod yr Urdd eleni i gofio am ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn.”

Bu farw Ceredig Parry nôl yn 2009 yn dilyn gwaeledd, yn ŵr ifanc, 50 oed, gan adael gwraig, Eleri, a mab, Gwynant Rhys sydd bellach yn 13 oed. Flwyddyn ynghynt y collodd y teulu’r gŵr hynaws, Meirion Parry. Mae cyflwyno’r gadair yn gyfle i ddathlu bywyd y ddau a gyfrannodd cymaint i’w cymunedau a’u hardaloedd gwledig.

Cyfaill i’r teulu a chrefftwr o’r radd flaenaf, Llewelyn Wyn Jones o Rhosfawr ger Pwllheli yw gwneuthurwr y gadair. Mae’n gweithio fel saer ers dros hanner can mlynedd, a choeden dderw leol a ddefnyddiodd i greu’r gadair. Disgrifia’r gadair fel cadair blaen, ddefnyddiol, gyda llechen o Ddyffryn Nantlle wedi ei gosod mewn panel yng nghefn ucha’r gadair. Roedd cynnwys y llechen yn bwysig i deulu Fron Olau, gan bod llinach y teulu o’r ddwy ochr yn deillio o Ddyffryn Nantlle. O dan y llechen sydd â’r llinell wyrddlas nodweddiadol o chwareli Dyffryn Nantlle yn rhedeg drwyddi, mae cerfiad cywrain o lwybr a choed. Mae’r cerfiad yn adlewyrchu ysblander y Lôn Goed, sydd dafliad carreg o gartref y teulu yn Fron Olau.

“Gan mod i’n nabod Bethan a’r teulu, roedd hi’n fraint cael creu’r gadair er cof am Meirion a Ceredig Parry,” eglura Llew Jones. “Dwi wedi creu nifer o gadeiriau llai i eisteddfodau bach fel Steddfod Ffôr a Chwilog, ac mae gen i ddegau o stolion bach pren ar gyfer achlysuron arbennig yn y gweithdy.

"Mae hi’n fraint fawr cael creu cadair i Steddfod fawr fel hon ar ein stepan drws. Mae’n gadair lydan gyda dwy fraich a’r ddwy goes flaen wedi ei thurnio. Mae 'na dro ar flaen y gadair ac mae’r cefn yn gorwedd yn ôl fymryn. Rhyw wythnos dda gymrodd i mi ei chreu, a dyma’r tro cyntaf i mi greu cadair i Eisteddfod yr Urdd. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd teilyngodd yn ystod yr wythnos ac y caiff hi gartref da yn rhywle!”

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae hi wastad yn fraint cael gweld y gadair am y tro cyntaf, a dyw eleni’n ddim gwahanol. Mae’n wefr gwybod bod crefftwr fel Llew wedi gweithio’n ddygn arni a bod Bethan a’i mam wedi cael y cyfle i gynnig nodweddion sy’n arbennig iddyn nhw, fel teulu, yn ei dyluniad. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad ac i Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans am eu nawdd. Bydd y gadair yn cymryd ei dyledus le ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.”

Noddir cystadleuaeth y gadair eleni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans. Beirniaid un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod fydd Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nghlynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012.

Llun: Bethan Jones Parry a theulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth, rhoddwyr y gadair eleni sy’n ei chyflwyno i’r Eisteddfod er cof am dad a mab arbennig, sef Meirion Parry a Ceredig Parry; gydag Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a Llewelyn Wyn Jones o Rhosfawr ger Pwllheli, y saer medrus a greodd gadair yr Urdd Eryri 2012

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1098/
2012-05-18T00:00:00+1:00Cyngor Abertawe yn ethol arweinydd newydd

Mynd i'r afael â thlodi fydd prif flaenoriaeth yr awdurdod dros y blynyddoedd nesaf yn ôl arweinydd newydd Cyngor Abertawe.

Dywedodd y Cyng. David Phillips y bydd y cyngor yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â chylchred amddifadedd sy'n bla ar gymunedau yn Abertawe.

Bydd addysg, swyddi, adfywio, iechyd a thai i gyd yn rhan o uchelgais y cyngor i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd ar draws y ddinas.

Meddai'r Cyng. Phillips: "Mae'n anrhydedd mawr fy mod wedi fy mhenodi yn Arweinydd Dinas a Sir Abertawe .

"Mae Abertawe'n ddinas wych ac rwyf am i'r cyngor wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

"Uchelgais y cyngor yw mynd i'r afael â thlodi a dod â'r gylchred amddifadedd sy'n bla ar gynifer o'n cymunedau i ben. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i bob teulu yn y ddinas.

"Trwy weithio gydag asiantaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mae gennym gyfle i greu dyfodol gwell, mwy optimistaidd i'n cymunedau."

Penodwyd y Cyng. Phillips yn Arweinydd y Cyngor ddydd Mawrth. Mae wedi gwasanaethu'r cyngor ers 1996 fel aelod o Ward y Castell. Yn flaenorol, roedd yn Aelod y Cabinet dros Gyllid tan 2004.

Dywedodd y byddai'r cyngor yn canolbwyntio ar sawl thema, gan gynnwys:

• Addysg: darparu ysgolion yn eu cymunedau a darpariaeth feithrin o safon.

• Swyddi ac adfywio: datblygu economi wybodaeth, gwella canol y ddinas a chanolfannau masnachol maestrefol a chynyddu twristiaeth.

• Cysylltiadau cludiant cryf: datblygu cludiant cyhoeddus a gwella cyfleusterau i feicwyr, cerddwyr ac ymwelwyr.

• Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

• Tai: gwella tai cyngor a chefnogi byw'n annibynnol ac opsiynau i bobl h?n.

• Y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon: cynyddu gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol, datblygu cyfleusterau chwaraeon ac adeiladu ar dreftadaeth y ddinas, gan gynnwys dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014.

• Cymunedau cryfach a mwy diogel: mynd i'r afael â diweithdra ieuenctid a hyrwyddo diogelwch cymunedol.

Dechreuodd profiad llywodraeth leol y Cyng. Phillips ym 1978 pan gafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth y Preseli rhwng 1978 a 1982 cyn gwasanaethu ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg rhwng 1993 a 1996.

Mae ei yrfa y tu allan i lywodraeth leol yn cynnwys gweithio fel prynwr ar gyfer cadwyn manwerthu, swyddog tollau, swyddog TAW a chyfrifydd treth gyda Coopers and Lybrand. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Prif WeithredwrCinema For All, sefydliad sy'n cefnogi cymdeithasau ffilm, Golygydd y cylchgrawn Film a chyfarwyddwr cwmni cynhyrchu ffilmiau.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1100/
2012-05-18T00:00:00+1:00Galw am microsglodyn am bob ci yng Nghymru heb oedi

Mae Llywodraeth Cymru wedi lawnsio ymgynghoriad sy’n ystyried a ddylid gosod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru.

Mae Guide Dogs (www.guidedogs.org.uk) yn croesawu’r cyhoeddiad hon ac yn eisiau microsglodion cael eu cyflwyno heb oedi.

Dywedodd Rheolwr Ymgysylltu Guide Dogs Cymru, Andrea Gordon: “Mae Guide Dogs yn croesawu’r ymgynghoriad ar microsglodion sydd wedi cael ei lawnsio, ond hoffen ni weld y mesur yn cael ei cyflwyno heb oedi.

“Un opsiwn wedi ei amlinellu yw gosod microsglodyn ar gŵn a cŵn bach dim ond pan maen nhw’n newid perchenog. Ond mae hynny’n golygu y bydd hi’n cymeryd 10-12 blwyddyn i osod microsglodyn ar bob ci, sydd llawer yn rhy hir.

“Rydyn ni’n credu bydd gosod microsglodyn yn annog perchnogaeth cyfrifol ac yn atal perchnogwyr cŵn peryglus rhag gwadu cyfrifoldeb pe bai ci yn ymosod.

“Mae ymosodiadau ar gŵn tywys gan cŵn eraill yn fater rydyn ni’n pryderu amdano mwy a mwy. Maen nhw’n ofidus i berchennog y ci twyws. Os yw ci tywys yn cael ei ymosod gan gi arall, mae rhaid i’r berchennog dibynu ar eu teulu a’i ffrindiau i wneud y pethau mae pawb arall yn cymryd yn ganiataol.

“Os oes rhaid i gi tywys ymddeol ar ol ymosodiad, dydy’r perchennog ddim yn gallu mynd o gwmpas yn annibynnol. Gyda ci tywys yn costio oddeuti £50,000 i’w fridio, hyfforddi a’i cefnogi yn ystod eu oes gweithiol, mae hi hefyd yn gostus iawn i ni fel elusen sy’n dibynnu ar haelioni’r cyhoedd."

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1101/
2012-05-18T00:00:00+1:00Cyngor Gwynedd yn ethol Caderirydd ac Arweinydd

Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 17 Mai, etholwyd y Cynghorydd Selwyn Griffiths (Porthmadog - Gorllewin) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, a’r Cynghorydd Huw Edwards (Caernarfon - Cadnant) yn is-Gadeirydd. Yn yr un cyfarfod ail-etholwyd y Cynghorydd Dyfed Edwards (Penygroes) yn Arweinydd y Cyngor.

Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2004, mae’r Cynghorydd Selwyn Griffiths hefyd yn aelod o Gyngor Tref Porthmadog ac ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Griffiths: “Mae hi’n anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd.”

Etholwyd y Cynghorydd Huw Edwards yn Is-Gadeirydd y Cyngor. Mae’n aelod o Gyngor Gwynedd ers 2005.

Yn yr un cyfarfod, ail-etholwyd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn Arweinydd Cyngor Gwynedd. Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2004, fe’i etholwyd yn Arweinydd y Cyngor yn 2008. Mae hefyd yn Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar y Cyngor.

Ar ei ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae’n fraint gen i dderbyn y sialens o arwain Cyngor Gwynedd am y bum mlynedd nesaf ac hefyd hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i drigolion Penygroes am yr anrhydedd o’u cynrychioli ar y Cyngor newydd. Rwy’n edrych ymlaen i weithio ochr yn ochr gyda’m cyd-aelodau a swyddogion y Cyngor er mwyn cyrraedd at y nod o greu Gwynedd well lle bydd ein cymunedau a’r iaith Gymraeg yn ffynnu.

“Mae’r cyd-destun heriol yn golygu bod trigolion y sir yn edrych tuag atom ni ar Gyngor Gwynedd i greu agenda amgen - agenda o gyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ac agenda o newid er gwell.

“Fel un o dîm y byddaf yn arwain y gwaith hwn ac mae bawb gyfraniad i’w wneud - yn aelodau o bob plaid, swyddogion a gweithlu'r Cyngor.”

Yn aelod o Gyngor Cymuned Llanllyfni, mae’r Cynghorydd Dyfed Edwards yn Gyfarwyddwr ar Antur Nantlle ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle, mae’n wirfoddolwr gyda chlwb ieuenctid IwthPen ym Mhenygroes ac mae hefyd yn lywodraethwr ar Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Dyffryn Nantlle.

Mae’n dad i ddau o blant, Gwenno Mair sy’n 20 ac Elin Rhiannon sy’n 17 oed. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed a rygbi, ac mae hefyd yn mwynhau’r celfyddydau.

Llun: Selwyn Griffiths a Huw Edwards

Llun: Dyfed Edwards

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1102/
2012-05-18T00:00:00+1:00Adborth gan gleifion i fesur safon y GIG yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal o’r radd flaenaf ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.

Bydd adborth gan gleifion yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o fonitro a gwella gwasanaethau gofal iechyd. Caiff canlyniadau’r broses hon eu cyhoeddi i bawb gael eu gweld.

Mae “Rhagori: Y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru 2012-16” yn diwallu ymrwymiad pwysig a amlinellwyd yn “Law yn Llaw at Iechyd”, gweledigaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yn “Law yn Llaw at Iechyd”, addawodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, gyflwyno systemau ar gyfer sicrhau gofal o safon a gwella ‘canlyniadau’ iechyd fel bod Cymru gyda’r gorau yn y byd ym maes gofal iechyd.

Chwe mis ar ôl cyhoeddi “Law yn Llaw at Iechyd”, dywedodd Lesley Griffiths: “Mae angen i ni sicrhau bod pob claf, bob dydd, yn cael gofal o safon uchel ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.

“Mae’n rhaid i ni allu dangos yn glir ein bod ni’n gwneud y peth cywir, yn y ffordd gywir, yn y man cywir, ar yr adeg gywir gyda’r staff cywir.

“Mae’r Mentrau 1000 o Fywydau wedi dangos i ni beth sy’n bosibl pan fyddwn yn canolbwyntio’n ddiflino ar wella. Mae’r cynllun yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn adeiladu ar yr hyn sydd ar waith eisoes. Mae’n amlinellu nifer o bethau y mae disgwyl i’r GIG eu gwneud i sicrhau bod y profiad yn un rhagorol i’r claf o ran diogelwch, urddas a pharch yn ystod y gofal a ‘chanlyniad’ y gofal.

“Nawr, awn ati i ddatblygu ymagwedd genedlaethol tuag at fesur profiad y claf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wybod barn y cyhoedd am y GIG yng Nghymru mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Caiff canlyniadau adborth y cleifion eu cyhoeddi, ar y cyd â’r archwiliad clinigol cenedlaethol ac adolygiadau o ganlyniadau.”

Mae ‘Rhagori: Y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru 2012-16’ ar gael yma: www.wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/excellence/?lang=cy

Llun: Lesley Griffiths

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1103/
2012-05-18T00:00:00+1:00Papur Gwyn ar Hybu Democratiaeth Leol i ailwampio’r Comisiwn Ffiniau

CAFODD Papur Gwyn sy’n gofyn am sylwadau ar gynigion i wella democratiaeth leol ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yr wythnos yma.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, y bwriedir i lawer o’r cynigion yn y papur gael eu cynnwys yn un o Filiau’r Cynulliad – Bil Democratiaeth Leol (Cymru) – y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei gyflwyno yn yr hydref.

Un agwedd allweddol o’r Bil yw newid y ffordd y mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn gweithredu. Nod y Bil yw ailgynllunio rheolau gweithredu’r Comisiwn a diwygio strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion sydd â’r nodau canlynol:

ei gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth am Gynghorau Tref a Chymuned

gwneud y dull o reoli etholiadau yng Nghymru yn fwy effeithiol, o ran ei drefniadaeth a’r dull ariannu, yn ogystal ag annog cymaint o bleidleiswyr â phosibl i gofrestru;

cryfhau swyddogaeth graffu llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig atebolrwydd cyhoeddus cadarn ac yn sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus yn lleol ac yn rhanbarthol;

sicrhau bod yr hyfforddiant a’r datblygiad a gynigir i gynghorwyr yn gwella, o ran eu gallu i arwain yn lleol a bod yn gynrychiolwyr cymunedol effeithiol wrth gyfranogi yn y broses ddemocrataidd leol.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam arall yn ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein democratiaeth leol yn gweithredu mor effeithlon â phosibl er mwyn cwrdd â heriau’r diwygiadau presennol i’r dulliau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae angen i ni sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn cynrychioli eu cymunedau yn ddemocrataidd, yn cael eu trefnu yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn cyfathrebu’n dda â’r cyhoedd ac yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i ymdopi â’r newidiadau yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’r cyhoedd.

“Mae llawer o gynnwys y Papur hwn wedi deillio o argymhellion Adroddiad Mathias ar y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd. Canfu’r adroddiad nad oedd y Comisiwn yn addas at y diben ar y pryd, a galwodd am ddiwygiadau sylweddol i fethodoleg y Comisiwn wrth gynnal ei adolygiadau o’r trefniadau etholiadol ym mhob sir.

“Mae’r Papur Gwyn yn cynnig newidiadau i enw, strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn. Yr angen o hyd yw sicrhau bod cynghorau Cymru yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, gyda phob cynghorydd yn cynrychioli’r un nifer o etholwyr, hyd y gellir. Ond mae’n rhaid i ni ystyried rhwymau cymunedol wrth wneud hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn helpu’r Comisiwn ar ei newydd wedd i gyflawni hynny.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1104/
2012-05-18T00:00:00+1:00Buddsoddiad Dŵr Cymru yn tanategu llwyddiant Baneri Glas Cymru

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn dweud eu bod wrth eu boddau bod eu buddsoddiad o fwy nag £1 biliwn mewn trin dŵr gwastraff yn talu ar ei ganfed gyda mwy o lwyddiannau Baneri Glas ar gyfer traethau Cymru.

Mae’r buddsoddiad, sydd i wella ansawdd dŵr ymdrochi morlinau, wedi bod â rhan allweddol mewn dyfarnu Baner Las heddiw i 43 o draethau Cymru – i fyny o ddim ond 2 un mlynedd ar bymtheg yn ôl.

Yn 1996, fe lansiodd Dŵr Cymru Welsh Water y Bartneriaeth Môr Glas, ynghyd â Cadwch Gymru’n Daclus, Croeso Cymru a llawer o sefydliadau eraill, gyda’r nod o ennill llawer mwy o Faneri Glas i draethau Cymru. Mae Baneri Glas yn cael eu dyfarnu am ystod o feini prawf, yn cynnwys ansawdd amgylcheddol dŵr ymdrochi.

Fe ddywedodd pennaeth buddsoddi dŵr gwastraff Dŵr Cymru Welsh Water, Steve Wilson: “Yn 1996, pan wnaethom lansio’r Bartneriaeth Môr Glas yn Ninbych-y-pysgod, ‘roedd Cymru ond yn gallu hedfan Baneri Glas mewn dau o draethau Cymru. Mae’n rhaglen fuddsoddi, ynghyd â datblygiadau gan bartneriaid Môr Glas eraill o well cyfleusterau traeth a leolir ar y tir, wedi arwain at gynnydd aruthrol yn y nifer o draethau Cymru, yn cynnwys Traeth y Gogledd, Traeth y De a Thraeth y Castell, yn Ninbych-y-pysgod, sy’n gallu hedfan y Faner Las, sy’n cael ei chwennych.

“Mae hyn o fudd i’n cwsmeriaid ac i’r economi yn gyffredinol drwy roi hwb i gyfleoedd twristiaeth, ond mae yna eto fwy o waith i’w wneud. Mae targedau ansawdd dŵr ymdrochi yn mynd i ddod hyd yn oed yn fwy llym yn y dyfodol, ac felly ‘rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella rhagor ar y system dŵr gwastraff. ‘Rydym eisoes wedi cynllunio buddsoddiad ychwanegol o £24.5 miliwn, rhwng 2010 a 2015, i wella ansawdd dŵr ymdrochi, cyn y bydd y safonau newydd yn dod i rym yn 2015.”

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau. Mae’r cwmni’n buddsoddi £1.4 biliwn yn ei rwydwaith dŵr a charthffosiaeth rhwng 2010 a 2015.

Mae’n ‘gwmni nid-er-elw’, sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes gan Dŵr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac mae unrhyw wargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1105/
2012-05-18T00:00:00+1:00Cyfle i weld llyfr prin gan Charles Dickens

Mae rhifyn prin o Oliver Twist gan Charles Dickens i'w weld ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Mae’r arddangosfa 'Charles Dickens - Bywyd mewn Print' i'w gweld yn Ddarllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor i ddathlu daucanmlwyddiant genedigaeth yr awdur enwog.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys argraffiad prin o Oliver Twist, a oedd y llyfr cyntaf i gael enw Dickens ar y dudalen deitl, yn hytrach na'i ffugenw Boz. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys y darlun enwog o 'Oliver yn gofyn am fwy'.

Mae Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor hefyd wedi trefnu sgwrs, ‘Dickens and His Manuscripts’, gan Dr Rowan Watson, Curadur Llawysgrifau, yr Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, a gynhelir am 2pm ar 23 Mai yn Ystafell Alun 101 yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol .

Yn ystod y sgwrs, bydd Dr Watson yn dangos delweddau o gasgliadau'r amgueddfa. Un o'r uchafbwyntiau fydd y llawysgrif o ‘The Mystery of Edwin Drood’, darn o waith terfynol Dickens.

Dywedodd Dr Stephen Colclough o’r Ysgol Saesneg: "Mae'r arddangosfa yn cynnwys rhywogaethau prin Dickens, gan gynnwys y rhifyn cyntaf o lyfr i gael ei enw ar y dudalen deitl sef Oliver Twist. Mae’r llyfr yn cynnwys darluniau gwych ac mae ei luniau bywiog o Oliver a Bill Sikes yn wirioneddol werth eu gweld. Mae'r arddangosfa yma, sy’n cynnwys eitemau o gasgliad Llyfrau Prin y Brifysgol yn ein helpu i gydnabod pwysigrwydd Dickens fel golygydd, newyddiadurwr a nofelydd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at yr ymweliad gan Dr Rowan Watson, sydd wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu am Dickens yn ddiweddar, a bydd yn siarad am y llawysgrifau prin a geir yng nghasgliadau'r Amgueddfa Victoria ac Albert casgliadau."

Mae'r arddangosfa wedi cael ei drefnu gan Archifau a Chasgliadau Arbennig gyda Dr Stephen Colclough o Ysgol y Saesneg ac mae ar agor i'r cyhoedd.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1106/
2012-05-18T00:00:00+1:00Cynnydd mewn diweithdra yn amlygu’r angen i Lafur stwyrio a gweithredu

Yn dilyn cyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf am ddiweithdra sydd wedi aros yn yr unfan, mae Plaid Cymru wedi galw eto ar i Lywodraeth Cymru wneud mwy i amddiffyn Cymru rhag y toriadau economaidd. Dengys y ffigyrau hyn fod diweithdra wedi aros ar 9%, sydd yn frawychus o agos at y rhif uchel o 137,000.

Yr hyn sy’n peri pryder yn arbennig yw’r cynnydd mewn diweithdra ymysg menywod ers mis Rhagfyr – cynnydd o 8,000 – sy’n golygu fod lefel diweithdra ymysg menywod wedi codi i 8.3% ers i Lafur ddod i rym. Mae hyn yn rhoi mwy o nerth i ddadl Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod ync anolobwyntio ar helpu a chynnal menywod oherwydd bod toriadau’r DG yn effeithio ar fenywod yn anad neb.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones: “Yr hyn sydd yn boenus o amlwg yw bod Llafur yn methu gwneud yr hyn a addawsant, ac amddiffyn Cymru rhag y gwaethaf o doriadau’r DG. Mae lefel diweithdra cyffredinol yn y DG yn 8.2% tra bod y lefel yng Nghymru yn sylweddol uwch na hyn. Mae diweithdra yn uwch yng Nghymru yn awr nac y bu pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf, ac y mae hyn yn warthus.

“Bu Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn fedr i helpu’r teuluoedd sydd yn ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod economaidd llym hwn. Mae pethau y gall Llywodraeth Cymru wneud, megis dwyn buddsoddi cyfalaf ymlaen, helpu busnesau bach i gadw staff, neu gynnull uwch-gynhadledd economaidd i dargedu cefnogaeth at y sawl sydd ei angen fwyaf.

“Rwy’n gobeithio, o weld mwy fyth o dystiolaeth fod angen gwneud mwy i helpu economi Cymru, y bydd Llafur o’r diwedd yn stwyrio ac yn gweithredu.”

Llun: Aled Ffred Jones

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1107/
2012-05-18T00:00:00+1:00Galw am fuddsoddiad isadeiladedd i roi terfyn ar ddiffyg twf economaidd

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys yn San Steffan, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu gostyngiad yn y ffigyrau diweithdra, ond rhybuddion fod y DU yn dioddef diffyg twf economaidd ac angen buddsoddiad creu-swyddi er mwyn helpu pobl i ganfod gwaith a delio gyda’r diffyg ariannol.

Dywedodd hefyd fod Cymru angen pwerau creu-swyddi fe y gallwn wneud pethau ein hunain, yn hytrach na gorfod aros am San Steffan.

Wrth rybuddio fod polisiau cynilo’r glymblaid yn gadael y DU a Chymru mewn twll economaidd, dywedodd Mr Edwards: "Tra fy mod yn croesawu’r newyddion fod ffigyrau diweithdra Cymru a’r DU wedi gostwng rhywfaint, ni allwn anghofio fod y DU newydd ddychwelyd i ddirwasgiad a bod y Llywodraeth yn parhau i fethu taclo achosion craidd diffyg gweithgaredd economaidd.

“Dyna pam fod Plaid Cymru yn parhau i alw am raglan synhwyrol o fyddsoddiad isadeiledd mewn ffyrdd, ysgolion, ysbytai a thai a fydd helpu pobl i ganfod gwaith.

“Yr wythnos diwethaf methodd Araith y Frenhines wneud hyn ac felly rydym wedi cynnig gwelliant yn galw am bolisiau i greu twf, yn cynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer busnesau bach, buddsoddiad isadeiledd, ac i daclo diweithdra.

“Mae Banc Lloegr eto wedi israddio’r rhagolygon twf, sy’n dangos cyflwr gwael yr economi, tra bod tan-weithdra a gweithio rhan amser bellach yn ffordd o fyw.

“Nid yw hi’n rhy hwyr i’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr gyfaddef eu bod yn anghywir a buddsoddi mewn swyddi a thwf yn hytrach na pharhau gyda’r toriadau sy’n sugno bywyd o’r economi.

“Methiant polisiau economaidd Llundain yw’r rheswm pam fod angen pwerau creu-swyddi yng Nghaerdydd i helpu’r economi Gymreig, megis treth gorforaeth neu’r gallu i fenthyca ar gyfer buddsoddi.

“Nid wyf yn deall pam fod gwell gan Lafur yng Nghymru weld y Toriaid yn San Steffan yn gwneud y penderfyniadau hynny, yn hytrach na ni yng Nghymru."

Llun: Jonathan Edwards

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1108/
2012-05-18T00:00:00+1:00Croesawu addewidrhwydwaith ffilm ar draws y Deyrnas Unedig

Mae Hywel Williams AS Plaid Cymru wedi croesau addewid y Llywodraeth i ddatblygu rhwydwaith ffilm ar draws y Deyrnas Unedig a fyddai’n gweithio gydag asiantaethau sgrin yn Nghymru ar brosiectau ar-y-cyd a rhaglenni traws-ddiwylliannol.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi ei ymateb i Adolygiad Annibynol a gyhoeddwyd fis Ionawr, “a Future For British Film: It begins with the audience…”, a archwiliodd ddiwydiant ffilm y DU gan gyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth a’r diwydiant ei hun.

Dywedodd Mr Williams: “Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi croesawu argymhellion yr Adolygiad, yn enwedig y syniad y dylai’r BFI gyflwyno strategaeth i ddatblygu rhwydwaith ffilm ar draws y DU gan gynnwys Asiantaeth Ffilm Cymru.

“Gobeithio mai dyma’r cam cyntaf o nifer fydd yn symud diwydiant ffilm Cymru yn nes at y cydnabyddiaeth, parch a chefnogaeth mae ei angen i chwarae rol llawn ym mywyd diwylliannol ac economaidd ein cenedl.

“Mae ffilmiau gwych wedi eu cynhyrchu yn y Gymraeg a’r Saesneg megis Hedd Wyn, Solomon a Gaenor, Gadael Lenin, Twin Town ac yn ddiweddar ffilm anhygoel Michael Sheen, Gospel of Us. Mae’r diwydiant ffilm Cymreig yn chwarae rhan allweddol yn ein galluogi i gynrychioli ein hunain a sicrhau dyfodol i’n hiaith a diwylliant.

“Er hyn, mae’r diwydiant ffilm Prydeinig wedi canolbwyntio’n bennaf ar Loegr erioed, gydag un llygad wedi ei hoelio ar Hollywood, ac mae’r BFI ei hun wedi cyfaddef yn Adolygiad Ionawr fod yr anghydbwysedd hyn yn cyflwyno her i wledydd a rhanbarthau eraill y DU sydd ar hyn o bryd ddim yn cael cynrychiolaeth deg.

“Mae’n simoedig fod Argymhelliad 3 ac ymateb ehangach y Llywodraeth yn ymddangos fel pe bai’n gweld y Cymry fel prynwyr, yn hytrach na chynhyrchwyr ffilm. Yr argraff a geir yw mai ychwanegiad yw’r cynnig hwn i system gynhyrchu ffilm sydd wedi ei seilio yn ne ddwyrain Lloegr.

“Felly, mae hyd yn oed yr argymhelliad cadarnhaol hwn yn rhoi’r pwyslais ar Loegr, a chaiff Cymru ond ei chrybwyll unwaith mewn 26 tudalen o sylwadau.

“Wrth i Wyl Cannes agor am eleni, byddai Prydain yn elwa o edrych at Ewrop er mwyn datblygu gwerthfawrogiad o gynhyrchiadau aml-ddiwyllianol ac aml-ieithog. Mae poblogrwydd cyfresi diweddar megis Borgen, The Bridge, ac hyd yn oed y ffilm ddi-sain The Artist, yn dangos nad ydi iaith (neu ddiffyg iaith!) yn rwystr i lwyddiant.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi’r argymhelliad ar waith yn fuan fel y caiff diwydiant ffilm Cymru y platfform angenrheidiol i arddangos y cyfoeth o dalent sydd gennym i’w gynnig yng Nghymru.”

Llun: Hywel Williams

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1109/
2012-05-18T00:00:00+1:00£5 miliwn i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, wedi cyhoeddi yr wythnos yma y bydd cyllid gwerth dros £5 miliwn yn cael ei roi i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Caiff grantiau y Gymraeg mewn Addysg eu dyfarnu i awdurdodau lleol yn flynyddol er mwyn eu cynorthwyo i wella a chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg a hyfforddiant ar fethodoleg i athrawon ac ymarferwyr, rhoi cymorth dilynol i’r rheini sydd wedi cwblhau’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg a darparu ystod o weithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu fas i’r ysgol, megis cwisiau llyfrau Cymraeg, digwyddiadau a chyrsiau preswyl.

Eleni, mae £200,000 o gyllid ychwanegol wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau newydd gyda’r nod o wella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a chynyddu’r nifer sy’n gallu cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy raglenni trochi hwyrddyfodiaid.

Mae disgwyl i’r awdurdodau lleol gyfrannu arian cyfatebol sy’n werth o leiaf 33% o’u dyraniad.

Dywedodd Mr Andrews: “Rwyf wedi ymroi i weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu a hynny drwy roi mynediad i addysg Gymraeg i bobl a hefyd drwy greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith y tu allan i gatiau’r ysgol. Bydd yr arian hwn yn datblygu ac yn cryfhau’r ddarpariaeth o ran addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn unol â’n Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

"Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru drwy ariannu prosiectau sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd anffurfiol y tu allan i’r ysgol.”

Mae cyfanswm o £5.63 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/13. Dyma sut y caiff ei ddyrannu:

£400,000 ar gyfer prosiectau sydd wedi’u hanelu at wella’r dilyniant ieithyddol rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd ynghyd â chynyddu’r mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg drwy ddefnyddio rhaglenni trochi hwyrddyfodiaid. Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i ariannu 14 prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan sicrhau eu bod yn parhau. Sefydlwyd y prosiectau hynny gan Fwrdd yr Iaith. Bydd hyd at £200,000 yn fwy yn cael ei glustnodi i sefydlu prosiectau newydd.

£200,000 ar gyfer Tîm Cymorth Cymraeg mewn Addysg CBAC.

£5.03 miliwn ar gyfer y Grantiau Cymraeg mewn Addysg i awdurdodau lleol. Mae’r ceisiadau a wnaed gan bob un o’r 22 awdurdod lleol wedi’u gwerthuso yn erbyn meini prawf penodol. Mae’r meini prawf hynny yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Disgwylir i’r awdurdodau gyfrannu arian cyfatebol sy’n werth o leiaf 33% o’u dyraniad.

Llun: Leighton Andrews

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1110/
2012-05-18T00:00:00+1:00Rhaglen lawn o weithgareddau yn Nyffryn Nantlle

Rhaglen lawn o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Dyna mae'r criw brwd Dyffryn Nantlle 20/20 wedi ei baratoi. Daeth y criw at ei gilydd flwyddyn yn ôl i weld beth oedd yn bosib i'w wneud i adfywio'r dyffryn.

“Mae rhywbeth at ddant pawb,” medd Anna Fôn, gwraig gamera o Nebo a Chadeirydd Dyffryn Nantlle 20/20, “o noson o sleidiau nos Fawrth gan y ffotograffydd Geraint Thomas, noson i lansio llyfr Carl Clowes nos Fercher (y ddau i'w cynnal yn Neuadd Goffa Penygroes), cyfle i grwydro y mannau a gaiff eu henwi yng nghaneuon Bryn Fôn ar y nos Iau, a'r ffilm Gaucho yn Neuadd Llanllyfni i ddilyn, gig efo Bryn Fôn a Wali Tomos yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle ar y nos Wener (wedi'r gêm beldroed C'mon Midffild) a chyfle i bawb ymlacio yn Y Crochan Blasus, Penygroes efo Noson Bwyd Lleol nos Sadwrn i ddathlu diwedd y gweithgareddau. Rydym yn teimlo'n gyffrous ynglyn â'r prosiect.”

Ardal dlawd yw Dyffryn Nantlle yn economaidd, ond mae'n gyfoethog o ran gweithgareddau cymdeithasol. Er ei fod yn ddyffryn eithriadol o hardd, gyda chysylltiadau llenyddol cyfoethog, nid yw'r ardal yn cael gymaint o ymwelwyr ag y caiff rhywle fel Llanberis. Mae Dyffryn Nantlle 20/20 wedi ei sefydlu gan bobl leol i hyrwyddo'r dyffryn fel y bydd mwy o ymwelwyr yn dod yno, ac y bydd hynny yn rhoi budd economaidd i'r lle. Mae'r pwyslais ar ddatblygu a chefnogi pobl a gweithhgareddau.

Mae'r logo wedi ei gynllunio, am ddim gan ddylunydd lleol – Gringo - ac mae'n debyg y bydd cyfle i'w ddefnyddio yn aml yn 2012. Mae llawer yn cyfrannu yn wirfoddol at gynlluniau'r fenter, ac mae traddodiad cryf yn yr ardal o weithio yn wirfoddol dros bethau lleol a Chymraeg.

“Mae cymaint o bosibiliadau newydd i'r dyffryn,” meddai Anna. “Mae llwybr beicio yn mynd drwy y dyffryn, a'r Cyngor wedi ychwanegu ato ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mae angen dulliau i ddenu pobl i'r dyffryn ei hun, i gerdded, beicio, bwyta a mwynhau.Un ffordd o'i farchnata fyddai hyrwyddo y ffordd amgen o fwyta a gwersylla, gan fod prinder amlwg yn farchnad yna. Ond mae gennym y pethau sylfaenol hynny sydd yn greiddiol i ddenu ymwelwyr – y mor, y mynyddoedd, yr iaith, y bobl a'r hanes.”

Bydd yr iaith Gymraeg yn gwbl ganolog i weithgaredd Dyffryn Nantlle 20/20. Nid yn unig i'w ffordd o weithredu, ond hefyd fel ffactor i'w farchnata. Mae pobl heddiw yn chwilio am lefydd gwahanol, a bydd ganddynt ddiddordeb mewn aros ac ymweld ag ardal Gymreiciaf Cymry.

“Mae'n fwriad gennym hyfforddi pobl i dywys ymwelwyr. Mae hyn wedi ei wneud ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae'r tywyswyr yno wedi bod draw yn ein rhoi ar ben y ffordd,” meddai Craig ab Iago, sydd newydd ei ethol fel cynghorydd lleol ac sy'n Is-Gadeirydd Dyffryn Nantlle 20/20.

“Ni yw'r arbeinigwyr gorau ar ein hanes lleol, a ni ddylai ei ddehongli i bobl o'r tu allan. Mae cynllun ar y gweill i gynnal cwrs Cynefin a Chymuned, ar y cyd gyda Antur Stiniog, i sicrhau fod pawb sydd â diddordeb yn yr awyr agored (i fwynhau neu gweithio) gyda gwybodaeth a dealltwriaeth o'r etifeddiaeth leol.

“Mae'n bwysig cael gweledigaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf,” meddai Craig. “Mae pethau yn fywiog iawn yn y dyffryn ar hyn o bryd, ond mae pobl ifanc yn gadael ar raddfa ddychrynllyd.”

Carai aelod arall o'r grwp, Angharad Tomos, weld y lle yn cael ei ddatblygu fel cyfle i bererindod lenyddol.

“Hoffwn weld bysus o blant yn dod yma o ysgolion led led Cymru” meddai. “Boed o'n Parry Williams, Williams Parry, Gwilym R, Mathonwy Hughes, Kate Roberts, John Gwilym Jones, mae nhw i gyd o fewn milltir neu ddwy i Benygroes, a does dim byd gwell na chlywed geiriau'r llenorion hyn yn eu cynefin. Does dim rhaid edrych yn ôl i'r gorffennol ychwaith, mae Karen Owen a Bryn Fôn yn byw yma ac yn dal i dynnu ysbrydoliaeth o'r tir.”

Y rhaglen lawn:

Nosweithiau y Steddfod, Mehefin 5ed - 9fed

5ed, Nos Fawrth, 7.00

Neuadd Goffa Penygroes

Llynnoedd yr Ardal

Noson o sleidiau gan y ffotograffydd lleol, Geraint Thomas. Cyfle unigryw i weld y lluniau yn ei gyfrol ddiweddar. Mynediad £2.00

6ed, Nos Fercher, 7.30

Neuadd Goffa Penygroes

Cydweithio er mwyn y Gymraeg

Noson i ddathlu cyfraniad cymuendau Cymru a lansio llyfr newydd Dr Carl Clowes. Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

7fed, Nos Iau, 6.30

Neuadd Llanllyfni

Taith Bryn Fôn

Cyfle i fynd am dro i weld y llefydd yn ei ganeuon - 7.30 Dangos y ffilm “Gaucho”. Mynediad £2.00

8fed, Nos Wener, 7.30

Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle

Yn dilyn y gêm C'mon Midffild

Gig Bryn Fôn, gyda Wali Tomos a Y Rhacs

Mynediad: plant ysgol £4; oedolion £8; tocyn teulu £20. Ar gael o Ysgol Dyffryn Nantlle a Siop Parri Penygroes. Manylion: annafon1@aol.com

Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Dyffryn Nantlle 20/20

9fed, Nos Sadwrn, 6.30

Crochan Blasus, Penygroes

Noson Bwyd Lleol

Bwffe gyda chynnyrch lleol, a 12 stondin cynhyrchwyr lleol. £5.00 y pen (£3.50 i blant)

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1111/
2012-05-18T00:00:00+1:00Plaid Cymru yn croesawu targed tai Llywodraeth Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Llyr Gruffydd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu datblygu 7,500 o dai newydd fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Mae’r targed, a gyflawnir dros dymor pum mlynedd y Llywodraeth Lafur, yn adeiladu ar waith Plaid Cymru a gyflwynodd dipyn mwy na’u targed o 6,500 o dai fforddiadwy yn ystod llywodraeth Cymru’n Un.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar dai, Llyr Gruffydd: “Mae’r targed hwn i’w groesawu. Pan oedd Plaid Cymru mewn llywodraeth, fe wnaethom yn well na’n targed o godi 6,500 o dai fforddiadwy, ac y mae’n dda bod y Llywodraeth Lafur eisiau adeiladu ar y seiliau hynny.

“Prosiectau buddsoddi cyfalaf fel y rhain yw’r union bethau y buom yn galw amdanynt er mwyn cadw’r economi i fynd a lleihau effaith y mesurau llym – nid yn unig y bydd y cyhoeddiad hwn yn sicrhau y gall 7,500 o deuluoedd gael tai fforddiadwy, ond bydd yn newyddion da hefyd i’r diwydiant adeiladu a’r sector preifat wrth iddynt elwa o gontractau adeiladu. Trueni, er hynny, y bu’n rhaid i ni eistedd trwy flwyddyn o ddifrawder tra bu Llafur yn penderfynu a fyddent yn buddsoddi mewn tai ai peidio.

“Mae cwestiynau i’w gofyn o hyd am sut y cyfarfyddir â’r targedau hyn. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn amlinellu’n fanwl sut y caiff hyn ei gyllido a’i gyflawni. Dyma ymrwymiad mawr ar ran Llywodraeth Cymru, ac y mae angen iddynt ddilyn yr agwedd agored, gynhwysol a ddnagoswyd gan Blaid Cymru os ydynt am gwrdd a’u targed.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1112/
2012-05-18T00:00:00+1:00Rheolwr yr Elyrch yn canmol ymdrechion i gynyddu proffil Abertawe

Mae Brendan Rogers, rheolwr yr Elyrch, yn dweud bod y byd i gyd wedi cymryd at y ddinas oherwydd y tymor cyntaf anhygoel yn yr Uwch-gynghrair.

Mae proffil amlycach y ddinas ar draws y DU ac o gwmpas y byd wedi golygu bod busnesau lleol wedi elwa wrth i'r Elyrch frwydro o wythnos i wythnos yn erbyn timau megis Manchester United, Arsenal a Chelsea.

Ac mae rheolwr y clwb, sy'n defnyddio atyniadau'r ddinas fel pwynt gwerthu allweddol i berswadio chwaraewyr newydd i ymuno â'r tîm, yn dweud bod y ffactor boddhaus hwn i'w deimlo ar draws Abertawe.

Meddai: "Mae wedi bod yn dymor gwych gyda phroffil Abertawe fel tîm pêl-droed ac fel dinas wedi codi ar draws y byd i gyd. Mae Bae Abertawe'n rhan hardd iawn o'r DU ac rwy'n siwr y bydd y ddinas a'i phobl wedi creu argraff gyntaf arbennig ar gefnogwyr sy'n ymweld.

"Dwi'n synnu dim bod y byd pêl-droed wedi cymryd at y tîm a'r ddinas."

Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ac wedi defnyddio gemau gartref allweddol megis gêm mis Tachwedd diwethaf yn erbyn Manchester United a chystadleuaeth y penwythnos yma yn erbyn Lerpwl i farchnata Cymru ac Abertawe i gynulleidfa fusnes y DU.

Mae mwy na 580 miliwn o gefnogwyr pêl-droed mewn 211 o wledydd wedi gweld Eisteddle Croeso Stadiwm Liberty sydd wedi rhoi cyfle iddynt wybod mwy am Gymru ac Abertawe drwy fynd i wefan dewchifaeabertawe.com.

Ar ben hynny, mae gweithredwyr twristiaeth, gan gynnwys gwestai a busnesau eraill, wedi profi manteision economaidd ymdrechion Cyngor Abertawe a'i bartneriaid i werthu'r ddinas i gefnogwyr o bant a'r cyfryngau ar draws y byd.

Yn ôl yr ystadegau, cafwyd tua 800,000 o ymweliadau â thudalennau gwefan cyrchfan swyddogol Bae Abertawe dros y tymor - mae hynny 44% yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau: "Mae'r adborth wedi bod yn wych. Mae perchnogion gwestai'n dweud bod cefnogwyr sy'n ymweld sy'n archebu lle wedi cael effaith galonogol ar fusnes eleni - ac maen nhw'n aros am fwy o amser er mwyn archwilio a mwynhau lleoliadau eiconig megis Rhosili a rhannau eraill o G?yr.

"Mae busnesau canol y ddinas wedi dweud wrthym eu bod yn gweld cefnogwyr o bant yn rheolaidd yn crwydro'r ddinas ac yn mwynhau amser yn y tafarndai a'r bwytai.

"Mae ymdrechion dygn Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru, y Stadiwm, y Clwb Pêl-droed a phartneriaid busnes lleol yn sicr yn talu'n economaidd ac yn cynyddu proffil Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr."

Llun: Brendan Rogers

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1113/
2012-05-18T00:00:00+1:00Mynd i’r afael â bwydo poblogaeth sy’n cynyddu

Mae canolfan ymchwil newydd o bwys wedi’i hagor gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews. Mae’r ganolfan yn gwneud gwaith er mwyn mynd i’r afael ag un o heriau mwyaf yr unfed ganrif ar hugain sef darganfod ffordd o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu gan sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu hefyd.

Mae’r adeilad newydd ar gyfer Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth yn un o ddau ddatblygiad a agorwyd yr un diwrnod. Yn y ganolfan arall, sef y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ffenomeg Planhigion ym Mhlas Gogerddan, bydd tŷ gwydr mwyaf datblygedig y DU a bydd yn ganolbwynt i sefydliad newydd sef y Sefydliad Rhyngwladol mewn Bridio Planhigion.

Mae Prifysgol Aberystwyth a’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol wedi buddsoddi £26 miliwn yn y cynllun ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £16.5 miliwn mewn datblygiadau cyfalaf diweddar sy’n gysylltiedig â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a’r Gynghrair Biowyddorau a’r Amgylchedd ehangach sy’n bodoli rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor.

Ers ei sefydlu, mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi dod yn ei flaen yn dda iawn. Yn rhannol, mae’r diolch hynny i’r gefnogaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am iddynt fuddsoddi £23.5 miliwn yn y sefydliad. Bu hyn o gymorth wrth geisio cael gafael ar ragor o arian gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol a chan asiantaethau eraill.

Dywedodd Leighton Andrews: “Yng Nghymru, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw un o’n canolfannau ymchwil mwyaf blaenllaw. Mae llawer o’r gwaith y mae’r sefydliad yn ei gyflawni yn wirioneddol o safon fyd-eang ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ledled y byd.

“Mae’r wyddoniaeth a ddefnyddir yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn cynorthwyo pobl yn y byd sy’n datblygu i oroesi sychder a chnwd sydd wedi’i heintio, i fynd ati i wella diogelwch bwyd yn y cartref ac i alluogi busnesau Cymru i elwa ar gyfleoedd masnachol newydd.

“Yn ogystal, mae gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gyfraniad mawr i’w wneud at ddau o feysydd yr her fawr a gyhoeddwyd yn ein Strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru - gwyddorau bywyd a carbon isel, ynni a’r amgylchedd.

“Mae’r ganolfan addysgu ac ymchwil ragorol hon ar gyfer gwyddorau’r tir yn enghraifft arbennig o’r Addysg Uwch arloesol y mae Llywodraeth Cymru am ei gweld yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol yn y datblygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn enghraifft glir o’n hagenda uchelgeisiol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesi yma yng Nghymru.

“Bydd y ganolfan newydd hon yn datblygu enw da’r Brifysgol fel canolfan ymchwil biowyddoniaeth, a honno’n ganolfan ag iddi arwyddocâd byd-eang. Ac mae hynny i’w ddathlu.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1114/
2012-05-18T00:00:00+1:00Prifysgol Abertawe yn ehangu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bod yn dymuno penodi pum aelod newydd o staff academaidd cyfrwng Cymraeg.

Mae’r swyddi, sydd wedi’u hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhan o gynllun datblygu cenedlaethol y Coleg i gynyddu nifer y staff academaidd sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Prifysgol Abertawe yn dymuno penodi ymgeiswyr i swyddi yn y meysydd canlynol; y gyfraith, cyfryngau digidol, sŵoleg, gwaith cymdeithasol yn ogystal ag astudiaethau iechyd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am addysgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd pwnc. Bydd disgwyl iddynt hefyd gyfrannu at fywyd deallusol prifysgolion Cymru drwy waith ymchwil, hwyluso cydweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill, a hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'w pwnc a'u sefydliadau.

Ynghyd â’r swyddi, mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau dwy Ysgoloriaeth Ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym meysydd Moeseg Iechyd a Pheirianneg. Bydd deiliaid yr Ysgoloriaethau Ymchwil yn derbyn nawdd am hyd at bum mlynedd.

Eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol mae pedwar darlithydd wedi cael eu penodi gan Brifysgol Abertawe fel rhan o Gynllun Staffio Academaidd y Coleg, a hynny ym meysydd Ieithoedd Modern, Daearyddiaeth a Hanes.

Meddai Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae hyn yn newyddion gwych i Brifysgol Abertawe ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w swyddi newydd maes o law. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe wedi cynyddu gryn dipyn yn ddiweddar a bydd y penodiadau yma yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth, a hynny ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd.’’

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Bydd y Coleg yn cyllido 100 o swyddi academaidd newydd drwy’r Cynllun Staffio Academaidd rhwng 2011/12 a 2015/16. Mae penodi pum ddarlithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o strategaeth academaidd y Coleg i gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg pwrpasol ar gyfer y dyfodol.

"Bydd penodiadau yn y meysydd yma, ynghyd ag ysgoloriaethau PhD mewn meysydd yn cynnwys Peirianneg, yn hwb sylweddol i’r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weld cynnydd pellach yn y ddarpariaeth a chyfleoedd newydd ac ychwanegol i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg”.

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1116/
2012-05-18T00:00:00+1:00Newidiadau i amserlen S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i’w hamserlen o ganol y mis hwn.

Mae’r sianel eisoes wedi cyhoeddi y byddai newidiadau i gynnwys ac arddull y rhaglen gylchgrawn ‘Heno’ gyda llawer mwy o bwyslais ar gael perthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru. Ar yr un pryd cyhoeddwyd y byddai swyddfa Tinopolis, cynhyrchwyr ‘Heno’, yng Nghaernarfon yn ail agor.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb i’r amserlen newydd ac yn mawr obeithio y bydd y gynulleidfa yn cael ei phlesio gyda gweithgaredd ‘Heno’ o gymunedau amrywiol Cymru. Bydd cyfle yn hwyrach yn y nos i’r sianel fod yn fwy mentrus a blaengar - yn wir, i atgyfnerthu'r gwasanaeth yn galon i’r genedl.”

Fel rhan o’r newidiadau o 14 Mai ymlaen bydd ‘Heno’ yn ymestyn i bum rhaglen yr wythnos o nos Lun i nos Wener.

Bydd Angharad Mair, Gerallt Pennant ac Eleri Sion yn rhan o’r tîm cyflwyno. Bydd Rhodri Ogwen Williams yn gadael y tîm i ganolbwyntio ar gyfresi eraill i S4C gan gynnwys ‘Jacpot’ sy’n rhan o’r rhaglen ‘Pen8nos’.

Bydd y rhaglen gylchgrawn ‘Prynhawn Da’ yn newid i fod yn rhaglen awr gan gynnwys eitemau hamdden a sgwrsio.

Ailddarlledir ‘Heno’ amser cinio’r diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol ac ailddarlledir uchafbwyntiau ‘Prynhawn Da’ bob prynhawn Sul.

Meddai Angharad Mair, cynhyrchydd ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da,’ “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r ‘Heno’ newydd, rhaglen gylchgrawn ble bydd S4C yn rhoi’r gwylwyr, cymunedau a digwyddiadau ar y sgrin. Rhaglen y gwylwyr fydd hon fydd yn dangos yr holl weithgaredd difyr a diddorol sy’n digwydd ym mhob cwr o Gymru yn ddyddiol.”

Mae’r rhaglen ‘Pen8nos’ ar nos Wener hefyd yn mynd i newid o 25 Mai ymlaen. Bydd yn dal i gynnwys elfennau cystadleuol fel ‘Jacpot’ a bydd ‘Sam Ar y Sgrin,’ cyfres Aled Samuel sy’n bwrw golwg ar raglenni’r wythnos ar S4C, yn symud o nos Sul i fod yn rhan o ‘Pen8nos.’

Bydd slot 10 o’r gloch o nos Lun i nos Wener yn newid hefyd. Bydd ‘Sgorio’ yn symud nôl fel rhaglen awr i 10 o’r gloch ar nos Lun ac ymhlith rhaglenni eraill yn y slot yn ystod gweddill yr wythnos bydd rhaglenni ieuenctid fel ‘Y Lle’ a chyfresi comedi fel ‘Gwlad yr Astra Gwyn.’

Bydd ailddarllediad ‘Pobol y Cwm’ yn symud nôl i 6.30 o nos Lun i nos Wener. Slot newydd y gyfres ddrama ‘Rownd a Rownd’ fydd 6.10pm ar nos Lun a nos Fercher gyda’r ailddarllediad ar ddydd Sul.

Llun: Gerallt Pennant

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1089/
2012-05-05T00:00:00+1:00Hyrwyddwr dwyieithrwydd yn hybu'r Gymraeg yn y gweithle

Penodwyd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i sicrhau bod modd dilyn llwybr dysgu seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Bydd Ryan Evans sy’n 28 oed ac yn ieithydd o Ddoc Penfro yn ymuno â thîm NTfW yng Nghaerdydd ar gontract 29 mis ar ôl treulio bron chwe blynedd fel rheolwr cyllid a swyddog datblygu’r Gymraeg gyda PRP Training Ltd.

Bydd yn cydweithio’n agos â darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith a Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r swydd fel rhan o’i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Nod yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yw helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i ddatblygu darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn meysydd lle bu’n brin hyd yma.

Her gyntaf Mr Evans fydd paratoi cynllun sy’n cynnwys amcanion ynghylch:

· cynyddu nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar ddarpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn sectorau penodol yn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith;

· annog pobl ifanc sy’n gadael ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog i barhau â’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg;

· rhannu arferion da o fewn y rhwydwaith;

· sicrhau bod mwy o ddarpariaeth Gymraeg gynaliadwy’n cael ei datblygu; a

· codi proffil yr iaith a datblygu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhwydwaith darparwyr NTfW.

Bydd Mr Evans yn cydweithio’n agos â’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i gyflawni ei amcanion.

“Mae’n swydd gyffrous gan fy mod i’n frwd dros yr iaith Gymraeg ac yn awyddus i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i bawb sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am fanteision dysgu dwyieithog,” meddai.

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’n treftadaeth a’n diwylliant ac rydyn ni am sicrhau lle mwy amlwg iddi yn y gweithle. Byddaf yn cydweithio’n agos â darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i ganfod a rhannu arferion da.

“Yn ogystal, byddaf yn cyfarfod â hyrwyddwyr dwyieithrwydd mewn colegau addysg bellach i ganfod arferion gorau a strategaethau sy’n addas ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith.

“Rwy’n edrych ymlaen at gasglu sylwadau darparwyr hyfforddiant ym mhedwar rhanbarth Cymru am ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ddwyieithog yn y gweithle. Mae manteision i ddarparwyr a chyflogwyr sy’n rhoi cyfle i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

“Ceir llawer mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg mewn ysgolion erbyn hyn ac mae angen ehangu hynny i’r gweithle. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio’n gyfartal.”

Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi pennu targedau ar gyfer nifer y dysgwyr yr anelir at eu cael yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog erbyn 2015.

Dywedodd Cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins wrth ymddeol o’r gadair: “Rydym yn eithriadol o falch ein bod wedi sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen â’r her o ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym mhob rhan o’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith.

“Er mwyn cyrraedd y targedau a nodir yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, bydd angen rhannu’r arferion gorau trwy’r rhwydwaith cyfan. Mae’n bwysig ein bod yn deall sut orau i gynnwys sgiliau dwyieithog ym myd gwaith, lle mae ein dysgwyr ni’n datblygu.”

http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/1090/
2012-05-05T00:00:00+1:00