Digwyddiadau

23 Mawrth 2012

Darlith “Byd a Bywyd” yr enwog Caradog Prichard

Bydd yr awdur, golygydd a hanesydd adnabyddus o Ddyffryn Ogwen, Dr John Elwyn Hughes yn traddodi’r ddarlith "Byd a Bywyd Caradog Pritchard" yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Cynhelir y ddarlith nos Wener 23 Mawrth am 7.30pm yn Amgueddfa Lloyd George, ac mae croeso cynnes i bawb.

Dr John Elwyn Hughes ydi awdur bywgraffiad darluniadol ‘Byd a Bywyd Caradog Prichard 1904-1980’ ac yn dilyn blynyddoedd o waith ymchwil trwyadl a gofalus does neb gwell i rannu gwybodaeth am fywyd Caradog Prichard, un o lenorion enwocaf Cymru.

Pris mynediad yw £5 ac mae'n rhad ac am ddim i aelodau Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Emrys Williams ar 01758 614952 neu Wilemros@aol.com

 

Rhannu |