Digwyddiadau

17 Chwefror 2012

Gig Steve Eaves

Nos Wener nesaf bydd Steve a’r band yn perfformio am y tro 1af yn Theatr Soar, Merthyr Tudful. Mae’r theatr fechan hon yn cynnig cyfle i glywed caneuon Steve mewn awyrgylch cynnes ac agos-atoch-chi. Mae band Steve yn cynnwys rhai o gerddorion disgleiriaf y sin yng Nghymru. Bydd y band nos Wener nesaf yn cynnwys y gitarydd / cynhyrchydd amryddawn Elwyn Williams, a’r baswr gwych, ‘Funky’ Pete Walton efo’i arddull gynnes, gynnil a chyfoethog ar y bâs dwbl. Ar ddrymiau ac offerynnau taro bydd un o’n cerddorion Cymraeg mwyaf profiadol, Gwyn Jones (Gwyn Maffia). Dowch draw am noson o gerddoriaeth acwstig dda ac awyrgylch braf a chyfeillgar.
Y drysau a’r bar yn agor am 7.00. Y perfformiad yn dechrau am 8.00.
Tocynnau : £8 a £6 Ffoniwch y Theatr i gadw tocyn : 01685 722176
www.theatrsoar.com

Rhannu |

Digwyddiadau