Digwyddiadau
Busnes gwyrdd ar frig yr agenda
Bydd Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ym Mhortmeirion ddydd Iau, 8 Mawrth.
Themâu’r gynhadledd eleni fydd Tirlun yn Talu, a’i fwriad ydi annog pobl i fentro, i ddathlu ac i wneud y mwyaf o dreftadaeth a thirwedd Gwynedd.
Uchafbwynt cynhadledd 2012 fydd cyflwyniadau gan unigolion a busnesau sydd eisoes yn defnyddio adnoddau naturiol y sir i lwyddo - er enghraifft ein tirwedd fendigedig, adnoddau natural a diwydiannau traddodiadol - heb niweidio’r amgylchedd.
Y prif siaradwyr fydd:
Robin Llywelyn, prif weithredwr Portmeirion, y pentref Eidalaidd sy’n atyniad ymwelwyr o bwys
Iola Huws o winllan lwyddiannus Pant Du yn Nyffryn Nantlle, sy’n cynhyrchu gwin a sudd ffrwyth
Cynrychiolaeth o Ganolfan Ragoriaeth Arfordirol Aberdaron, sy’n anelu i hybu mentergarwch mewn ardal sydd ag amgylchedd bregus
Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n mynychu’r gynhadledd i glywed am y gefnogaeth a’r grantiau sydd ar gael yng Ngwynedd gan Annog yr ymgynghorwyr busnes; Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bwriad Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd ydi codi ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd yng Ngwynedd ymysg trigolion, y sector fusnes a darparwyr gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys hybu buddion economaidd, cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd.
Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd, ac i archebu eich lle, cysylltwch â PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk neu 01286 679652.








