Digwyddiadau
Cyffro noson rasys, cawl a chân gyda Ceredrotian, Tanycastell
Ar ddydd Sadwrn, 25ain Chwefror, mae un o glybiau Ceredrotian, Clwb Rasio Harnes Tanycastell, yn cynnal noson llawn hwyl a chyffro yng Ngwesty Llety Parc, Aberystwyth.
Dywedodd Karen Lowes, cyfarwyddwr Ceredrotian ac ysgrifennydd a chyfarwyddwr Clwb Rasio Harnes Tanycastell: “Pa ffordd well i nodi diwedd misoedd oer y gaeaf, cael noson hwyliog a chefnogi rasio harnes y sir na thrwy ddod at ein gilydd i fwynhau bwyd da, cerddoriaeth fyw a holl gyffro noson o rasys. Gobeithio y gwelwn ni chi yno.”
Digwyddiad: NOSON CAWL, CÂN A RASUS
Lleoliad: Llety Parc, Aberystwyth
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 25ain Chwefror, 2012
Amser: 7.00yh
Adloniant: Johnny & Hywel, y delynores Helen Naylor a Triaiwd Crwys Evans, a noson o rasys gyda Gwyn Prysc
Bwyd: Cawl cig oen Cymreig
Pris: £10 y pen
Cyswllt /
tocynnau: 01970 828 788






