Digwyddiadau

18-19 Chwefror 2012

Comin neu Ardd

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn canolbwyntio ar wylio adar ar benwythnos Chwefror 18-19 gyda chymorth arbenigwyr o RSPB Cymru.

 

Bydd staff a gwirfoddolwyr o RSPB Cymru yn arwain dwy daith dywys y dydd ar ddydd Sadwrn (18fed) a dydd Sul (19eg) o amgylch yr Ardd a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.

 

Dyweda Tim Bevan, rheolwr Ystâd yr Ardd, y gallai ymwelwyr sydd am wylio’r ardal weld giachod, llinosod, bronwen y dŵr a mwy: “Mae gennym ni nifer o gynefinoedd gwahanol felly gallai’r gwylwyr weld digonedd o adar. Mae gennym ni wyachod bychain ar y llynnoedd; bronwen y dŵr ar nentydd Pont Felin Gat; a llinosod, creciau penddu'r eithin a chnocellod y coed yn y coetir.

 

“Mae ymfudwyr y gaeaf hefyd yn ymweld â ni megis sogieir a’r tingoch. Mae’r gweilch a’r barcudiaid cochion yn boblogaidd yma hefyd, ac rwy’n siŵr y bydd rhywun yn dod o hyd i’n tylluan ‘sgubor breswyl.”

 

Bydd yna ddwy daith gerdded y dydd – un am 12 canol dydd a’r llall am 2pm. Gwisgwch esgidiau cadarn a dillad addas ar gyfer awr o gerdded yn nhywydd Chwefror. Bydd RSPB Cymru hefyd yn rhoi cyngor ar sut i ddenu adar i’ch gardd, pa fwyd y dylech ei roi iddynt a phryd.

 

Mae mynediad i’r Ardd yn £8.50 i oedolion (consesiynau £7) a £4.50 i blant. Os hoffech fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk

Rhannu |

Digwyddiadau