Digwyddiadau

15 Chwefror 2012

Cynllun amddiffyn arfordir Tywyn – arddangosfa gyhoeddus

Bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal yn Neuadd Pendre yn Nhywyn ar 15 Chwefror i godi ymwybyddiaeth am y gwaith diogelwch llifogydd a gwblhawyd yn y dref y llynedd ac i ddarparu gwybodaeth am effaith y llifogydd ar yr ardal.

 

Cwblhaodd Cyngor Gwynedd y gwaith ar y cynllun amddiffyn yr arfordir gwerth £7.6 miliwn a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop yn Nhywyn y llynedd sydd wedi lleihau’r risg o lifogydd blynyddol i oddeutu 80 eiddo yn yr ardal.

 

Bydd yr arddangosfa gyhoeddus yn Neuadd Pendre o 10.30am hyd 4pm ar ddydd Mercher, 15 Chwefror yn galluogi aelodau’r cyhoedd i weld dyluniadau a lluniau o’r cynllun amddiffyn yr arfordir a bydd peirianwyr o Adran Ymgynghoriaeth y Cyngor hefyd wrth-law i drafod y prosiect ynghyd a’r risg gweddilliol o lifogydd yn yr ardal.

 

Yn ogystal, bydd swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd yn mynychu i ddarparu cyngor i aelodau’r cyhoedd am effeithiau llifogydd. Bydd cynrychiolwyr o gorff y diwydiant adeiladu ‘Construction Skills’ hefyd yn rhan o’r digwyddiad i roi cyngor i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y posibilrwydd o ddilyn gyrfa yn y diwydiant.

 

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiad yn Neuadd Pendre, Tywyn o 10.30am hyd 4pm ar ddydd Mercher, 15 Chwefror 2012.

Rhannu |

Digwyddiadau