Digwyddiadau
Iau yn codi
Bydd gwylwyr sêr ar bigau’r drain wrth iddynt aros am olygfa dda o’r nefoedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Gwener Chwefror 17.
Mae’r trefnwyr o Gymdeithas Seryddol Abertawe yn gweddïo am awyr clir oherwydd, gan fydd hon yn noson ddi-leuad, fe fydd yn gyfle gwych i weld Iau a’i loerau.
Byddant hefyd yn cyfeirio eu telesgopau at y blaned Gwener hyfryd, y blaned Mawrth goch ddisglair, yr Orion Nebula a gwrthrychau eraill yn y gofod.
Dywedodd Colin Miles, aelod o Gymdeithas Seryddol Abertawe: “Os yw Brian Cox a’r rhaglen BBC Stargazing Live yn eich ysbrydoli chi - neu efallai bod rhywun wedi prynu telesgop i chi neu’ch bod yn meddwl am brynu un - galwch heibio gyda’ch telesgop a siaradwch gyda’n harbenigwyr.”
Yn ogystal â’r clinigau telesgop, bydd Brian Spinks, aelod o Gymdeithas Seryddol Abertawe yn rhoi cyflwyniad a fydd yn dwyn y teitl ‘Sunspots and the Weather’ (am 7.15pm) a bydd Brian Stokes yn rhoi cyflwyniad am 8.15pm o’r enw ‘The Wonders of the World and Universe - Part Two’.
Bydd cawl a choffi ar werth yn y bwyty i’ch cadw’n gynnes. Tâl mynediad fydd £3 y person a gall unrhyw un dan 16 oed gael mynediad am ddim.
Os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk Os hoffech fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu am ddigwyddiadau eraill yr Ardd, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk






