Digwyddiadau

2 Chwefror 2012

Llun, llên a chân

Bydd cyfle i fwynhau a gwerthfawrogi gweithiau awdur, ffotograffydd a chanwr mewn noson amrywiol yn y Tanerdy, Llanrwst, nos Iau (Chwefror 2) am 7.30.

Bydd yr awdur Lloyd Jones, sy’n wreiddiol o Gwytherin, yn darllen ambell i ddetholiad o’i lyfrau ac yn trafod yr hyn sydd wedi ei ysbrydoli.

Yn yr un modd, fe fydd y ffotograffydd lleol Pierino Algieri yn dangos rhai o’i luniau a’r meddwl y tu ôl iddynt. Ac fe fydd Dan Amor hefyd yn perfformio rhai o’i ganeuon.

Trefnir y noson, sy’n rhad ac am ddim, gan brosiect Craig ar y cyd â Goleuo, ac fe fydd bowlenaid o lobsgows i bawb.

Rhannu |

Digwyddiadau