Digwyddiadau
Cyfarfod blynyddol NFU Cymru Meirionnydd
Mae ffermwyr yn cael eu ysgogi i edrych am gyfleoedd newydd allforio ar gyfer eu cynnyrch a all helpu i liniaru yr ansicrwydd dros ddyfodol yr ewro.
Bydd y siaradwr gwadd Dai Davies, cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC), yng nghyfarfod blynyddol NFU Cymru Meirionnydd yn hysbysu ffermwyr bod marchnadoedd allddodol yn datblygu ar gyfer cig Cymreig a bod y gofyn cyfredol o dramor am gigoedd eidion ac oen yn rhoi hwb i economïau lleol cefn gwlad. I bob golwg allforio cig oen Cymreig yw un o brif gymhellion y ffyniant hwn wrth i sawl gwlad geisio mewnforio cig o ansawdd uchel.
Caiff Mr Davies gyfle i sôn am lwyddiant diweddar HCC yng ngwledydd fel Canada a Sweden a phwysleisio, wrth i bryderon am yr ewro gynyddu, yr anghenraid i gymryd mantais o gyfleoedd newydd, er enghraifft, y farchnad enfawr Tsieiniaidd ac yn UDA a Rwsia.
Meddai Cadeirydd NFU Cymru Meirionnydd Eifion Davies, “Bydd y cyfarfod blynyddol eleni yn rhoi cyfle arbennig i ffermwyr gael clywed am y posibiliadau iddynt allforio eu cynnyrch, yn enwedig dros y gorwel Ewropeaidd ac oherwydd yr ansicrwydd am yr ewro. Rwy’n annog aelodau i fynychu’r cyfarfod hwn.”Bydd Llywydd NFU Cymru Ed Bailey yn cynnig sylwadau ar faterion cyfredol ffermio yng Nghymru, yn nodweddol diwigio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, difodi dicáu mewn gwartheg ac adnabod electronig defaid.
Bydd y cyfarfod yn cadarnhau deiliaid swyddi am y cyfnod 2012 i 2013 fel a ganlyn: Trefor Hughes, Cadeirydd, Lewis Williams, Dirprwy Gadeirydd, Geraint Rowlands, Trysorydd, Hedd Pugh, Dirprwy Drysorydd ac Eifion Davies, Llywydd.
Cynhelir cyfarfod blynyddol NFU Cymru Meirionnydd, a noddir gan fanc yr HSBC, ar nos Lun 6 Chwefror am 7.30 o’r gloch yng Ngwesty’r Royal Ship, Y Sgwâr, Dolgellau, Gwynedd LL40 1AR.






