Digwyddiadau

15 Chwefror 2012

Ger Wolfe a'i fand

Bydd Ger Wolfe a'i fand yn perfformio yn Y Brigands ar nos Fercher, 15eg o Chwefror,  fel rhan o'u taith gyntaf yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan y fand gwych o Fro Ddyfi Hufen Ia Poeth - a gyda Noelleen ni Cholla, cantores ifanc 'sean-nos' o Donegal fel eu gwestai arbennig. Mae cerddoriaeth Ger yn draddodiadol ac yn fodern ar yr un pryd, a gyda llais, gitar, consertina a cello mae'u sain yn hardd ac yn hollol unigol. Maent yn dod o'r Gaeltacht yn Cork, ac maent yn canu yn Gwyddeleg a Saesneg. Mae pawb yn adnabod ac yn hoffu cerddoriaeth Hufen Ia Poeth!

Rhannu |

Digwyddiadau