Digwyddiadau

8 Chwefror 2012

Cyngerdd Tair

Bydd dwy gyngerdd anhygoel yn Y Brigands, Mallwyd, ym mis Chwefror.

Yn gyntaf, bydd 'Tair' (Sian James, Seosaimhin ni Bheallaoigh o Kery a Catherine Tinney o Skye) yn canu a chwarae cerddoriaeth o'r byd Celtaidd - telyn, ffidil a lleisiau anhygoel - ar y nos Fercher 8fed o Chwefror am 8yh, gyda Gwenan Gibbard fel eu gwestai arbennig.

Yn ail, bydd Ger Wolfe a'i fand yn perfformio yn Y Brigands ar y nos Fercher wedyn (15eg o Chwefror) am 8yh hefyd, fel rhan eu taith gyntaf Cymru, gyda chefnogaeth gan y fand gwych o Fro Ddyfi Hufen Ia Poeth - a gyda Noelleen ni Cholla, cantores ifanc 'sean-nos' o Donegal fel eu gwestai arbennig.

Mae cerddoriaeth Ger yn draddodiadol ac yn fodern ar yr un pryd, a gyda llais, gitar, consertina a cello mae'u sain yn hardd ac yn hollol unigol. Maent yn dod o'r Gaeltacht yn Cork, ac maent yn canu yn Gwyddeleg a Saesneg. Mae pawb yn adnabod ac yn hoffu cerddoriaeth Hufen Ia Poeth!

Rhannu |

Digwyddiadau