Digwyddiadau

4 Chwefror 2012

Dysgu sut mae tyfu eich llysiau eich hun

Ydych chi bob amser wedi dyheu am dyfu eich llysiau organig eich hun? Mae yna gyfle i chi i ddysgu sut mae gwneud hynny ar gwrs pedair wythnos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Bydd yn dechrau ddydd Sadwrn Ionawr 14 rhwng 10am - 1pm, a bydd yn cael ei gynnal ar dri dydd Sadwrn yn olynol wedi hynny. Teitl y cwrs yw: ‘Tyfu LLysiau Organig Organic: o’r plannu hyd at y bwyta’, a bydd yn rhoi sylw i faterion yn cynnwys rheoli pla, dewis amrywiaeth a chylchdroi cnydau.

 

Pris y cwrs fydd £35 i aelodau o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol a £40 i bobl nad ydynt yn aelodau. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01558 667150, neu ewch at www.gardenofwales.org.uk

Rhannu |

Digwyddiadau