http://www.y-cymro.comY Cymro Oriau o bleser pur
Bu gwylio S4C nos Sadwrn yn bleser pur. Cawsom oriau o wylio Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc o’r Rhyl, a hynny – yn nhraddodiad gorau eisteddfodau bach cefn gwlad Cymru – hyd at oriau mân y bore. Yng nghefn gwlad, hwyrni eisteddfod yn hytrach na safon sy’n pennu llwyddiant eisteddfod. Yma cafwyd y ddau.

Fe fu cyfnod pan mai rhyw chwaer fach i Brifwyl yr Urdd oedd yr ŵyl hon. Ond all neb wadu bellach fod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc lawn mor safonol ag un yr Urdd. Yn wir, ceir mwy o amrywiaeth ym Mhrifwyl y Ffermwyr Ifanc gyda’i thraddodiad o gynnwys ambell gystadleuaeth wirion, ond doniol.

Dydi aelodau’r Ffermwyr Ifanc ddim yn rhy swil i wneud ffyliaid o’u hunain yn gyhoeddus.
Ystrydeb yw i mi ddweud mai’r mudiad ardderchog hwn fu’n gyfrifol am i mi gael ugain mlynedd a mwy o waith cyfryngol. Ie, ystrydeb ond gwirionedd. Yn y Bont buom ni, bobl ifanc y pump a’r chwedegau’n ffodus iawn. Roedd y Clwb Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd yr Urdd yn un. O dan enw Ystrad Fflur byddem yn cystadlu o fewn y ddau fudiad. Ond y Clwb Ffermwyr Ifanc oedd gryfaf.

Fe wnes i ymuno tua chanol y pumdegau, hynny’n cyd-ddigwydd â llwyddiant cenedlaethol ein tîm siarad cyhoeddus. Buan y gadawodd yr hoelion wyth hynny, Dafydd Lloyd Jones, James Aelwyn Morgan a Moc Rogers i wahanol swyddi. Ond trosglwyddwyd yr awenau’n ddidrafferth i arweinyddion fel Charles Arch a’i ddarpar wraig Mari Osborne Jones.

Charles, er nad oes ond pum mlynedd rhyngom, fu’n gyfrifol am fy mherswadio i sefyll ar lwyfan gyntaf. Yn un ar bymtheg oed mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus, o flaen neuadd lawn yn y Felin-fach cofiaf mai’r unig ffordd i atal fy nghoesau rhag crynu oedd eu plethu o gwmpas coes y bwrdd.

Daeth llwyddiannau lu i’n rhan, yn arbennig ym myd y ddrama, y siarad cyhoeddus a’r eisteddfod. Eleni mae’r ffederasiwn sirol yn dathlu’r deg mlynedd a thrigain. Mae nifer y clybiau yn y sir wedi disgyn i un ar hugain, ond wrth i rai clybiau ddiflannu, cryfhawyd y gweddill drwy i aelodau’r clybiau diflanedig ymuno â’r clybiau sydd ar ôl.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/747/ 2011-11-24T00:00:00+1:00 Curo plant yn arwain at gylch dieflig
WN i ddim sawl tro y gwnaeth Nhad fygwth crasfa i mi. Ond fe wn i ba sawl tro y gwireddodd ei fygythiad – ddim unwaith. Roedd y bygythiad yn ddigon. A dyna fel bu hi gyda’m ffrindiau agos, rwy’n siŵr. Chlywais i’r un ohonyn nhw’n cwyno bryd hynny nac wedyn.

Yr wythnos hon fe wnaeth Aelodau’r Cynulliad yn cynrychioli tair plaid osod cynnig gerbron yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau deddfwriaethau fyddai’n gwahardd cystwyo plentyn yn gorfforol. A chytunaf yn llwyr â’r Aelodau hynny. Os oes raid i riant glatsio plentyn, yna mae’n arwydd o fethiant rhiant nid yn gymaint â chamfihafio ar ran y plentyn.

Mae’r un peth yn wir am athro. Er bod gen i gydymdeimlad llwyr ag athrawon sy’n gorfod dioddef ymddygiad barbaraidd gan rai plant. Duw a ŵyr, dydw’i ddim yn un o’r lefftis trendi. Ond i mi does gan yr un athro nag athrawes yr hawl i glatsio plentyn rhywun arall. Na’i blentyn ei hun, o ran hynny. Mae amddiffyn eu hunain yn fater cwbl wahanol.

Do, magwyd fi ar aelwyd di-wialen a di-glatsio. Cafodd hynny ddylanwad arnaf finnau yn ei dro. Chodais i ddim llaw yn erbyn Dylan erioed. A gwn mai’r un fydd y stori yn ei hanes ef a’i ferch.

Cofiwch, roedd athrawon yn wahanol. Yn allanol roedd y Sgwlyn, John Griffith Williams, prifathro Ysgol Y Bont yn sant. Ond pan fyddai’n gwenu, dyna pryd fyddai ar ei beryclaf. Gosodai ei law ar fy mhen fel petai’n dweud, ‘Da iawn chi.’ Yna cydiai mewn cudyn o wallt (do, fe fu gen i wallt unwaith) a’i dynnu bron iawn o’r gwraidd.

Bryd arall safai y tu ôl i mi’n darllen fy ngwaith dros fy ysgwydd. Yna byddai’n cydio’n ysgafn yn fy ysgwydd. A gwyddwn beth ddeuai nesa – gwasged a phinsiad nes y byddwn ar fy ngliniau, bron. Chefais i erioed ddiodde’r gansen ganddo. Ond gwell fuasai un ergyd gwta ar honno na’r artaith arall hwnnw.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/660/ 2011-10-20T00:00:00+1:00 Sen ar anffyddwyr?
Roedd dydd Sul diwethaf yn ddyddiad arwyddocaol ar ein calendrau ni yn y fro hon. Ar 25 Medi y disgynnai dyddiad Ffair Gŵyl y Grog bob blwyddyn. Daeth i ben ganol y chwedegau, ond deil ar gof a chadw llawer ohonom, yr hen a’r canol oed.

Roedd Ffair Gŵyl y Grog y pumed o ffeiriau blynyddol a gychwynnwyd gan fynachod Ystrad Fflur. Fyny ar Ros Gelli Gron, lle’r oedd y fynachlog wreiddiol y cynhelid nhw gyntaf. Yna, wedi ail-godi abaty ar y safle presennol symudodd y ffeiriau i Ffair Rhos. Ac yna, gyda dim ond un ffair yn weddill, fe’i symudwyd i lawr gwlad i’r Bont.

Ond tybed nad yw’r ŵyl yn hŷn nag a feddyliwyd? Yn y Llew Coch nos Sadwrn cafwyd damcaniaeth ddiddorol gan fy nghyd-golofnydd Raymond Osbourne Jones. Cred ef mai’r rheswm gwreiddiol dros yr ŵyl oedd nodi diwedd y cynhaeaf. Hynny yw, dyna pryd fyddai’r medelwyr yn crogi eu crymanau a’u pladuriau. A wir i chi, mae’r ddamcaniaeth yn gwneud synnwyr.

Golyga hynny, wrth gwrs, ei bod hi’n bosib nad gŵyl Gristnogol oedd Ffair Gŵyl y Grog yn wreiddiol ond, yn wir, gŵyl baganaidd a drowyd yn ŵyl Gristnogol gan y mynachod. Mae yna enghreifftiau lu o ddigwyddiadau tebyg, wrth gwrs. A cheir llawer o amwysedd parthed hen arferion a dyddiadau fel hyn. Yn wir, codwyd llawer o addoldai ar safleoedd hen leoliadau paganaidd.

Daw hyn â fi’n dwt at ddadl fawr yr wythnos. Mae’r BBC, yn ei doethineb arferol, yn teimlo fod defnyddio’r acronymau BC (Cyn Crist i ni) ac AD (Oed Crist i ni) yn sen ar anffyddwyr a rhai o grefyddau eraill ac y dylid defnyddio’n hytrach BCE (Before the Common Era) ac CE (Common Era). Wn i ddim beth fyddai’r acronymau’n Gymraeg, CCC (Cyn y Cyfnod Cyffredin) ac CC (Cyfnod Cyffredin) hwyrach. Wedi i rai pobl gwyno, dyma’r Bîb yn esbonio y bydd gan y cyflwynwyr hawl i ddewis. Wel, diolch yn fawr.

I ddarllen mwyCLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/619/ 2011-09-29T00:00:00+1:00 Beic bach efo enaid
Roedd e yno’n disgwyl amdanaf dan gysgod coeden ffigys Andreas. Yno y’i gadewais flwyddyn yn gynharach. Yn y cyfamser, ni fu neb ar ei gyfyl. Braf oedd gweld yr hen gyfaill.

Cyfeirio ydw i at sgŵter bach ffyddlon Mici Plwm. Fe brynodd e’r Yamaha Chappy bach gwyn a choch yn ail law ymron ddeng mlynedd yn ôl at ei ddefnydd ei hun ar Ynys Agistri. Yn absenoldeb y perchennog, caf dragwyddol ryddid i’w ddefnyddio yn ystod fy ngwyliau blynyddol. Dydi e fawr cryfach na pheiriant torri lawnt 50 cc. Ond mae e’n mynd. A dyna beth sy’n cyfrif.

Byddai unrhyw un call yn wfftio’r syniad. Ond credaf yn gryf fod i ambell beiriant y fath beth ag enaid. Dyfais fecanyddol yn meddu ar gynneddf ysbrydol? Rwtsh! medde chi. Ond wrth i mi nesáu ato drwy’r brwgaitsh ar ôl blwyddyn o fod ar wahân, gwelwn yr Yahama bach yn gryndod o groeso. Oedd, roedd e’n crynu’n groesawgar fel ci yn disgwyl am ei feistr i fynd ag ef am dro. Yna dyma ruthr. Ac allan oddi tano fe saethodd gwningen goch a gwyn. Dim ond wedyn wnes i sylweddoli mai Archie, bwchyn anwes Nektaria, merch Andreas oedd wedi bod yn nythu yno.

Cofiwch, rwy’n dal i gredu fod gan y beic bach enaid. Hyd yn oed wedi i Archie ffoi, daliai i grynu. Petai ganddo gynffon, chwedl rhywun mwy dyfeisgar na mi, buasai wedi ei hysgwyd.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/591/ 2011-09-16T00:00:00+1:00 Cofeb deilwng i Hedd Wyn o’r diwedd
……...Na, yr hyn a’m plesiodd fwyaf oedd cael ymweld â bedd Hedd Wyn yn Fflandrys, ger pentref Pilkem, sydd nid nepell o dref Ieper (neu Ypres mewn Ffrangeg). Credaf mai hwn yw’r pumed tro imi fod yno, ac mae pethau’n newid ar bob ymweliad. Y tro hwn, gwelwyd fod ychwanegiadau wedi eu gwneud i’r safle sy’n nodi’r man lle cwympodd y bardd yn ystod y frwydr. Mae’r llecyn hwnnw rhyw chwarter milltir i fyny’r ffordd o fynwent Artilery Wood lle y ceir y maen gwyn i nodi ei orffwysfan yng nghanol tua deuddeg cant arall.

Dadorchuddiwyd y plac tairieithog – Fflemeg, Cymraeg a Saesneg ar achlysur dathlu canmlwyddiant ei eni. Erbyn hyn y mae’r Ddraig Goch yn chwifio uwch y plac a’i gerdd enwocaf – ‘Rhyfel’ yn ogystal ag englyn o’i waith wedi eu gosod ar y mur o frics coch. O’r diwedd, mae cofeb deilwng iddo, fel sydd i fardd o’r Iwerddon gerllaw mynwent Artillery Wood.

Wrth droi yn Boezinge a theithio i bentref Pilkem (i gyfeiriad Langemark), dowch at stad ddiwydiannol sydd wedi tyfu gryn dipyn ers y tro diwethaf i mi fod yno. Wrth basio’r stad, gwelir arwydd brown ‘Yorkshire Trench’, ychydig cyn cyrraedd y tro i fynwent Artillery Wood. Cofiais am raglen deledu a welais yn ddiweddar oedd yn adrodd hanes darganfod ffos o’r Rhyfel Mawr wrth adeiladu’r stad. Rhaid, felly, oedd galw yno a pharcio’r car gerllaw’r llecyn. Gadawyd darn o dir a glustnodwyd ar gyfer ffatri fach yn wag ac yno y mae’r ffos. Gwagiwyd y sachau tywod a’u llenwi gyda choncrid, felly y mae’n bosib cerdded i’r ffos a chael ychydig o brofiad o’r fath le. Dyddia’r ffos hon o 1915 a chwta bum llath o’i blaen mae olion ffos arall o 1917. Ia’n wir, hynny oedd y cwbl a enillwyd mewn dwy flynedd, gyda chosb aruthrol mewn dynion, mae’n siŵr.

Mae’r tri lle y soniais amdanynt i gyd o fewn milltir i’w gilydd. Rwy’n siŵr o ddychwelyd rhyw dro eto a gobeithiaf y bydd ychwanegiadau i’r safle lle y coffeir y bardd.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/534/ 2011-08-25T00:00:00+1:00 Cynnu tân ar hen aelwyd
O bryd i’w gilydd gofynnir i mi adolygu ambell gyfrol. Ac o wneud hynny sylwais yn ddiweddar ar rywbeth sy’n gyffredin iawn rhwng awduron a cholofnwyr – fi yn eu plith – sef bod yr arddull yn aml yn fflat a difflach. Gall hyd yn oed y syniad gorau gael ei becynnu mewn arddull ddienaid. A deuthum i’r casgliad mai’r rheswm yw ein bod ni, y rhelyw ohonom, wedi cefnu ar y defnydd o idiomau.

Idiomau i mi yw morter muriau’r iaith. Dyma beth sy’n ei chynnal. Buont yn rhan naturiol o iaith pawb ohonom. Roedd cymeriadau’r ardal hon yn frith o idiomau a phriod-ddulliau pert. Byddai Mam, wrth sôn am rywun oedd yn baent a phowdwr ac yn jinglings i gyd fel ‘pen punt a thin dimau’. Dyna’i chi wedyn rywun oedd yn ymddangos fel sant ond yn gas i’w wraig a’i deulu: ‘angel pen ffordd ond diawl pen pentan’.

Un o’r mwyaf gwreiddiol ei hidiomau oedd Meri Bwlch-gwynt. Disgrifiai rywun a oedd wedi ei esgymuno gan ei deulu, neu rywun oedd yn honni bod yn gefnog ond a oedd, mewn gwirionedd, heb ddimau goch y delyn fel ‘etifedd heble’. Hynny yw, etifedd heb le. A beth am rywun wedyn a oedd yn meddu ar yr un beiau â’i dad neu ei fam? Wel, ‘pwdin o’r un badell’ oedd rhai felly.

Bu’r rhain yn idiomau cydnabyddedig yn y fro. Ond weithiau deuai perl annisgwyl. Roedd dwy gymdoges wedi symud o rostir Ffair Rhos i fyw mewn tai cyngor yn y pentref. Un dydd roedd un ohonynt yn brolio wrth y ddynes drws nesaf am ei chelfi a’i charpedi newydd. A dyma’r gyn-gymdoges yn gweiddi lawr y stryd: ‘Cau dy geg. Rwy’n cofio adeg pan fyddai’r ddwy ohonon ni’n caca yn yr un pwll mawn’. Ardderchog.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/519/ 2011-08-18T00:00:00+1:00 Rwy’n falch i mi dderbyn yr anrhydedd
PETAI rhywun wedi dweud wrtha’i hanner canrif yn ôl y byddwn, rywbryd, yn cael fy ngwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd byddwn wedi chwerthin yn uchel. I mi, yn fy ieuenctid ffôl, fersiwn ddiwylliannol o’r Seiri Rhyddion oedd yr Orsedd, tipyn o gyff gwawd. Doedd hi’n ddim ond cyfrwng i ddynion a menywod hunanbwysig yn eu hoed a’u hamser i wneud ffyliaid o’u hunain.

Wrth i mi fynychu Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr, newidiais fy meddwl. Deuthum i werthfawrogi’r sefydliad. Ond hyd yn oed wedyn, wnaeth e ddim hyd yn oed croesi fy meddwl y byddwn i, un diwrnod, yn cael bod yn aelod o’r cylch anrhydeddus hwn. Yn wir, hyd yn oed wedi i mi dderbyn y gwahoddiad, bûm mewn cyfyng gyngor am hydoedd cyn penderfynu.

Yr hyn a drodd y fantol oedd clywed, drwy ddirgel ffyrdd, pwy wnaeth fy enwebu. Dydw’i ddim gant y cant yn sicr, ond mae gen i deimlad mai fy hen gyfaill Selwyn Jones oedd un ac mai Aled Parc Nest oedd y llall. Yr oedd yna reswm arall dros dderbyn hefyd – Jim, brawd mawr Aled fyddai’n fy nerbyn. Ac fe wnaeth y ffaith mai ef fyddai’n gwneud hynny chwalu pob amheuaeth.

Ac rwy’n wirioneddol falch i mi wneud. Fel un na chollodd fwy na hanner dwsin o Eisteddfodau Cenedlaethol ers fy un gyntaf yng Nghaernarfon yn 1959, teimlwn nad oedd yna ddim na wyddwn bellach am y Brifwyl. Twyllo fy hunan wnes i dros yr holl flynyddoedd. Bu’r profiad o gael mynediad i stafelloedd gwisgo’r Orsedd y tu ôl i’r llwyfan yn agoriad llygaid.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/504/ 2011-08-12T00:00:00+1:00 Mae angen gwyntyllu’r holl fater
O’R diwedd fe dorrodd yr argae. Nid dŵr glân wnaeth lifo allan ond llysnafedd a fu’n crynhoi ers blynyddoedd. Na, nid y ffaith i stori hacio’r News of the World ddod i olau dydd o’r diwedd sy’n creu syndod ond y ffaith i hynny gymryd cymaint o amser i ddigwydd.

Gadewch i ni wynebu ffeithiau i gychwyn. Mae pawb ohonon ni’n hoffi darllen neu glywed am sgandalau. Rwy’n siŵr i hyd yn oed y sinig mwyaf gael rhywfaint o bleser o olrhain rhagrith pobl fel Ryan Giggs neu’r bancwr a’r bonciwr Syr Fred Goodwin. Mae unrhyw un sy’n llygad y cyhoedd yn agored i gael ei bardduo, ac ambell un yn llawn haeddu hynny. A pham ddylai arian fod yn llinyn mesur rhwng datgelu a chadw enw neu weithred yn gyfrinachol? Ond mae hacio ffons poced teuluoedd lladdedigion fel Millie Dowler, Holly Wells a Jessica Chapman, Sarah Payne a lladdedigion 7/7 yn mynd y tu hwnt i newyddiaduraeth. Yn wir, mae hyn bron iawn â bod yn necroffiliaeth.

Yn anffodus, ochr yn ochr â thorri’r stori fe gyfyd rhyfyg ei ben hyll unwaith eto. Dyna’i chi’r amseriad – wythnos cyn y penderfyniad ar obeithion ymerodraeth News International, perchenogion y News of the World a Sky i ymestyn ei gorwelion. Cyd-ddigwyddiad? Penderfynwch chi.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/460/ 2011-07-08T00:00:00+1:00 Cyfiawnhad dros gwtogi nifer swyddogion?
YN y papur yn ddiweddar, gwelais fod Cyngor Gwynedd yn hysbysebu swydd ‘Rheolwr Arweiniol Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd. Doedd dim cyflog yn cael ei nodi yn yr hysbyseb, ond clywais gan gyfaill sy’n dal yn athro, fod yr ysgolion uwchradd wedi cael gwybodaeth am y swydd, a’r cyflog yn £52,000 y flwyddyn.

Cafodd swyddog ei benodi i swydd fel hon ar gyfer ad-drefnu addysg yn ardal y Bala. Rwy’n cymryd fod y cyflog yr un fath ond welais i ddim mohoni’n cael ei hysbysebu yn unman. Sut oedd hi’n bosib cyfiawnhau llenwi swydd oedd heb gael ei hysbysebu, tybed? Wedi gweld yr hysbyseb, fe gyfyd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r swydd hon beth bynnag:

1. Pam fod angen swyddog ychwanegol mewn cyfnod o doriadau pan fod swyddogion oddi fewn y Cyngor a allai wneud y gwaith fel rhan o’u swyddi presennol?

2. Sut fod hi’n bosib torri ar addysg ar un llaw a chyfiawnhau gwario’r swm hwn ar yr un pryd?

3. Os cofiaf yn iawn, rhyw ffigwr o gwmpas y £70,000 oedd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng cau Ysgol y Parc a’i chadw ar agor. Byddai’r £52,000 a wariwyd ers o leiaf ddwy flynedd a’r un swm dros y blynyddoedd nesaf yn fodd i gau’r bwlch hwn a thrwy hynny, gadw’r ysgol hon ar agor hyd nes y byddai’r nifer o ddisgyblion sydd ynddi wedi codi – fel sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf yn ôl pob sôn.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/371/ 2011-06-03T00:00:00+1:00 Iwan oedd y Bobyddwr uwch y Bobyddion
NOSON o law mân oedd hi, a minnau a’r Llwydyn yn ymlwybro o’r Cŵps i’r Cambrian. Roedden ni’n trafod barddoniaeth. Dyma fi’n digwydd dyfynnu o un o ganeuon Bob Dylan:

Perhaps it’s the colour of the sun cut flat

And coverin’ the crossroads I’m standing at …

Dyma’r Llwydyn yn pen-glinio ar ganol Rhes y Poplys, yn gafael am fy nghoesau a dechrau adrodd gyda mi:

… Or maybe it’s the weather or something like that,

But mama, you been on my mind.

Dyfynnu Bob oedd yr unig sbardun oedd ei angen i anfon Iwan i bangfeydd o berlewyg. Bob oedd ei arwr. Iwan oedd y Bobyddwr uwch y Bobyddion.

Ddydd Mawrth roedd Bob Dylan yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. A’r bore hwnnw, beth wnaeth lanio ar y mat wrth ddrws y ffrynt ond copi o ‘Iwan, ar Daith’, yn boeth o Wasg Carreg Gwalch. Damio’r cyd-ddigwyddiadau hyn! Maen nhw’n digwydd yn llawer rhy aml y dyddiau hyn.

Dyna braf fu medru dathlu pen-blwydd Bob drwy ddarllen am ei arch-addolwr. Yn wir, mae yna gryn debygrwydd rhwng Bob a’r llun o Iwan ar glawr y gyfrol, portread ohono gan Gwyn Hughes.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/346/ 2011-05-26T00:00:00+1:00 Gwahaniaeth rhwng maddau ac anghofio
RWY’N ysgrifennu’r golofn hon oriau yn unig wedi i Frenhines gwledydd Prydain lanio yn Nulyn. Erbyn i’r golofn ymddangos, pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd yn ystod ei hymweliad. Yn sicr, mae’n achlysur sydd â’r posibilrwydd o fod yn drafferthus, a dweud y lleiaf. Ac fe wnaiff y mesurau diogelwch gostio £15 miliwn.

Pan oeddwn i draw yn Nulyn dros gyfnod priodas Wil a Cêt fe wnes i drafod â llawer o’r trigolion am yr ymweliad. Wnes i ddim cwrdd â neb oedd yn frwdfrydig dros y digwyddiad. Mae hynny, hwyrach, yn dweud llawer am y math o gwmni y byddaf yn dueddol o’i ddenu. Roedd y mwyafrif mawr yn gwbl ddi-hid, ond nifer hefyd yn wrthwynebus iawn….

…..Ymweliad y Frenhines Elizabeth  yw’r cyntaf ers ymweliad ei thad-cu, Siôr V gant namyn un o flynyddoedd yn ôl. Ers wythnosau mae Sinn Fein wedi bygwth protestiadau tra mae’r awdurdodau’n gofidio’n fawr am weithgaredd cynyddol carfannau fel yr IRA Parhaol a’r IRA Real. Y rhain bellach sy’n honni eu bod nhw wedi etifeddu mantell Gwrthryfelwyr y Pasg, honiad cwbl gyfeiliornus. Eu prif bwrpas yw chwalu Cytundeb Sul y Groglith a arweiniodd at y sefyllfa anhygoel o Ian Paisley a Martin McGuinness yn cyd-eistedd yn 1998.

Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr IRA gwreiddiol, a epiliwyd yng Ngwersyll y Fron-goch yn 1916 a’r carfannau a wnaeth ddilyn. Fyddai hyd yn oed Deuddeg Apostol Michael Collins, ei garfan o ddienyddwyr personol, ddim wedi gadael bomiau fel y honno a adwyd yn Omagh yn 1998 ac yna ffoi. Roedd yr IRA gwreiddiol, pobl fel Tom Barry – y cefais y fraint o’i gyfarfod – yn ddynion o egwyddor.

Ond does dim rhyfedd fod yna wrthwynebiad cryf i ymweliad y Frenhines Elizabeth. Mae gan y Gwyddelod gof hir, cof cenedl a gam-lywodraethwyd am ganrifoedd. Cytunaf â barn Llywodraeth y dydd yn Iwerddon y dylid maddau bellach a chymodi. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng maddau ac anghofio. Ac mae hanes y gorffennol yn Iwerddon wedi ei serio ar eneidiau’r Gwyddelod.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/313/ 2011-05-20T00:00:00+1:00 Perfformiadau hudolus mewn cyfnod llewyrchus
DWY ddrama gyfnod fenywaidd, gwbl wahanol yr wythnos hon, wrth imi ymweld â theatrau’r Trycyle a’r Arts yma yn y ddinas fawr. Mae’n gyfnod llewyrchus unwaith eto, a job dal i fyny efo’r llwyth o gynnyrch newydd sy’n britho theatrau’r ddinas.

Does gen i ddim cywilydd cyfaddef mai gwael iawn fues i mewn gwersi Saesneg yn Ysgol Dyffryn Conwy, a does ryfedd felly mod i wastad yn drysu rhwng y Jane Eyre a Jane Austin! Roeddwn i’n fwy na hapus o fedru dal cynhyrchiad diweddara’r pwerdy dramatig Shared Experience o dan law’r dewin Nancy Meckler. ‘Brontë’ oedd teitl y cynhyrchiad, wedi’i gyfansoddi neu ei gasglu ynghyd gan y dramodydd Polly Teale.

……Dyma gynhyrchiad fyddai’n ei gofio am amser maith, nid yn unig am yr ochor addysgiadol ond am y taclusrwydd artistig, a pherfformiadau tanbaid y teulu cyfan.

O’r Brontë’s i ‘Bette and Joan’ yn yr Arts Theatre, a hanes perthynas ffrwydrol dwy o Divas mwya’ Hollywood, Bette Davis a Joan Crawford.

Wedi gyrfaoedd hynod o lwyddiannus, a brwydrau geiriol dros gyfnod o 30 mlynedd, mae’r ddwy eicon Americanaidd yn dod wyneb yn wyneb ar set y ffilm ‘Whatever happened to baby Jane?’. Mae’r ddrama wedi’i osod yn ystafelloedd newid y ddwy, ar set y ffilm, ble mae’r ‘Crawford’ (Anita Dobson) ffysi a ffyrnig, yn ei moethusrwydd melfed yn rhestru gwendidau ei chyd-actores, a’i thafod miniog, eiddigeddus. Gyferbyn â hi, yn ei gwedd brudd, amrwd a blêr mae’r ‘Davis’ (Greta Scacchi) nodweddiadol o’i hymddangosiadau diffwdan, real a chaled, yn tanio’i ffordd drwy’r sigaréts a’i surni tuag at yr eicon arall ochor draw i’r drych.

......Perfformiadau tanbaid a theilwng Dobson a Scacchi am ddiddanodd mwyaf, ac roedd y ddwy fel tân gwyllt yn ffrwydro’n lliwgar drwy gydol y sioe. Roedd eu hamseru a’r awyrgylch a grëwyd ganddynt mor danbaid â’r deunydd oedd yn cael ei drafod.

Gwych iawn. Mynnwch eich tocynnau nawr!

Mae ‘Brontë’ ar daith ar hyn o bryd tan y 4ydd o Fehefin a ‘Bette a Joan’ yn yr Arts Theatre tan y 25ain o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.artstheatrewestend.com a www.sharedexperience.org.uk
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/283/ 2011-05-13T00:00:00+1:00 Dianc rhag y sbloet cyfoglyd
YN gyntaf, ymddiheuriadau dwys i William a Kate am i mi golli eu priodas. Chlywais i’r un gair o’r oriau a ddarparodd Radio Cymru ar gyfer y sioe fawr. Ni welais yr un eiliad o’r digwyddiad mawr ar S4C. Yn hytrach ffeiriais y coch, gwyn a’r glas am y gwyrdd, gwyn ac aur.

Yn blygeiniol ddydd Gwener rown i’n un o griw o bedwar a hedfanodd allan o Faes Awyr Caerdydd am Ddulyn. Gwell oedd gen i feddwi ar Ginis nag ar Brydeindod. O ganlyniad, yr unig goch, gwyn a glas ar gyfyl fy nghorpws brau oedd fy llygaid wrth i mi edrych yn y drych fore dydd Llun.

Fy ngorchwyl cyntaf yn Nulyn fu chwilio am arwyddion o’r dirwasgiad sydd wedi hitio gwlad y Gwyddyl. A methu. Am bump o’r gloch brynhawn dydd Gwener roedd bar Toners a’r palmant y tu allan yn un môr o ddynoliaeth. Heb un faner Jac yr Undeb ar gyfyl y lle. Yr un oedd y stori yn Dohenny and Nesbits ac O’Donoghues.

Brynhawn dydd Sadwrn roedd Grafton Street dan ei sang o bobl yn siopa, ac o berfformwyr stryd a byscyrs. Ac yno y gwelais y perfformiwr stryd mwyaf gwreiddiol i mi weld erioed. Gŵr o Batagonia oedd e, yn ymddangos fel petai ar frys gwyllt. Ond yn hytrach safai yn ei unfan gan blygu ymlaen yn erbyn gwynt dychmygol. Roedd ei wallt wedi ei frwsio tuag yn ôl, ei got a’i dei fel petai nhw’n cael eu chwythu gan y storm ddychmygol. Cariai fag dogfennau a gallasech dyngu ei fod e ar ei ffordd i’w swyddfa. Ond ‘syfrdan y safai’, fel petai wedi ei rewi mewn amser ar hanner cam. Roedd tincial darnau arian a ddisgynnent yn y tun o’i flaen ar y palmant yn dyst i ymateb pobl i’w ddychymyg.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/261/ 2011-05-06T00:00:00+1:00 Rhy hen i’r fath hurtni?
MYFYRIWR yn y swyddfa ‘cw soniodd gyntaf am y ddrama gerdd ‘The 25th Annual Putnam County Spelling Bee’, pan gyhoeddodd y Donmar Warehouse eu bod am lwyfannu cynhyrchiad o’r ddrama gerdd o gomedi gan William Finn a Rachel Sheinkin. Chlywais i erioed amdani cyn hynny, ac yn wir doedd y teitl ddim yn apelio nac yn swnio fel drama gerdd! A bod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn dalld y teitl hyd yn oed, ac wrth gamu mewn i’r Donmar ar gyfer eu perfformiad olaf ond un pnawn Sadwrn diwethaf, doeddwn i fawr callach!

Gweddnewidiwyd gofod unigryw’r Donmar i fod yn Gampfa mewn Ysgol Uwchradd, yn swydd Putnam yn yr Amerig. Fel y gallwch fentro, roedd popeth dros ben llestri yn las a melyn, yn fflagiau a baneri, yn fyrddau a chadeiriau, yn farciau ar y lloriau a nyth pêl rwyd yn crogi uwchben y cyfan. A minnau fel arfer yn hwyr, (diolch i dwristiaid Sadwrn y ddinas a chynlluniau cwbl hurt Trafnidiaeth Llundain i adnewyddu’r twneli tanddaearol ar ddiwrnod prysura’r wythnos!) dyma gyrraedd fy sedd i ganfod rhai o’r actorion eisoes ymhlith y gynulleidfa ac ar y llwyfan. Ein croesawu a’n cyfarch oedd eu bwriad, ac o’n blaen roedd chwe myfyriwr, ynghyd a lodes benfelyn hynod o drawiadol, yn ein hannog i eistedd ar gyfer y gystadleuaeth sillafu enwog.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/232/ 2011-04-08T00:00:00+1:00 Llenwi’r Cyfrifiad am y tro cyntaf erioed
DIDDOROL oedd darllen colofn y cyfaill o Bontrhydfendigaid (fel y mae hi bob wythnos wrth gwrs) ar ei brofiadau personol gyda ffurflen y Cyfrifiad. Bu i minnau ei llenwi hefyd y tro hwn, a hynny am y tro cyntaf erioed.

I fyny at Gyfrifiad 1961, fy nhad oedd yn ei llenwi , ond yn 1971 a minnau’n byw yn Wrecsam, gwrthodais ei llenwi, gan gymryd rhan mewn protest i’w llosgi’n gyhoeddus oherwydd nad oedd ar gael yn y Gymraeg.

Ym 1981 ac ym 1991, digwyddodd yr un peth wedyn, ac o ganlyniad, y bûm i o flaen llys barn un tro am wrthod ei llenwi. Os cofiaf yn iawn, un tro yn unig y bûm o flaen llys, a does gen i ddim syniad pam na fûm fwy na hynny am wneud yr un peth – sef gwrthod llenwi’r ffurflen.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/210/ 2011-04-01T00:00:00+1:00 Dai oedd y catalydd yn y criw
MAE yna rai nad oes arnynt angen cyfenw. Dyna’i chi Peter Goginan, Dai Llanilar, Ifan Tregaron a John Bwlchllan. Un arall oedd Dai Ffostrasol. A rhyfedd yw gorfod defnyddio’r gair ‘oedd’ i ddisgrifio Dai.

Dai Thomas oedd e, er na wnâi neb ddefnyddio’r cyfenw. Er mai ef oedd y tawelaf, ef oedd yr amlycaf o’r criw a gaent eu hadnabod fel Bois Ffostrasol. Hwy, wrth gwrs, oedd prif grŵpis Edward H. Ble bynnag y perfformiai’r band, yno y byddai Bois Ffostrasol. Teithient mewn hen fen, ac ynddi y byddent yn cysgu (pan wnaent gysgu). Eu nodwedd o ran gwisg oedd clymu macyn coch am eu gyddfau.

Priodolir amryw o gampau i Fois Ffostrasol. Roedden nhw’n fedrus iawn mewn bathu geiriau ac ymadroddion. Nhw glywais i gyntaf yn galw glanhawr carpedi yn folgi baw. Nhw glywais i gyntaf yn cyfeirio at ganabis fel baco digri.

Dai oedd y cymeriad mwyaf yn eu plith er mai ef oedd y tawelaf. Ond yn ei dawedogrwydd oedd ei hynodrwydd. Ni ddwedai rhyw lawer, ond byddai pob gair a ddeuai o’i enau, os yn aml yn aneglur, yn bwrpasol. Clywais gyfeilles i mi’n dweud iddi unwaith stopio i roi lifft i Dai ychydig y tu allan i Aberystwyth. Yn ystod y siwrnai i Ffostrasol, ni wnaeth ond tri sylw. Fel hyn yr aeth y daith. Stop, agor y ffenest a gofyn, ‘Ti’n moyn lifft, Dai? Atebodd Dai, ‘Odw’. Tua Llannon dyna ofyn, ‘Ti’n cadw’n dda, Dai?’ Dyma Dai yn ateb, ‘Odw’. O gyrraedd Ffostrasol dyma’r ferch yn gofyn, ‘Yma wyt ti am fynd lawr, Dai?’ A Dai’n ateb gyda dau air y tro hwn, ‘Ie. Diolch.’…….

……..Hwyl i ti’r hen foi, a diolch am dy gwmni tawel. Boed i ti fod yn rhan dragwyddol o’r freuddwyd roc a rôl.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/181/ 2011-03-25T00:00:00+1:00 Arwydd o’r theatr ar ei orau
Roeddwn i wedi bwriadu sôn yr wythnos hon, am fy anturiaethau yng Ngwobrau’r Oliviers dros y Sul, ond wedi dychwelyd heno o Gaerdydd, wedi gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol, sef ‘Deffro’r Gwanwyn’, mae’r ysfa i rannu’r genadwri a’r balchder yn llawer mwy.

Heb oes, mae enw drama ‘ddadleuol’ yr Almaenwr Frank Wedekind sef ‘Spring Awakening’ yn dra hysbys, a hynny am ei ymdriniaeth onest, swrth a chynnil o ddeffroad rhywiol ymysg yr ifanc. Pa ryfedd felly fod y deunydd llenyddol wedi ysgogi’r Americanwyr Steven Sater a Duncan Sheick i droi’r cyfan yn ddrama gerdd roc cyfoes. Ychwanegwch at hynny gyfieithiad pwerus a gonest Dafydd James (awdur y ddrama ‘Llwyth’) a’i gyfuniad bwriadol o’r llenyddol barddonol a bratiaith amrwd, ac fe gewch chi ddewis dewr iawn i unrhyw gwmni theatr, a sialens enfawr i ensemble o actorion a chyfarwyddwyr………

……Yr hyn am trawodd fwyaf am y cynhyrchiad ydi dyfnder cyfarwyddo cyhyrog Elen Bowman, sy’n gwthio’r actorion ar daith gorfforol a meddyliol, y tu hwnt i eiriau dethol Dafydd James. Y mae yma aeddfedrwydd a gonestrwydd ffres a chynhyrfus, a gwir deimlad bod pob un o’r tri actor ar ddeg yn cyfrannu cant y cant tuag at lwyddiant y cyfanwaith. Diolch o galon i’r actorion hynny am dderbyn y sialens, ac am roi inni gynhyrchiad safonol, dirdynnol sy’n llwyr haeddu’r teitl a’r llwyfan Cenedlaethol….....

.......Mae ‘Deffro’r Gwanwyn’ ar daith ar hyn o bryd. Da chi, peidiwch â’i fethu. 22-23 Mawrth Canolfan Hamdden Pontardawe, 25-26 Mawrth Canolfan Hamdden Aberaeron, 29 Mawrth - 01 Ebrill Canolfan Hamdden Dolgellau, 05-06 Ebrill Canolfan Hamdden Llanrwst, 8-9 Ebrill Canolfan Hamdden Wrecsam, 12-15 Ebrill Canolfan Hamdden Biwmares.

I ddallen y golofn yn ei chyfanrwydd CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/158/ 2011-03-18T00:00:00+1:00 Profiad gwahanol mewn dinas wallgo’
DO, bûm yn y gêm yn y Stadio Flaminio yn Rhufain ond nid wyf am adrodd hanes honno fel y gwnes ddwy flynedd yn ôl. Eithr wedi i ni aros am rai dyddiau yn Lanuvio – tua thri chwarter awr o Rufain ar y trên, a chael lle eithriadol o dda yn ôl yr arfer, aeth y pedwar ohonom am ddinas Napoli ar y dydd Llun wedi’r gêm.

Cychwynnwyd ar ganol y bore, gyda Franco, gŵr y gwely a brecwast, yn ein danfon at y trên. Yna teithio i Napoli, taith o ryw ddwy awr a hanner a dilyn y cyfarwyddiadau i’r gwely a brecwast yn y fan honno drwy ddefnyddio’r metro a’r ‘funiculare’ – sef y trên i fyny ochr y bryn y saif rhan o’r ddinas arno. Yn ystod y daith o’r orsaf fe welsom yn fuan nad oedd hon yn debyg i unrhyw ddinas arall y bûm ynddi yn yr Eidal. Roedd hi’n hollol wallgo’, gyda cheir a motobeics yn gyrru’n wyllt, pobl yn gweiddi a phob man yn ardal yr hen dref yn sbwriel ac yn faw ci o dan draed.

Wedi cyrraedd y llety, oedd â golygfa hardd yn edrych dros y ddinas tua’r môr a llosgfynydd Vesuvius, gwelsom fod y perchennog, Raffaele, yn gymeriad hollol unigryw, gyda’r broblem leiaf yn gwneud iddo arddangos ei sgiliau dawnsio gwerin, gan neidio i fyny ac i lawr a chwifio ei freichiau fel petai’n ceisio hedfan.

I ddarllen gweddill y golofn CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/159/ 2011-03-18T00:00:00+1:00 Wyth cân yn talu am eu lle
BU wythnos Gŵyl Ddewi’n gyfnod hynod o brysur yma yn y Bont. Gydol yr wythnos bu yna ffilmio yn y Pafiliwn Cenedlaethol, y gweithgareddau’n cyrraedd eu huchafbwynt gyda thelediad byw o Cân i Gymru nos Sul.

Wnes i ddim mynd i’r achlysur, er nad oedd e’n digwydd ond hanner milltir i ffwrdd. Ond fe wyliais i’r rhaglen ar y teledu a chael fy mhlesio’n fawr. Am y tro cyntaf ers tro cafwyd wyth gân safonol, yr wyth yn talu’n llawn am eu lle. Roedd y cyflwyno’n llyfn ac yn ddiwastraff yn nwylo Elin Fflur a Daf Du. A bu’r telediad slic yn bluen arall yn het cwmni teledu Avanti. A gobeithio fod y Pafiliwn wedi plesio. Dyma, wedi’r cyfan, yr adnodd gorau o’i fath yng Nghymru.

Da o beth fu cael Rhydian fel gwestai i ganu ‘Yma o Hyd’. Roedd llwyddiant yr ymgyrch ‘Ie’ yn amlwg yn y dathliad. Gydol pnawn dydd Gwener bûm yn gwylio’n ddyfal raglen S4C ar y canlyniadau. A do, fe ymhyfrydais yn y ffaith i garfan ‘Na’ gael crasfa dda. Er y bydd arna’i hiraeth mawr am y ddau ‘No-hoper’, Bill Hughes a Syr Eric Howells. Diolch bois, mae fy esgyrn i’n dal yn boenus wedi’r holl chwerthin.

I ddarllen gweddill y golofn CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/122/ 2011-03-11T00:00:00+1:00 Amser a ddengys
NEWYDDION da i gychwyn, gyda’r cyhoeddiad yr wythnos hon mai Arwel Gruffydd sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Fe gofiwch mai Arwel fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cynhyrchiad llwyddiannus o ‘Llwyth’ rai misoedd yn ôl, felly mae’r gobaith a’r ffydd yn fawr, am arlwy amrywiol a gweledigaeth ac arweiniad deallus a dramatig. Llongyfarchiadau mawr ar ei benodiad, ac amser a ddengys…

Ac wrth sôn am lwyddiannau, rhaid imi annog pob un ohonoch i fentro i’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain i weld y campwaith theatrig, ‘Frankenstein’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle. Boyle oedd yn gyfrifol am y ffilm ‘Slumdog Millionaire’ a gipiodd cymaint o wobrau rai blynyddoedd yn ôl.

Gogoniant y cynhyrchiad ydi gweledigaeth a synnwyr dramatig cryf Boyle, sydd, drwy ei dîm profiadol sef y cynllunydd set Mark Tildesley, y cynllunydd goleuo Bruno Poet a chynllunydd gwisgoedd Suttirat Anne Larlarb, yn mynd â ni ar daith drwy’r blynyddoedd, yn gronolegol a daearyddol i gorneli pellaf y byd. Cipiodd y cynhyrchiad fy ngwynt mewn mannau, wrth imi syllu’n gegrwth at fawredd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu ar y llwyfan o’m blaen. Anghofiai fyth, tra byddai fyw, yr olygfa sy’n cyfleu’r Chwyldro Diwydiannol, wrth i’r peth gosaf at drên yn llawn o drugareddau hyrddio’i ffordd yn llawn pobol ag arfau a stem i ganol y gynulleidfa, gan fwrw ei gysgodion prysur ar gefn y llwyfan. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac sain wreiddiol sy’n gyfuniad perffaith o synau a cherddoriaeth gan y grwp Underworld.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA
http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/86/ 2011-03-04T00:00:00+1:00