Colofnwyr

RSS Icon
13 Mawrth 2017
Gan GLYNDŴR CENNYDD JONES

Galwad am Gonfensiwn Cyfansoddiadol

Ar adeg ein bod yn nesáu at groesffordd o ryw fath yn ein taith drwy’r ynys, mae Glyndŵr Cennydd Jones yn archwilio pam mae angen Confensiwn Cyfansoddiadol

WRTH grynhoi natur a swyddogaethau’r Deyrnas Unedig (DU) heddiw, mae cyflwyniad i’r adroddiad sy’n dwyn y teitl ‘Datganoli a Dyfodol yr Undeb’ (Uned Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain: Ebrill 2015) yn esbonio bod yr “undeb economaidd yn rhoi marchnad sengl i’r DU, gydag arian sengl a threfn ariannol ganolog gref.

“Mae’r undeb cymdeithasol yn darparu undod cymdeithasol sy’n rhwymo’r DU at ei gilydd, trwy ailddosbarthu refeniw, ac yn cronni a rhannu’r risg trwy fudd-daliadau lles a phensiynau.

“Yn yr undeb gwleidyddol, mae pob rhan o’r DU yn cael ei gynrychioli yn Senedd San Steffan, sy’n rheoli’r undebau economaidd a chymdeithasol, ac fel y Senedd sofran ei hun yn gallu ail-lunio’r undeb gwleidyddol.”

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i dynnu sylw fod “Whitehall yn brin o’r gallu i feddwl am yr Undeb am ei fod wedi gwthio materion datganoli i’r ymylon” a bod “llunio polisïau datganoli bellach wedi dod yn fater rhuthro hyd at bwynt o fyrbwylltra.”

Caiff yr arsylw hwn ei adlewyrchu yn yr adroddiad ‘Confensiwn Cyfansoddiadol’ (Sefydliad Materion Cymreig: Ebrill 2015) o’r un mis sy’n honni bod “polisïau ledled y DU a’r undeb wedi cael eu trin mewn ffordd ad-hoc a dull adweithiol ac ni fu fawr meddwl cydlynol i fynd i’r afael â rôl yr undeb yn ei gyfanrwydd.”

Niweidiol i Gymru

Yn ddiddorol, mae’r ymatebwyr i’r confensiwn yn teimlo bod “polisïau Llywodraeth y DU yn aml yn niweidiol i Gymru ac nid yn gweddu â graen y farn gyhoeddus” a bod yna “ddiffyg gweledigaeth am yr hyn y dylai’r undeb darparu ar gyfer pob person yn y DU gwaeth a ydynt yn byw yn Belfast neu Fangor.”

Mae’r heriau hyn wedi dod yn fwy i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf trwy’r gwahaniaethau gwleidyddol sy’n cynyddu ar draws y pedair gwlad yn ogystal â’r dadleuon egnïol am Bleidleisiau Saesneg ar gyfer Cyfreithiau Saesneg, ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, a Mesur Cymru 2016-17.

Er enghraifft, mae ymgynghoriad ar yr opsiynau dylunio ar gyfer Senedd i Loegr ar hyn o bryd ar y gweill yn yr Uned Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain.

Mae canlyniad y refferendwm Undeb Ewropeaidd (UE) ym mis Mehefin 2016 wedi cymhlethu digwyddiadau ymhellach, yn enwedig o ran pennu’r broses gyfansoddiadol gywir ar gyfer sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon.

Yn Rhagfyr 2016, clywodd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig achosion dros ac yn erbyn a ddylai’r Senedd neu’r Llywodraeth cael yr awdurdod i gychwyn y broses ar gyfer gadael yr UE.

Wrth siarad ar ran Llywodraeth Cymru a’r prif weinidog Carwyn Jones, pwysleisiodd y bargyfreithiwr cyfraith gyhoeddus Richard Gordon PC, yn ei gyflwyniad ysgrifenedig, bod y DU yn awr yn “gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sy’n rhannu ac yn ailddosbarthu adnoddau a risgiau rhyngom at ein budd ac i hyrwyddo ein diddordebau cyffredin.”

Ymhelaethodd drwy egluro bod y Cynulliad yn defnyddio llu o bwerau drwy gyfraith yr UE a bod “datganoli yn ymwneud â sut mae’r DU yn cael ei llywodraethu ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth nad ydynt mewn perthynas hierarchaidd un i’r llall.”

Mae tôn yr honiad hwn yn arwyddocaol achos mae’r geiriau yn cyfeirio at fframwaith berthynas sydd yn fwy led-ffederal rhwng y pedair gwlad yn hytrach na’r model pwerau datganoledig a gadwyd yn ôl o fewn y wladwriaeth unedol trosafael.

Os oedwn am eiliad, ni ddylem danbrisio i ba raddau bod mynediad y DU i’r UE yn ystod y 1970au wedi tawelu mesur o ddadrithiad canfyddadwy ar draws ein hynysoedd ar adeg pan ‘roedd materion cyfansoddiadol newydd gael ei harchwilio’n fanwl gan y Crowther / Kilbrandon Brenhinol Comisiwn, a arweinyddiodd at refferenda datganoli Mawrth 1979 yng Nghymru a’r Alban.

Gellid awgrymu bod aelodaeth o’r UE wedi hybu a hyrwyddo parch at yr amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog bobloedd y DU a’r ieithoedd a siaredir.

Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ddywedodd cyn dyfodiad y Cynulliad yn 1999 mae “proses yw datganoli ac nid digwyddiad”.

Er yn gwbl briodol ar y pryd, roedd yn ddatganiad a anwyd, go debyg, o gydnabyddiaeth y byddai’r trefniadau ar gyfer Cymru yn cyfyngu’r tebygolrwydd o gynnydd o’r cychwyn, yn enwedig o’i chymharu â’r pwerau cadarn a gynigwyd i’r Alban.

Taith ansicr

Mae’r daith ers hynny wedi bod yn un o ansicrwydd, diffyg cyfeiriad strategol.

Crynhodd yr Arglwydd Elystan Morgan y safbwynt hwn yn ddiweddar drwy egluro: “Pan fyddwch yn delio â chyfnod hir o drosglwyddo pwerau bach, ddydd ar ôl dydd … ydych yn creu sefyllfa sydd bron yn gwarantu rhywfaint o niwrosis cyfansoddiadol ar ran cyfreithwyr Gymraeg.”

Roedd yn honni ymhellach fod “y Mesur Cymru 2016-17 yn ddiffygiol iawn a glasbrint ar gyfer methiant a thrychineb” yn enwedig oherwydd y “ffaith bod tua dau gant o bwerau wedi ei dal yn ôl —ac mae ei natur yn gwneud y mater yn nonsens.”

Ydy yn canlyn fod strwythur llywodraethu dibyniaeth yn arwain at ddiwylliant o ddibyniaeth, ac er gwaethaf dadleuon huawdl i’r gwrthwyneb, mae proffil economaidd rhannau cyfansoddol y DU yn tystio’n anghyfforddus?

Yna a yw system y wladwriaeth unedol, gyda datganoli wedi’i gynnwys fel atodiad, i’w gymharu’n lletchwith i’r berthynas rhwng rhiant/gwarcheidwad a pherson ifanc o ran datblygu atebolrwydd a chyfrifoldeb?

Ai dim ond drwy geisio mwy o annibyniaeth y bod unigolion yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a derbyn canlyniadau eu gweithredoedd mewn pryd—gan gymryd i ystyriaeth y pryderon dilys a safbwyntiau pobl eraill er budd ehangach?

Mewn termau cenedlaethol, mae yna wir wahaniaeth clir rhwng y golygfeydd dirfodol ac iwtilitaraidd o hunanlywodraeth.

Mae’r cyntaf yn galw am fwy o ymreolaeth syml oherwydd y gred ei bod yn hawl naturiol i genhedloedd, a’r olaf yn ei ystyried fel llwybr at greu gwell cymdeithas – i gyflawni’r uned wleidyddol fwyaf effeithiol er mwyn sicrhau’r twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol y mae pobl yn ei haeddu.

Gan ystyried ein bod i gyd yn y bôn yn gysylltiedig yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol yn y cyfnod modern trwy brofiadau a rennir yn ddiwydiannol, gwleidyddol a rhyngwladol, mae’r cwestiwn hwn yn annog gwahanol ymatebion gan ddibynnu ar le mae un yn rhoi pwyslais ar y raddfa mesur economaidd i gymdeithasol.

Ffordd arall o ddisgwyl ar y broblem a allai fod gofyn sut y gallem rymuso yn well bobl yr ynysoedd hyn o Lands End i John o ‘Groats a Londonderry i Newcastle i wella safonau byw a boddhad personol drwy system wleidyddol a pholisïau dilynol sy’n hyrwyddo llwyddiant economaidd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang wrth gynnal diogelwch mewnol ac allanol.

Os ydym yn wir agosáu at groesffordd o ryw fath ar ein taith ynys, mae angen trafodaeth drylwyr o’r modelau amgen priodol o lywodraethu drwy Gonfensiwn Cyfansoddiadol.

Rhannu |

Digwyddiadau

Atodiad Cartref

Atodiad Cartref